Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Anabledd Dysgu – Trawsnewid

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ynghylch trawsnewid y Gwasanaeth Anableddau Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar y gwaith o drawsnewid y tîm Anableddau Dysgu.

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol (TADC), sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i unigolion a theuluoedd, gan alluogi pobl i fyw'n annibynnol gyda chefnogaeth yn y gymuned. Mae'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu yn hyrwyddo egwyddorion Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan 1984, sy'n gosod y fframwaith o fewn model cymdeithasol o ofal a ategir gan ddull o weithredu sy'n seiliedig ar hawliau.

Gofynnwyd am eglurhad ar y materion canlynol:-

• A yw'r trothwy ar gyfer y Gofrestr Anabledd Dysgu yn cael ei benderfynu’n lleol ynteu’n genedlaethol, ac a yw'n newid yn unol â'r adnoddau sydd ar gael? Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth trwy ddweud fod y trothwy yn cael ei benderfynu’n genedlaethol, a hynny trwy asesiad tair rhan, sef prawf IQ, sgiliau ac anghenion cymdeithasol. Dywedodd hefyd nad oedd y trothwy yn newid pan fo adnoddau’n cynyddu neu’n gostwng.
• A yw’r ddarpariaeth gwasanaeth wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf? Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth na welwyd dirywiad yn y ddarpariaeth a bod angen asesu a yw'r model cyfredol yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion unigolion.
• Trafodwyd cyllideb y Gwasanaeth Anableddau Dysgu ynghyd â gwariant cymharol gydag awdurdodau eraill. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y gwariant gros ar gyfer 2014/15 o gwmpas 8m ac y bu gostyngiad o tua 1.2m yn y gwariant dros 5 mlynedd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cyflawni canlyniadau yn hanfodol i gwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth, a chadarnhaodd bod digon o arian ar gael i gomisiynu gwasanaethau. Mewn perthynas â materion cyllido ar y cyd â'r gwasanaeth iechyd, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod unigolion yn cael eu hasesu o dan feini prawf penodol.
• Lleoliadau dros dro a pharhaol y tu allan i'r sir -  ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth trwy nodi, o gyfanswm o 303 o bobl, fod 23 yn cael eu cefnogi y tu allan i Ynys Môn – 3 mewn ysbytai arbenigol, 1 o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl; mae 11 mewn lleoliadau preswyl yn derbyn cymorth arbenigol oherwydd na ellir cwrdd â’u hanghenion yn lleol; mae 5 yn cael gofal mewn cartrefi arbenigol sy'n darparu gofal nyrsio oherwydd eu hanghenion iechyd acíwt.
• Taliadau am ofal nyrsio – fe soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am y trefniadau presennol, gan gynnwys rôl y Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
• Materion ariannu mewn perthynas â phrosiectau sy’n cyflawni Strategaeth Anabledd Dysgu Cymru Gyfan e.e. Tyddyn Môn.
• Darparu hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol sy’n delio â materion aflonyddu ar sail anabledd a throseddau casineb. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod staff yn cael eu hyfforddi i fedru adnabod materion aflonyddu.
• Gwaith y Bwrdd Rhaglen Trawsnewid a gwelliannau a gynlluniwyd i’r Gwasanaeth ac o ran cynnwys rhanddeiliaid – dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Mencap, sef un o'r rhanddeiliaid allweddol, yn rhan o’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y gymuned.
• Darparu gwasanaethau i bobl ifanc fel rhan o'r Rhaglen Anabledd Dysgu Gymunedol ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod gan y Gwasanaeth gynlluniau trosiannol gyda’r Gwasanaethau Plant ar gyfer y trosglwyddiad i’r Gwasanethau Oedolion pan fo pobl ifanc yn cyrraedd 18 oed.

 

Gofynnodd yr Aelodau am i gynrychiolydd o'r gwasanaeth iechyd ar y tîm TADC gael gwahoddiad i fynychu cyfarfod yn y dyfodol i adrodd ar faterion ariannu ar y cyd a rôl y gwasanaeth iechyd mewn perthynas â Gwasanaethau  Oedolion a Gwasanaethau Plant.

Cytunodd yr Aelodau bod yr Aelodau hynny o'r Panel sy’n gwasanaethu ar y Byrddau Trawsnewid yn adrodd yn ôl i bob Pwyllgor Sgriwtini .

Gweithredu:

Fel y nodir uchod.

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn:-

• Derbyn y datganiad sefyllfa mewn perthynas â’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu;
• Derbyn diweddariad 6 misol ar y gwasanaeth;
• Nodi'r datblygiadau a chroesawu rhagor o wybodaeth am y strategaeth ddatblygol ymhen 6 mis.

Dogfennau ategol: