Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar Werthusiad Perfformiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2014-15, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 1 Rhagfyr 2015.
Adroddodd y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cyngor wedi buddsoddi £476k yn y Gwasanaethau Plant y llynedd, ac y byddent yn buddsoddi £500k arall yn 2016/17. Nododd fod Panel Aelodau wedi cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac i oruchwylio gweithrediad Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant.
Amlygwyd y pwyntiau a ganlyn:-
• Mae tair swydd Gweithiwr Cymdeithasol newydd yn cael eu creu i gwrdd â’r galw yn y Gwasanaeth;
• Ail-leoli staff o’r Adran Addysg i’r Tîm Gwasanaethau Plant i gryfhau gwasanaethau ataliol;
• Cryfhau’r gefnogaeth i Weithwyr Cymdeithasol sy’n gorfod mynd i’r Llys;
• Sefydlu ‘Hyb Gwybodaeth’ i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Crynhodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y prif faterion a amlygwyd yn Adroddiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2014/15. Nodwyd ers hynny fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd yn y Gwasanaeth Plant a’r Gwasanaeth Oedolion. Nodwyd ymhellach y bydd yna newidiadau i’r ddau Wasanaeth gan y byddai Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gweithredu, ar ôl iddi ddod i rym yn ddiweddar, a’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 fydd yr olaf yn y fformat presennol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion wedyn fod AGGCC yn dymuno gweld y Cyngor yn cryfhau’r Gwasanaethau Oedolion. Cyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd, a nododd bod cryfhau’r cytundebau a’r trefniadau llywodraethu yn y maes hwn yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth.
Cododd yr Aelodau y pwyntiau a ganlyn:-
• Gofynnwyd am eglurder ar y lefel uchel o drosiant staff yn y Gwasanaethau Plant. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oedd unrhyw negeseuon clir yn deillio o’r cyfweliadau gadael, ond roedd yn amlwg bod y trosiant uchaf ymysg y gwasanaethau ‘gwaith maes’. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw sefydlogi’r gweithlu o fewn y Gwasanaeth, a nododd fod y Gwasanaethau Plant a’r Adran Adnoddau Dynol yn adolygu’r Strategaeth Weithlu ar hyn o bryd.
• Codwyd cwestiwn ynghylch y posibilrwydd o gael cynllun ‘ffeirio staff’ rhwng y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion, a fyddai’n galluogi staff i symud o gwmpas o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oes unrhyw ‘gynlluniau ffeirio’ neu gynllun ‘cymorth bydi’ mewn grym rhwng y ddau wasanaeth ar hyn o bryd, ond gellid ystyried hyn yn y dyfodol.
• Nododd yr Aelodau bryder bod y Gwasanaethau Plant wedi cael eu disgrifio fel ‘bregus’. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaethau Plant yn faes o risg cynhenid, a bod yr Awdurdod Lleol yn cadw golwg ar y risgiau, a bod ganddo ddarpariaethau mewn lle i liniaru’r risgiau hynny. Oherwydd y risgiau cynhenid, nid oes modd cael sicrwydd o 100% yng nghyswllt diogelu plant.
• Gofynnwyd cwestiwn ynghylch a oedd staff yn derbyn yr oruchwyliaeth orau bosib a sesiynau dibriffio wedi hynny. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y polisi goruchwyliaeth yn gynhwysfawr iawn, a bod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn i sicrhau bod staff yn paratoi ac yn gwneud y defnydd gorau o’u hamser.
• Holwyd cwestiwn ynghylch y capasiti i fonitro contractau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion,
oherwydd natur y gwasanaethau i bobl hŷn, bod nifer o wahanol wasanaethau’n cael eu comisiynu mewn gwahanol lefydd. Nodwyd y pwysigrwydd o fonitro darparwyr contractau a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cwrdd â’r safonau gofal mewn cartrefi nyrsio, cartrefi gofal, gofal cartref ac ati.
• Gofynnwyd am eglurder ynghylch a yw’r ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ wedi dod i ben. Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y gwasanaeth yn cael ei ariannu trwy grant gan Lywodraeth Cymru, a dim ond un flwyddyn o gyllid
oedd ar ôl. Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y Cyngor yn ymwybodol bod ataliaeth ac ymyrraeth gynnar yn rhannau hanfodol o’r Ddeddf, a bydd angen rhoi sylw i fuddsoddiad yn y Gwasanaeth er mwyn gwella’r ddarpariaeth hon.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed.
Dogfennau ategol: