Eitem Rhaglen

Deddf Llywodraeth Leol 2000 - Apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau

Derbyn adroddiad Panel Dyfarnu Cymru, dyddiedig 1 Medi, 2015, mewn perthynas a’r Cynghorydd Sir, Peter Rogers.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro a’r Atodiadau.

 

Nododd y Cadeirydd mai adolygiad apêl oedd hwn ar ôl i Dribiwnlys Apêl Panel Dyfarnu Cymru gyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, sef y mater yn ymwneud â’r ffaith i’r Cynghorydd Peter Rogers dorri’r Côd Ymddygiad ac argymhelliad y Tribiwnlys y dylid ymestyn y gwaharddiad o un mis i dri mis. Pwysleisiodd y Cadeirydd nad diben y cyfarfod oedd ail-glywed tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 19 Rhagfyr, 2014, nac wedyn i’r Tribiwnlys Apêl a gynhaliwyd ar 10 ac 11 Medi, 2015.


Dywedodd y Cadeirydd ymhellach y bydd rhaid i’r Pwyllgor Safonau benderfynu am ba hyd y dylid gwahardd y Cynghorydd Rogers o ganlyniad i’r ffaith ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, sef un ai ei wahardd am un mis neu am dri mis. Dywedodd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor Safonau yn clywed unrhyw dystiolaeth ychwanegol ar gosb a gafwyd ers yr Apêl, naill ai’n ysgrifenedig neu’n llafar, oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Cynghorydd Rogers. Roedd y Pwyllgor wedi derbyn Adroddiad y Tribiwnlys Apêl ar 18 Rhagfyr, 2015 ynghyd â chyflwyniadau ysgrifenedig gan y Cynghorydd Rogers; mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymateb yn dweud nad oes ganddynt unrhyw beth i’w ychwanegu.

Amlinellodd y Cadeirydd y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a nododd y byddai’r Pwyllgor yn ymneilltuo i sesiwn gaeedig i ystyried ei benderfyniad, ac y byddai ond yn galw ar y Swyddog Monitro petai angen unrhyw gyngor penodol. Byddai unrhyw gyngor o’r fath a roddir yn cael ei rannu gyda’r Cynghorydd Rogers.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro gyflwyno ei hadroddiad i’r Pwyllgor. Gofynnodd y Cynghorydd Rogers i gael gohirio’r cyfarfod oherwydd bod y Swyddog Monitro wedi cael ei gwahardd rhag cynghori’r Pwyllgor Safonau ynghylch y mater hwn; defnyddiwyd Cyfreithiwr allanol yn y gwrandawiadau blaenorol.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau wedi penderfynu, yn sgil y datganiad yr oedd y Cynghorydd Rogers wedi’i wneud i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn ag adran gyfreithiol y Cyngor, yr adran yr oedd hi’n Bennaeth Gwasanaeth arni, na fyddai wedi bod yn briodol iddi gymryd rhan mewn materion tystiolaeth yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2014. Roedd y gwrandawiad gerbron y Panel Dyfarnu ar 10 ac 11 Medi, 2015, yn ail wrandawiad o’r holl dystiolaeth. Mae’r materion hyn wedi cau bellach ac nid oes gan y Pwyllgor Safonau unrhyw rym i ailystyried y canfyddiadau ffeithiol. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oedd y Swyddog Monitro’n ystyried bod ei sefyllfa bellach yn ei hatal rhag medru cynghori’r Pwyllgor Safonau ar y broses yn y cyfarfod hwn.

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor i sesiwn breifat i drafod y mater.

 

Daeth aelodau’r Pwyllgor Safonau yn ôl o’r sesiwn breifat a chyhoeddodd y Cadeirydd fod aelodau’r Pwyllgor Safonau wedi dod i benderfyniad unfrydol y câi’r Swyddog Monitro aros yn y cyfarfod i roi cyngor.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro gyflwyno ei hadroddiad.

 

Amlinellodd y Swyddog Monitro ei hadroddiad i’r cyfarfod a nododd fod y Pwyllgor Safonau wedi cynnal gwrandawiad llawn ac wedi pennu cosb yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2014. Roedd y Pwyllgor wedi dod i’r casgliad fod y Cynghorydd Rogers wedi torri’r Côd Ymddygiad oherwydd iddo beidio â datgan diddordeb personol trwy gyfrwng cyfeillgarwch hir-sefydlog gyda darpar brynwr y tir fel y disgrifir yn yr adroddiad. O ganlyniad i dorri’r Côd, penderfynodd y Pwyllgor Safonau wahardd y Cynghorydd Rogers am gyfnod o un mis.

 

Wedi hynny, apeliodd y Cynghorydd Rogers yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau i Banel Dyfarnu Cymru ar 19 Ionawr, 2015. Cynhaliwyd Gwrandawiad yr Apêl ar 10 ac 11 Medi, 2015, ac roedd hwn yn ail wrandawiad llawn o’r ffeithiau a’r dystiolaeth ynghyd â’r gosb. Aeth y Tribiwnlys Apêl trwy’r broses canfod ffeithiau a daeth i’r casgliad hefyd fod y Cynghorydd wedi torri’r Côd Ymddygiad mewn tri chategori gwahanol. Mae’r manylion llawn wedi’u cynnwys yn adroddiad Panel Dyfarnu Cymru dyddiedig 1 Rhagfyr, 2015 a oedd wedi’i gynnwys yn y dogfennau i’r Pwyllgor Safonau.

 

Yn gryno, canfu’r Tribiwnlys Apêl fod y Cynghorydd Rogers wedi defnyddio’i swydd fel Cynghorydd yn amhriodol ac fe welir eu canfyddiadau ym mharagraff 5.3.3 Penderfyniad y Tribiwnlys. Yn ail, canfu’r Tribiwnlys Apêl fod y Cynghorydd Rogers wedi methu â datgan diddordeb personol ar 12 achlysur pan fu’n delio â Swyddogion mewn perthynas â gwaredu’r tir - y paragraffau perthnasol ym Mhenderfyniad y Tribiwnlys yw 5.3.9, 5.3.11 a 5.3.13. Hefyd, daeth y Tribiwnlys Apêl i’r casgliad, yn sgil y ffaith ei fod wedi ceisio dylanwadu ar werthiant y tir ar sawl pwynt, fod y Cynghorydd Rogers wedi creu diddordeb a oedd yn rhagfarnu a chaiff y rhain eu hamlinellu ym mharagraff 5.3.16 Penderfyniad y Tribiwnlys.

 

O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, daeth y Tribiwnlys Apêl i’r casgliad y dylid ymestyn y gwaharddiad o fis, a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau, i gyfnod o dri mis. Wrth ddod i’r penderfyniad hwnnw, rhoddodd y Tribiwnlys Apêl ystyriaeth drylwyr i nifer o ffactorau a oedd yn gwaethygu’r achos, ac maent wedi rhestru’r rhain ym mharagraff 6.3.4 eu Penderfyniad. O ganlyniad, fe wnaeth y Tribiwnlys Apêl gyfeirio’r mater gwaharddiad yn ôl i’r Pwyllgor Safonau fel y gallai’r Pwyllgor benderfynu naill ai derbyn argymhelliad y Panel Dyfarnu  a gwahardd y Cynghorydd am dri mis, neu o dan y Rheoliadau (sy’n rhan o’r dogfennau i’r cyfarfod yn Atodiad 6), mae gan y Pwyllgor Safonau y dewis i beidio dilyn argymhelliad y Tribiwnlys Apêl ac yn hytrach, gwrthod argymhelliad y Tribiwnlys Apêl a chadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol sef gwaharddiad o un mis.

 

Nododd y Swyddog Monitro ymhellach, waeth beth fyddai penderfyniad y Pwyllgor Safonau, y byddai’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y canfyddiadau ffeithiol a’r modd y torrwyd y rheolau fel yr oedd y Tribiwnlys Apêl wedi canfod, ac ni fedrai’r Pwyllgor Safonau ddibynnu ar ei ganfyddiadau gwreiddiol. Byddai’r gwaharddiad yn dod i rym am hanner nos. Nid oes unrhyw hawl pellach i apelio o fewn y broses statudol ar wahân i gais am adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi anfon unrhyw gyflwyniadau pellach ato ac nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd fod y Cynghorydd Rogers wedi cyflwyno gohebiaeth a dderbyniwyd ar 20 Ionawr, 2016.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Rogers annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers mai’r broblem fwyaf oedd ganddo gyda’r holl fater oedd cymaint o amser yr oedd hyn wedi’i gymryd. Roedd saith o gwynion amdano wedi dod i law'r un pryd ac mae’r Ombwdsmon wedi gwrthod y rheini. Dylai Panel Dyfarnu Cymru ystyried faint o amser mae’r broses wedi’i gymryd o’r adeg pan gyflwynodd yr apêl gychwynnol ym mis Ionawr 2015 hyd nes y Tribiwnlys Apêl ym mis Medi 2015. Cyfeiriodd at ganllawiau Panel Dyfarnu Cymru ynghylch yr amserlen ar gyfer gwrandawiadau yn dilyn apeliadau. Nid oedd wedi cael galw tystion. Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod un adran yn y Cyngor Sir heb fod yn ymateb i’w negeseuon e-bost yn ystod y cyfnod pan oedd yn aros i Banel Dyfarnu Cymru osod dyddiad ar gyfer y Tribiwnlys. Roedd o’r farn ei fod eisoes wedi cael ei gosbi a’i fod wedi cymryd ei gosb yn gyson yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r Pwyllgor Safonau wedi gohirio neu ganslo cyfarfodydd oherwydd yr oedi gyda Phanel Dyfarnu Cymru yn peidio cyflwyno eu hadroddiad terfynol ar y mater i’r Cyngor Sir.

 

Nododd ei fod yn beth calonogol iddo nad oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi herio’r hyn y mae wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod Panel Dyfarnu Cymru wedi oedi rhag cyflwyno’r Cofnod Penderfyniad tan fis Rhagfyr 2015 er eu bod yn ymwybodol bod y Pwyllgor Safonau yn disgwyl am y Penderfyniad. Nododd ei fod wedi ysgrifennu at y Swyddog Monitro ar ôl derbyn yr Adroddiad Penderfyniad yn mynegi ei fod o’r farn fod Panel Dyfarnu Cymru wedi rhedeg allan o amser ac wedi torri eu rheolau eu hunain o ran rhyddhau’r adroddiad terfynol. Ystyriai ei fod wedi dioddef ei gosb ac y dylid rhoi’r mater cyfan o’r neilltu. Dywedodd fod y Swyddog Monitro wedi ymateb gan ddweud y byddai’n anfon gohebiaeth y Cynghorydd Rogers ymlaen at Banel Dyfarnu Cymru ac y dylent hwy ymateb iddo’n bersonol. Dywedodd nad oedd wedi derbyn ymateb i’w lythyr oddi wrth Banel Dyfarnu Cymru. Nododd y Cynghorydd Rogers ymhellach ei fod ef a’i deulu wedi dioddef oherwydd y mater hwn; mae’n beth ofnadwy cael eich cyhuddo o fod yn anonest.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at gyfarfod y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2015 pan fu i Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyno ei Adroddiad Asesiad Corfforaethol i’r Cyngor. Dywedodd iddo godi’r mater o’i apêl, a gellir gweld hyn ar y gweddarllediad o’r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Rogers ei fod wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r mater hwn. Roedd y cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ymddiheuro, a dywedasant y byddent yn edrych i mewn i’r mater; nid oedd wedi derbyn unrhyw ymateb ganddynt.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rogers i’r Pwyllgor Safonau ystyried y niwed roedd y mater hwn wedi’i achosi i’w hygrededd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau ofyn unrhyw gwestiynau er eglurder ar y mater o gosb i’r Cynghorydd Rogers yn unig.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyflwyniad ysgrifenedig y Cynghorydd Rogers i’r Pwyllgor Safonau yn nodi ‘it is probable with the benefit of hindsight, that I should have accepted the committee’s decision and not have proceeded to appeal it.’  Dywedodd y Cadeirydd mai penderfyniad y Cynghorydd Rogers oedd apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau i roi gwaharddiad o un mis. Roedd hi’n anochel y byddai hyn yn arwain at wneud y broses yn hirach, er yn cydnabod wrth gwrs hawl y Cynghorydd Rogers i apelio. Roedd wedi ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2013 ac fe wnaeth yntau gyhoeddi ei adroddiad yn 2014. Yn ei gyfarfod ar 11 Medi, 2014, penderfynodd y Pwyllgor Safonau fwrw ymlaen i gynnal gwrandawiad mewn perthynas â’r honiadau fod y Cynghorydd wedi torri’r Côd Ymddygiad. Cynhaliwyd y gwrandawiad llawn ar 19 Rhagfyr, 2014 ac fe wnaed penderfyniad i wahardd y Cynghorydd Rogers am gyfnod o un mis. Penderfynodd y Cynghorydd Rogers apelio yn erbyn y penderfyniad ac fe gymerodd y broses apêl o fis Ionawr tan fis Medi 2015. Pwysleisiodd y Cadeirydd nad y Pwyllgor Safonau oedd ar fai am yr oedi.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Rogers gan ddweud ei fod yn ymddiheuro os oedd wedi rhoi’r argraff ei fod yn rhoi unrhyw fai ar y Pwyllgor Safonau am yr oedi. Pan oedd wedi ysgrifennu at y Swyddog Monitro ar ôl derbyn yr Adroddiad Penderfyniad terfynol gan Banel Dyfarnu Cymru (PDC) ym mis Rhagfyr, roedd hi wedi anfon ei ohebiaeth ymlaen ar unwaith at PDC; ystyriai fod hyn yn awgrymu mai PDC oedd ar fai am yr oedi ac nid y Pwyllgor Safonau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Cynghorydd Rogers yn derbyn, o ganlyniad iddo apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau i’w wahardd am un mis, bod yr oedi pellach a achoswyd gan yr apêl yn ganlyniad anochel o’r penderfyniad i apelio?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Rogers nad oedd Panel Dyfarnu Cymru wedi gwneud yr hyn oeddent i fod i’w wneud ac mai dyna pam y bu’r fath oedi. Roedd y Pwyllgor Safonau wedi gosod dyddiadau i glywed ei apêl ac mae wedi gorfod canslo ar ddau achlysur.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Rogers wneud unrhyw ddatganiadau i gloi i’r Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod y Swyddog Monitro wedi tynnu sylw at y ffaith mai’r unig beth y câi’r Pwyllgor Safonau ei wneud oedd ystyried y gosb. Mae’r un cyfyngiad yn berthnasol iddo yntau. Mewn cymdeithas deg ei meddwl sy’n cadw at y gyfraith, mae’r gosb a roddir yn gysylltiedig â pha mor ddifrifol yw’r tramgwydd honedig. Pan ganfyddir bod methiannau, fel yw’r achos heddiw, mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar uniondeb a chywirdeb y dystiolaeth a roddir gerbron.

 

Mae unrhyw dystiolaeth a roddir gerbron unrhyw dribiwnlys/gwrandawiad oddi mewn i reolau cyffredin cyfiawnder.

 

1.    Gall rheolau sydd wedi’u hen sefydlu achosi canlyniadau difrifol pan fo tystiolaeth sy’n ffeithiol anghywir neu’n gamarweiniol o bosib yn atal cwrs cyfiawnder cyhoeddus ac yn atal cyfiawnder mewn cyfraith gyffredin.

 

2.   Canlyniad arall o ddigwyddiadau o’r fath yw pan fo llys neu Dribiwnlys yn rhoi pwysau afraid yn y fath fodd wrth ystyried cosb briodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad yw’n gwneud unrhyw honiad uniongyrchol yn y cyfarfod heddiw nac yn ceisio rhoi pwysau afraid ar y Pwyllgor Safonau. Mae wedi datgan yn ei gyflwyniad ysgrifenedig ac mae wedi derbyn gwrandawiad teg gan y Pwyllgor Safonau ac maent yn amlwg wedi deall ei rwystredigaeth a’i arweiniodd gerbron y Pwyllgor Safonau. Diolchodd i’r Pwyllgor Safonau am eu dealltwriaeth ynglŷn â’r mater. Dywedodd nad oedd yn ystyried ei fod yn ceisio unrhyw fantais ariannol. Dywedodd y Cynghorydd Rogers ei fod yn bryderus fod Panel Dyfarnu Cymru wedi medru canfod fel arall, er bod eu hadroddiad yn tynnu’n groes ar y pwynt hwnnw. Y cwbl y mae’r Cynghorydd Rogers yn gofyn amdano yw bod y Pwyllgor Safonau, wrth iddo bennu cosb briodol, yn gwneud hynny yn yr un modd ag y gwnaeth ym mis Rhagfyr 2014. Mae’r posibilrwydd o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn fater y mae’n bwriadu mynd ar ei ôl yn rhywle arall.

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor Safonau i sesiwn gaeedig i ystyried ei benderfyniad.

 

Penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

1. Ar ôl ystyried adroddiad y Swyddog Monitro, ynghyd â'i atodiadau yn cynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig pellach gan y Cynghorydd Rogers, ac wedi clywed gan y Cynghorydd Rogers ar y mater lliniaru, mae'r Pwyllgor Safonau yn cymeradwyo argymhelliad Tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru, yn ei adroddiad dyddiedig 1 Rhagfyr 2015; sef, gwahardd y Cynghorydd Peter Rogers rhag bod yn aelod o Gyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o 3 mis.

 

2. Bydd cyfnod y gwaharddiad yn dechrau ar 20 Chwefror 2016 ac yn dod i ben ar ôl 19 Mai 2016.

 

3. Ar yr adeg hon yn yr achos, nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau ac eithrio i'r Uchel Lys drwy adolygiad barnwrol.

 

4. Mae rhesymau'r Pwyllgor Safonau am gymeradwyo argymhelliad y Tribiwnlys yn cynnwys y rhai a roddir ym mharagraff 6.3  adroddiad y Tribiwnlys.

 

5. Cymerodd y Pwyllgor Safonau i ystyriaeth hefyd y ffactorau a restrir ym mharagraffau 6 i 13 isod.

 

6. Nid yw’r canfyddiadau a wnaed yn wreiddiol gan y Pwyllgor Safonau ynghylch ffeithiau a thorri’r Côd, y mae’r Cynghorydd Rogers yn parhau i gyfeirio atynt yn ei liniariad, yn berthnasol mwyach. Maent wedi cael eu disodli gan rai’r Tribiwnlys a’r rheini yw’r geiriau olaf ar y pwnc. Ar y pwynt hwn, mae sylwadau'r Cynghorydd Rogers wedi cael eu diystyru.

 

7. Mae angen atgoffa’r Cynghorydd Rogers eto bod y cyfrifoldeb o dan y Côd, am ddatgan diddordebau, ac agweddau eraill o gydymffurfiaeth â'r Côd, yn nwylo'r Cynghorwyr eu hunain. Mae'r Pwyllgor yn pryderu bod y Cynghorydd Rogers yn parhau i geisio ymwrthod â’r cyfrifoldeb personol hwnnw.

 

8. Roedd y Pwyllgor Safonau yn pryderu ynghylch paragraff 4.3.8 o adroddiad y Tribiwnlys a oedd yn nodi bod y Cynghorydd Rogers yn derbyn ei fod yn deall gofynion y Côd, ond, serch hynny, yn ymddangos fel petai wedi penderfynu peidio glynu wrthynt dro ar ôl tro. Ym marn y  Pwyllgor, mae hyn yn gwneud pethau’n waeth.

 

9. Nododd y Pwyllgor Safonau Atodiad 9 i adroddiad y Swyddog Monitro.

 

10. Mae'r lliniariad gan y Cynghorydd Rogers yn awgrymu ei fod yn parhau i fod o dan yr argraff mai’r unig achos o dorri’r Côd oedd ei fethiant i ddatgan ei gyfeillgarwch a pherthynas deuluol gyda'r darpar brynwr. Yn amlwg, nid yw hyn yn wir. Cynghorir y Cynghorydd Rogers i edrych ar baragraff 5.3 o adroddiad y Tribiwnlys, ac yn benodol, paragraff 5.3.3, a ganfu bod y Cynghorydd Rogers wedi defnyddio ei swydd fel Cynghorydd yn amhriodol i sicrhau mantais i’w gyfaill ac, ym mharagraff 5.3.16, canfu'r Tribiwnlys hefyd fod y Cynghorydd Rogers wedi creu diddordeb a oedd yn rhagfarnu drwy geisio dylanwadu ar y trafodiad. Yn ogystal, methodd y Cynghorydd Rogers â datgan ei ddiddordeb personol ar 12 achlysur.  Nid un digwyddiad unigryw ydoedd ac mae'r achosion o dorri’r Côd yn fwy difrifol nag y mae’r Cynghorydd Rogers i’w weld yn ei werthfawrogi.

 

11. Er bod cydnabyddiaeth y Cynghorydd Rogers o’i fethiant i ddatgan y diddordeb personol yn cael ei groesawu, nid yw’n bosibl i’r Pwyllgor Safonau briodoli unrhyw werth i’r cyfaddefiad hwn erbyn hyn oherwydd yr amser sylweddol a dreuliwyd a’r costau sylweddol yr aed iddynt gan y Cyngor, yr Ombwdsmon, y Pwyllgor Safonau a Phanel Dyfarnu Cymru. Nododd y Pwyllgor Safonau hefyd fod y Cynghorydd Rogers (gweler paragraff 6.3.4 o'r adroddiad Tribiwnlys ar y 1 Rhagfyr 2015) wedi cydnabod ei fod wedi torri’r Côd ac wedi ymddiheuro i'r Pwyllgor Safonau yn y gwrandawiad gwreiddiol, ond yna apeliodd yn erbyn ei benderfyniad ar y canfyddiadau ffeithiol, mater torri’r Côd, yn ogystal â’r gosb gan dynnu ei ymddiheuriad yn ôl hefyd. Ym marn y Pwyllgor Safonau, nid oedd hyn yn ddidwyll.

 

12. Mae'r Pwyllgor Safonau wedi cymryd i ystyriaeth bryderon y Cynghorydd Rogers am hyd y broses hon, o gofio y cynhaliodd y Pwyllgor Safonau ei wrandawiad gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2014. Fodd bynnag, er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod gan y Cynghorydd Rogers bob hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau, rhaid i'r Cynghorydd Rogers gydnabod y byddai gwneud hynny yn anochel wedi ymestyn y broses, yr un modd â’i dri chais am ohirio.

 

Mae'r Pwyllgor Safonau o'r farn nad yw hyd y broses wedi cael unrhyw effaith niweidiol ar allu’r Cynghorydd Rogers i godi pwyntiau er lliniaru, ac nad oes unrhyw amserlenni neu derfynau amser statudol wedi cael eu methu. 

 

13. Cododd y Cynghorydd Rogers bryderon ynghylch y modd y byddai ei etholwyr yn cael eu cynrychioli yn ystod cyfnod unrhyw waharddiad. Wedi trafod hyn, daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad y dylid diystyru’r cyflwyniad hwn am y rhesymau canlynol:-

 

-     Mae'r drefn statudol sy’n ymwneud ag ymddygiad yn rhoddi’r grym i wahardd, a thrwy hynny, mae’n cydnabod y canlyniadau posibl ar gyfer yr etholaeth.

-     Y Cynghorydd Rogers ei hun sydd yn gyfrifol am y ffaith ei fod wedi cael ei wahardd oherwydd iddo dorri’r Côd a bod y gwaharddiad yn effeithio ei etholaeth yn ogystal. Nid y broses sydd ar fai.

-   Mae hon yn ward amlaelod a bydd yn rhaid i'r Cynghorydd arall sy'n cynrychioli'r ward arwain ar gynrychioli'r gymuned yn ystod cyfnod y gwaharddiad.

 

Dogfennau ategol: