Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr lle mae angen wedi ei nodi ac i ddarparu digon o safleoedd priodol yn eu Cynllun Datblygu Lleol.
Cynhyrchwyd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd 2016 (Yr Asesiad) ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, ac fe'i cymeradwywyd gan Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar 8 Chwefror 2016.
Nododd yr Asesiad newydd yr angen canlynol ar Ynys Môn:
1. Safle preswyl parhaol i gwrdd ag anghenion teithwyr yr oes newydd ar y
safle a oddefir yn ffordd Pentraeth;
2. Dau safle i’w defnyddio fel mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar hyd yr A55, un yng Nghaergybi a'r llall yng nghanol yr Ynys i ddarparu ar gyfer pobl sy'n teithio i Iwerddon ac oddi yno, ynghyd â phobl sy'n teithio o amgylch y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol.
Roedd yr ymarfer ymgynghori yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a chynhaliwyd sesiynau galw i mewn (a fynychwyd gan oddeutu 215 o oedolion); Cyfarfodydd Cynghorau Tref / Cymuned; a mynychodd swyddogion ddau gyfarfod cyhoeddus. Nodwyd yr ystyriwyd safbwyntiau busnesau ar stadau diwydiannol hefyd.
‘Roedd y ddogfen ymgynghori gyda mapiau a holiadur ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor ac yn y sesiynau galw i mewn. Anfonwyd copïau at fusnesau, tirfeddianwyr a thenantiaid cyfagos.
Cyflwynwyd Mr Bryn Hall gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol. Ef yw’r eiriolwr annibynnol a gyflogir gan Unity, sef sefydliad sy'n arbenigo mewn ymgynghori gyda chymunedau sipsiwn a theithwyr. ‘Roedd Mr Hall wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau teithwyr a sipsiwn yn ystod y broses hon, ac mae'r Pwyllgor wedi gofyn am atborth ar y mater.
Crynhodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a'r broses ymgynghori a gynhaliwyd fel a ganlyn: -
• Amlygwyd pwysigrwydd deall cefndir ac anghenion gwahanol sipsiwn a theithwyr.
• Ystyriwyd bod yr eiriolwr annibynnol wedi gwella’r cyfathrebu gyda'r gymuned o Deithwyr yr Oes Newydd ar Ffordd Pentraeth, o ran bod yn annibynnol a gwyntyllu eu barn.
• Dylid rhoi gwybod i bobl leol, gan gynnwys ffermwyr, ar unwaith am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.
• Mae Uwch Swyddogion a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed mewn cyfarfodydd ac mae gwersi wedi eu dysgu y gellir eu cynnwys mewn prosesau ymgynghori yn y dyfodol.
• Nod y Cyngor yw cynnal ymarfer ymgynghori pellach yn ystod y mis nesaf.
Cododd yr aelodau y materion canlynol: -
• Nid yw'r matrics sgorio yn caniatáu ar gyfer rhoi rhesymau pam mae rhai safleoedd yn anaddas.
• Angen i'r Aelodau fod yn rhan o'r broses ymgynghori o'r cychwyn cyntaf.
• Codwyd cwestiwn ynghylch a oedd yr amserlen ar gyfer adrodd yn ôl ar y broses ymgynghori newydd i'r Cyngor llawn yng nghanol mis Gorffennaf yn rhy uchelgeisiol? Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol mai un o'r cyfyngiadau oedd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gyda Chyngor Gwynedd. Yng ngoleuni hyn, roedd hi'n obeithiol y gellid cwblhau’r gwaith yn awr erbyn diwedd mis Gorffennaf.
• Rhaid rhoi gwybod i’r cyhoedd a busnesau lleol am safleoedd posib cyn gynted ag y bo modd.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod llawer o'r gwaith cynllunio wedi ei wneud i baratoi ar gyfer y broses ymgynghori. Mae gan swyddogion wybodaeth ddigonol bellach i gynnal sesiynau ymgynghori mewn gwahanol gymunedau ar yr un nosweithiau.
PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -
• Bod y Pwyllgor yn nodi bod y pryderon a godwyd yn y cyfarfod ym mis Ionawr ynghylch y broses ymgynghori wedi derbyn sylw.
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r adroddiad ac yn cytuno bod y Swyddogion yn gweithredu materion a nodwyd i wella ymarferion ymgynghori yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: