Eitem Rhaglen

Drafft o’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol

Derbyn cyflwyniad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Dygwyd sylw gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol at y prif bwyntiau yn fersiwn ddrafft y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a gwahoddodd y Pwyllgor a'r Aelodau i wneud sylwadau ychwanegol ar faterion i'w cynnwys yn y Ddogfen Derfynol, cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith nesaf.

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod 7 maes blaenoriaeth y ddogfen drafft wedi eu nodi ar gyfer y flwyddyn i ddod yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.

Cododd yr aelodau y materion canlynol yn y drafodaeth: -

1. Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn

Holodd yr Aelodau am gost gofal dementia ar Ynys Môn a gofynnwyd am ddadansoddiad o’r cyllid ac adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor.

Gweithredu:

Fel y nodir uchod.

2. Adfywio ein Cymunedau a Datblygu'r Economi

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y prosiect Wylfa Newydd a'r effaith ar swyddi a sgiliau. Byddai angen i'r Cyngor weithio gydag ysgolion i ddatblygu’r economi ac i sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau i’w paratoi ar gyfer  cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol.

3. Gwella Addysg, Sgiliau a Moderneiddio Ysgolion

• Nododd y Pwyllgor fod safonau ysgol wedi codi a bod cynnydd yn cael ei wneud.
• Ni fyddai Wylfa Newydd yn weithredol tan tua 2025, gan arwain at fwlch rhwng hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn y cyfamser. Nodwyd bod allfudiad pobl ifanc yn parhau i fod yn broblem a’i bod yn bwysig denu’r bobl ifanc hyn yn ôl i Ynys Môn.
• Nodwyd y dylid cyfeirio at Ysgol Aberffraw fel Ysgol Bro Aberffraw.

4. Cynyddu Opsiynau Tai a Lleihau Tlodi

Dim sylwadau.

 

5. Trawsnewid y Ddarpariaeth Hamdden a Llyfrgelloedd

Dim sylwadau.

6. Canolbwynio ar y Cwsmer, y Dinesydd a’r Gymuned

Gofynnwyd am eglurhad ar leoliadau gwaith y tu allan i brif swyddfeydd y Cyngor. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes y gall gweithwyr maes ddefnyddio canolfan hamdden neu lyfrgell i gael gafael ar wybodaeth. Mae'r broses yn debyg i’r drefn rhannu desgiau a gallai  Aelodau etholedig wneud defnydd o'r gwasanaeth yn ogystal â staff.

7. Technoleg Gwybodaeth

• Nodwyd bod y Cyngor wedi lansio gwasanaeth Microsoft Lync i alluogi unigolion i gyfathrebu’n well.
• Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at y broses o gyflwyno technoleg Citrix i gefnogi gweithio o bell a digonolrwydd yr adnoddau o fewn y Gwasanaeth TG. Nododd y Pennaeth Trawsnewid fod y dechnoleg hon eisoes wedi cael ei threialu yn y Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a’r  Gwasanaethau Technegol. Adolygwyd y gwasanaeth TG  yn ddiweddar, gan gynnwys y lefelau staffio.

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes at bwyntiau eraill a godwyd gan Aelodau – cynhesu byd-eang; defnydd o ynni; caffael, ffoaduriaid Syria ac ati.  Dywedodd y byddai trafodaethau’n digwydd gyda Swyddogion perthnasol i benderfynu a oes capasiti i symud ymlaen ac ymgorffori'r materion hyn yn y Ddogfen Gyflawni ddrafft a nodi sut y bydd y ffrydiau gwaith hyn yn cael eu cyllido.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2016 y dylid cynnwys yr agweddau canlynol yn y drafft terfynol o’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol:-


• Ffrwd waith effeithlonrwydd ynni;
• Yr enillion a ddisgwylir o arferion caffael gwell;
• Ymateb y Cyngor i'r argyfwng ffoaduriaid sy'n dod i'r amlwg.

Cynigir hefyd y dylid trefnu sesiwn friffio ynghylch cyflawni’r ddogfen dan sylw ar gyfer yr holl Aelodau cyn y Cyngor llawn.