Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
(Atodiad a gohebiaeth ynglwm)
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod yr Asesiad a gynhaliwyd yn 2016 o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Gwynedd ac Ynys Môn wedi nodi gwersylloedd anawdurdodedig yng Nghaergybi, gan greu’r angen am safle aros dros dro.
Canolbwyntiodd y broses ymgynghori ar dri safle: -
Safle 1 - Plotiau Gwag, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi;
Safle 2 - Tir yn union i'r dwyrain o B & M, Caergybi;
Safle 3 - Tir i'r de o Alpoco.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod ffactorau arwyddocaol wedi eu hamlygu, a hynny’n dilyn proses ymgynghori drylwyr. ‘Roedd y ffactorau hynny’n awgrymu bod y tri safle yn anaddas ar Man Aros Dros Dro i sipsiwn a theithwyr. Adroddodd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Chyngor Tref Caergybi yn ogystal â Chynghorau Cymuned yn y Fali a Threarddur. Dywedodd fod yna dystiolaeth o'r ymarfer ymgynghori fod yr angen i gael safle i sipsiwn a theithwyr yng Nghaergybi yn parhau, a hynny oherwydd y cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n mynd drwy'r porthladd.
Cododd yr Aelodau y materion canlynol: -
• Mynegwyd pryder am gymunedau sipsiwn a theithwyr sy’n byw yn lleol, a’r rhagfarnau y maent yn eu hwynebu yn sgil hiliaeth a’r ffaith bod pobl leol yn eu camddeall. Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd i leddfu pryderon am ragfarnau ac i atal agweddau hiliol a gododd yn ystod yr ymgynghoriad.
Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol nad oedd yr ymateb hwn tuag at sipsiwn a theithwyr yn anarferol, a’i fod yn seiliedig ar gymysgedd o sylwadau dilys, canfyddiadau a rhagfarnau, gan nad yw pob sipsi a theithiwr yn integreiddio i mewn i’r gymuned leol. Bydd yn cymryd amser i oresgyn rhagfarnau ac i ennill ymddiriedaeth. Mae’r teithwyr sipsiwn sy’n aros am noson neu ddwy yng Nghaergybi yn byw yn rhywle arall, ac maent yn ymweld â Chaergybi am gyfnod byr wrth iddynt deithio i Iwerddon; mae’n annhebygol felly y bydd cyfleon yn codi iddynt ddod i adnabod pobl leol, er bod angen i ni barhau i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â rhagfarn.
• Nodwyd y byddai angen asesu patrymau teithio rhwng Caergybi ac Iwerddon. Mae cyfrifoldeb ar Stena, sy'n berchen ar lawer o dir yng Nghaergybi, fel awdurdod porthladd, i fod â rhan yn y broses o ddarganfod datrysiad. Bydd y Prif Weithredwr a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ceisio cynnal trafodaethau gyda Stena.
• Codwyd cwestiwn ynghylch pam na chafodd y safleoedd yr ystyrir eu bod yn anaddas eu hadnabod fel rhai anaddas yn gynharach. Nodwyd bod y broses wedi dechrau ym mis Ionawr ac ‘roedd raid i’r Cyngor lynu wrth yr amserlen ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.
• Cyfeiriodd Aelodau at y graff sy'n dangos ardal ehangach ar gyfer safle posib y tu allan i ddalgylch tref Caergybi. Cadarnhawyd bod raid i’r safle fod ar goridor yr A55 ac yn agos i Gaergybi.
Cynhelir ymarfer ymgynghori newydd yn y misoedd nesaf i nodi safleoedd addas ar gyfer lle aros dros dro yng Nghaergybi.
PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r 4 argymhelliad a gynhwysir yn yr adroddiad fel y gellir eu gweithredu.
Dogfennau ategol: