Eitem Rhaglen

Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i National Grid Electricity Transmission Cyf (National Grid) ar Ddrafft Terfynol ei Ddatganiad Ymgynghori â'r Gymuned (DYG)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd  ynghyd ag ymateb ffurfiol drafft i'r Grid Cenedlaethol gan y Prif Weithredwr.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cynllunio gyflwyniad byr i'r Cyngor Sir ar y Datganiad o Ymgynghori Cymunedol.  Dywedodd mai hon oedd y broses mewn perthynas â Ddeddf Cynllunio 2008. Mae Adran 47 o Ddeddf Cynllunio 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd baratoi 'Datganiad o Ymgynghori Cymunedol' (Y Datganiad) sy'n nodi sut mae'r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori â'r gymuned leol ynghylch cais arfaethedig am ganiatâd datblygu. Nodwyd mai’r adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yw sylwadau Cyngor Sir Ynys Môn mewn perthynas â'r broses.   Yn unol ag Adran 47(2), ar ôl derbyn gwybodaeth am gynigion yr ymgeisydd bydd pob awdurdod lleol y mae’r cyfryw gynigion yn dod o fewn ei ffiniau yn cael 28 diwrnod i  gyflwyno sylwadau ynghylch beth sydd i’w gynnwys yn y Datganiad. Unwaith y cyhoeddir y Datganiad mae'n rhaid i ymgeiswyr,  yn unol ag Adran 47(6), drefnu i’r Datganiad fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd a chyhoeddi hysbysiad yn nodi ym mhle a pha bryd y gellir ei archwilio. 

 

Dywedodd y rhagwelir y bydd y Grid Cenedlaethol yn rhyddhau dogfen ymgynghori ym mis Mehefin / Gorffennaf ynghylch Croesi Afon Menai.  Dylai Adroddiad ar yr Atborth i’r Ymgynghoriad Cam 2 fod ar gael yn haf 2016.  Cynhelir  ymgynghoriad statudol ym mis Hydref 2017 ynghylch Ymgynghoriad Adran 42/47 a bydd angen cytuno Datganiad o Dir Cyffredin gyda'r Grid Cenedlaethol.  Rhagwelir y bydd y ceisiadau cynllunio, os o gwbl, yn cael sylw gan y Cyngor ym mis Hydref 2017 o dan y Ceisiadau Cynllunio Gwlad a Thref (CCGT). 

 

Amlinellodd y Swyddog Arweiniol y prif themâu a nodwyd gan y Cyngor Sir yn y Datganiad : -

 

·           Y broses Ganiatáu  - Nid oes gwahaniaeth clir rhwng y cais Gorchymyn Caniatâd  Datblygu (GCD) a’r Ceisiadau  Cynllunio Gwlad a Thref (CCGT) ac ystyrir bod yr eglurhad ar y datblygiad cysylltiedig o fewn y Datganiad yn annigonol i fedru penderfynu pa fathau o waith sy’n syrthio i’r gwahanol gategorïau. Yn y Datganiad Drafft Terfynol mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyflwyno diagram llif o’r  broses ar gyfer GCD. Teimlir y byddai’n ddefnyddiol cael llinell amser i roi syniad o ba bryd y cyflwynir ac yr archwilir y cais GCD, gan gynnwys y cyfnodau adeiladu, fel bod y cyhoedd yn cael gwybod am y camau nesaf yn y broses a'r amserlen debygol. Nododd fod angen i'r ddogfen ymgynghori fod yn glir ynghylch sgôp yr amserlen ar gyfer unrhyw geisiadau GCD a bod angen ei hatgyfnerthu.

 

·           Cynllun Ymgysylltu - Cyfeiriodd y Swyddog at y Cynllun Ymgysylltu a dywedodd y caiff ei gyflwyno gyda’r Datganiad cyn yr ymgynghoriad;  bydd yn tynnu sylw at fanylion ynghylch lleoliadau’r arddangosfeydd cyhoeddus o fwriadau’r Grid Cenedlaethol. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cael gweld y Cynllun Ymgysylltu yn gynnar a’i fod yn cytuno ar sut y trefnir i’r ddogfen fod ar gael i'r cyhoedd ei gweld.

 

·           Parth Ymgynghori - Mae angen mwy o fanylion gan y Grid Cenedlaethol o ran y Parthau Ymgynghori a sut maent yn bwriadu ymgynghori gyda’r ardaloedd sydd y tu allan i'r parthau ymgynghori a nodwyd. Ar hyn o bryd mae'n anodd nodi pa ardaloedd yw’r rhain hyd nes bod y Grid Cenedlaethol wedi rhoi cynllun o'r parthau ymgynghori i’r Cyngor yn gyntaf.  Dylai fod cyswllt clir a thryloyw rhwng yr effeithiau y rhagwelir y byddant yn deillio o'r cynigion a maint y  parth ymgynghori.  Mae'r cynnig gan y Grid Cenedlaethol i ymestyn y parth ymgynghori o 2km i'r 3km yng nghyffiniau’r prosiect yn parhau i fod heb sail dystiolaeth sy’n tystio i’w briodoldeb. Bydd y Cyngor yn gofyn am eglurhad rhesymegol ynghylch pam mae’r Grid Cenedlaethol wedi ymestyn y parth ymgynghori gwreiddiol o 2km i 3km a pham nad yw parth ymgynghori 5km yn cael ei ystyried fel y gofynnwyd gan y Cyngor. 

 

·           Amseriad yr Ymgynghoriad -  O ran amseriad yr ymgynghoriad, mae angen i'r Grid Cenedlaethol fod yn ymwybodol o brosiectau lleol eraill megis cynigion Pŵer Niwclear Horizon ar gyfer Wylfa Newydd  . Mae angen cadarnhad ynghylch pa bryd y cyhoeddir yr Adroddiad ar yr Atborth i’r Ymgynghoriad Cam 2 a sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi cyn i'r ymgynghoriad statudol ddechrau yn hydref 2016.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol bod angen gwneud gwaith mewn perthynas â grwpiau 'anodd eu cyrraedd' / ymwelwyr / grwpiau diddordeb lleol. Nododd  nad oes unrhyw Ganolfannau Croeso ar yr Ynys, dim ond pwyntiau gwybodaeth i dwristiaid o fewn yr aneddiadau allweddol. Mae'r Cyngor Sir yn disgwyl i’r Grid Cenedlaethol wneud defnydd llawn o'r cyfleusterau / hybiau hyn o fewn y gymuned.

 

·           Camau Lliniaru – Nid yw’r Datganiad yn cynnwys manylion gan y Grid Cenedlaethol ar sut y mae'r cwmni yn bwriadu ymgynghori â'r gymuned leol ar fesurau lliniaru arfaethedig a chyfleoedd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol neu iawndal.  Mae angen gwybodaeth ddigonol ynghylch prosesau ar gyfer datblygu mesurau lliniaru fel y gall y cymunedau lleol ddarparu adborth gwybodus yn eu cylch.

 

·           Ymgynghori Effeithiol (a fydd y Datganiad yn arwain at ymgynghoriad effeithiol?) - ‘roedd y Grid Cenedlaethol wedi cynnal 2 ymgynghoriad anstatudol yn 2012 ar ei ddewisiadau strategol a’r opsiynau llwybr yn 2015. Fodd bynnag, mae’n ymddangos o’r Datganiad nad yw’r Grid Cenedlaethol ond yn bwriadu cynnal ymgynghoriad un cam ar y llwybr y bydd yn ei ddewis ar gyfer y ceblau ac mae hyn yn codi nifer o faterion o ran sgôp yr ymgynghoriad o fewn y Datganiad.  Mae'n hollbwysig bod yr ymgynghoriad yn ymgysylltu â chymaint o bobl ag y bo modd a bod y dogfennau ymgynghori’n dangos yn glir sut y penderfynwyd ar y llwybr a ddewisir ac i ba raddau y cymerwyd yr ymgynghoriadau anstatudol i ystyriaeth wrth benderfynu ar y llwybr hwnnw. 

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol bod yna nifer o faterion sydd angen rhagor o sylw cyn y gall y Cyngor fod yn hyderus y bydd y Datganiad yn arwain at ymgynghoriad cymunedol effeithiol. 

 

Rhoddodd Aelodau'r Cyngor Sir sylw i’r adroddiad a gwnaethpwyd y sylwadau canlynol arno: -

 

·           Mae angen i’r Grid Cenedlaethol  ymateb ynghylch pam nad yw’n ystyried parth  ymgynghori 5km fel y gofynnwyd gan y Cyngor Sir yn flaenorol.

·           Dylid hysbysu’r Grid Cenedlaethol eto nad yw’r Cyngor Sir wedi newid ei safbwynt, sef na ddylid adeiladu unrhyw linellau a cheblau trawsyrru trydan ychwanegol ar draws yr Ynys ac Afon Menai.

·           Codwyd cwestiynau ynghylch addasrwydd y pwyntiau gwybodaeth i dwristiaid oherwydd diffyg Canolfan Groeso ar yr Ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio y bydd yn codi cwestiynau yn y Cynllun Ymgysylltu ynglŷn â ble mae'r Grid Cenedlaethol yn bwriadu hysbysebu gwybodaeth mewn perthynas â’r datblygiad pwysig hwn. Pwysleisiwyd eto bod angen i wybodaeth fod ar gael i holl drigolion yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Derbyn yr adroddiad a gofyn am ddrafft diwygiedig pellach gan y Grid Cenedlaethol cyn iddo fod wedi ei gwblhau;

·           Gan gyfeirio at yr uchod, awdurdodi'r Prif Weithredwr i gytuno i'r ddogfen ddiwygiedig cyn i’r Datganiad fod wedi ei gwblhau;

·           Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr wneud diwygiadau ac amrywiadau yr ystyrir yn rhesymol bod eu hangen cyn cyflwyno ymateb ffurfiol y Cyngor;

·           Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr gymeradwyo Cynllun Ymgysylltu’r Grid Cenedlaethol;

·           Cymeradwyo'r safbwynt a sefydlwyd eisoes gan y Cyngor, sef na ddylid adeiladu llinellau a cheblau trawsyrru trydan ychwanegol ar draws Ynys Môn ac Afon Menai.

 

Dogfennau ategol: