Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  11C567A – 24 Awelfryn, Amlwch

7.2  30C302M – Gwesty Plas Glanrafon, Benllech

7.3  31C170D – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

Cofnodion:

7.1   11C567A – 11C567A - Cais llawn i godi dwy annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger 24 Awelfryn, Amlwch.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Ymwelwyd â’r safle ar 15 Mehefin, 2016.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl oherwydd methiant i wneud penderfyniad ar y cais hwn ac o’r herwydd, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn awr wedi ei wahardd rhag gwneud penderfyniad. Mae Aelodau wedi eu cyfyngu’n awr i wneud penderfyniad ynghylch a ydynt yn dymuno herio’r apêl ai peidio ac os ydynt, ar ba sail.

 

Dywedodd y Cynghorydd W.T. Hughes, un o’r Aelodau Lleol fod ganddo bryderon ynghylch materion parcio ar Stad Awelfryn. Roedd yn derbyn bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer un annedd ar y safle ond yn ei farn ef, byddai dwy annedd yn gyfystyr â gorddatblygu. Cyfeiriodd at lwybr cyhoeddus yn ymyl y safle. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio drwy ddweud y byddai gan y ddwy annedd bâr arfaethedig yr un ôl-troed carbon â’r un annedd a oedd wedi ei chymeradwyo o’r blaen.  Nododd ei bod yn amlwg nad oedd rhai o’r llecynnau parcio ar Stad Awelfryn yn cael eu defnyddio ac y bydd cyfleusterau parcio yn cael eu darparu ar safle’r cais hwn sy’n cydymffurfio gyda rheoliadau Priffyrdd.  Dywedodd ymhellach y cafwyd trafodaethau gyda’r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus mewn perthynas â’r llwybr cyhoeddus sydd gerllaw’r safle. Mae’r Swyddog wedi gofyn am amod yn y caniatâd i’r perwyl na fydd y llwybr cyhoeddus yn cael ei gau i’r cyhoedd.

 

Roedd y Cynghorydd W.T. Hughes o’r farn y byddai’r safle’n cael ei orddatblygu ac roedd o hefyd yn bryderus ynghylch materion parcio yn enwedig y posibilrwydd y gallai’r ceir sydd wedi eu parcio greu rhwystr i’r gwasanaethau brys petai argyfwng yn digwydd ar stad Awelfryn. Cynigiodd bod y materion hyn yn rhaid y dylid eu codi yng ngwrandawiad yr apêl. Chafodd ei gynnig mo’i eilio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cofnodi’r bleidlais ar y mater hwn. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei gynnig am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Dyma’r bleidlais :-

 

Peidio â herio’r apêl ar sail argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo:-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, T. Victor Hughes, Vaughan Hughes, Richard O. Jones, Nicola Roberts  - Cyfanswm 5

 

PENDERFYNWYD peidio â herio’r apêl ac i gefnogi argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais.

 

 

7.2   30C302M – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad 

presennol ynghyd â chodi bloc o fflatiau (35 fflat) yn ei le yng Ngwesty Plas Glanrafon, Benllech.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb personol yn y cais hwn. Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, dywedodd bod modd iddo siarad fel Aelod Lleol ar y cais hwn ond y byddai’n mynd allan o’r cyfarfod ar ôl y drafodaeth a chyn y bleidlais.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn gais mawr. Hefyd, roedd Aelod Lleol wedi gofyn i’r Pwyllgor ddelio gyda’r cais.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 15 Mehefin,  2016.

 

Anerchodd Mr. Euryn Morris, Siaradwr Cyhoeddus, y Pwyllgor i wrthwynebu’r cais a dywedodd fod y datblygiad yng Ngwesty Plas Glanrafon, yn ei farn ef, yn anghydnaws gan bwysleisio mai pentref yw Benllech, nid tref neu ddinas. Byngalos yn bennaf sydd ym mhentref Benllech, nid adeiladau pedwar llawr. Roedd yn anghytuno gyda’r datganiad yn adroddiad y Swyddog bod angen datblygiad o’r fath ym Menllech; mae nifer o anheddau ar werth yn y pentref sydd ddim yn gwerthu. Nid cyfleusterau Gofal Ychwanegol ar gyfer yr henoed yw’r fflatiau hyn, maent yn fflatiau a fydd ar gael ar y farchnad agored; roedd ar ddeall fod pobl o’r tu allan i’r ardal wedi mynegi diddordeb yn eu prynu. Os caiff y datblygiad hwn ei gymeradwyo, bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau gofal a’r gwasanaethau cymdeithasol ar yr Ynys. Dywedodd Mr. Morris mai’r problemau traffig yw’r prif bryder mewn perthynas â’r datblygiad hwn. Mae ymwelwyr yn cael ei hannog i ddod i bentref Benllech a bydd y traffig ychwanegol o’r 35 fflat hyn yn ychwanegu at y problemau traffig yn y pentref. Bydd yna 6 o gyffyrdd o fewn hanner can llath i’r fynedfa i’r datblygiad hwn ynghyd â 2 o arosfeydd bws. Mae’r maes parcio mwyaf ym Menllech wedi cael ei gymryd ar gyfer datblygu’r feddygfa newydd sydd wedi rhoi mwy o bwysau ar y llecynnau parcio yn y pentref. Nid oes digon o le yn y datblygiad hwn yng Ngwesty Plas Glanrafon i ddarparu llecynnau parcio ar gyfer pob un o’r 35 o fflatiau. Dywedodd ymhellach fod Gwesty Plas Glanrafon wedi dioddef llifogydd dros y blynyddoedd a bod y datblygiad hwn ar lefel is; roedd yn ansicr sut y byddai’r datblygwr yn mynd ati i ddatrys y problemau llifogydd.

 

Anerchodd Mr. Chris Butt, Siaradwyr Cyhoeddus, y Pwyllgor fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dywedodd bod y datblygwr o’r farn bod y safle hwn yn lleoliad ardderchog i ddatblygu llety ar gyfer pobl hŷn. Mae’n agos at siopau a gwasanaethau lleol i’r preswylwyr eu defnyddio. Roedd y datblygwr wedi nodi angen lleol am ddatblygiad o’r fath yn Ynys Môn. Mae’r datblygiad wedi cael ei nodi fel llety Categori 2 a bydd yn cael ei farcio fel llety i bobl sydd wedi ymddeol. Bydd y datblygiad yn llety sydd wedi ei reoli a bydd amrediad o gyfleusterau ar gael drwy linell ofal 24 awr. Ym marn y datblygwr, byddai’r cyfleuster yn rhyddhau cartrefi ri deuluoedd yn yr ardal pan fydd pobl hŷn yn penderfynu symud i mewn iddo.  Yn ystod ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y datblygwr, cafwyd cryn gefnogaeth yn yr ardal leol ar gyfer datblygiad o’r fath.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol, bod y datblygwr wedi cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus ym mhentref Benllech ac, yn ogystal, wedi ymgynghori gyda’r Cyngor Cymuned. Dywedodd bod deiliaid eiddo cyfagos wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig fel y nodir yn adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor. Dywedodd ymhellach fod rhai etholwyr wedi mynegi ar lafar eu cefnogaeth i’r datblygiad oherwydd eu bod yn pryderu ynghylch cyflwr Gwesty Plas Glanrafon fel y mae ar hyn o bryd.  Ymddengys mai’r prif reswm dros gefnogi’r datblygiad yw bod Benllech yn ardal dwristiaeth a bod busnesau lleol yn cael budd o’r ymwelwyr a ddaw i’r ardal. Gadawodd y Cynghorydd Ieuan Williams y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, fel Aelod Lleol, ei fod ef, oherwydd ei fod yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi bod yn cyfeirio pobl sy’n cefnogi ac yn gwrthwynebu’r cais i’r ddau Aelod Lleol arall a hynny’n dilyn cyngor a gafodd gan yr Adran Gyfreithiol. Dywedodd nad oes defnydd bellach i westyau mawr tebyg i Blas Glanrafon ac nad ydynt mwyach yn denu twristiaid.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod angen i’r Swyddogion roddi sylw i’r problemau traffig a llifogydd a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig yn un ar gyfer 35 o fflatiau yn hytrach na’r 36 a nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod 4 llythyr ychwanegol yn cefnogi’r cais wedi dod i law ers cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y Pwyllgor. Roedd cyfanswm o 52 o lythyrau wedi eu derbyn yn cefnogi’r cais a 5 yn gwrthwynebu iddo. Oherwydd nifer yr unedau a gynigir, rhaid cael elfen o dai fforddiadwy neu gyfraniad ariannol i’r gronfa dai. Derbyniwyd y dylid sicrhau cyfraniad ariannol o £150,000 drwy gytundeb cyfreithiol.  Mae materion amwynder wedi cael sylw ac mae steil a dyluniad yr adeiladau yn y rhan hon o Fenllech yn eang iawn ac mae digon o bellter rhwng y datblygiad a’r anheddau cyfagos i sicrhau na fydd yn cael effaith ar breifatrwydd nac ychwaith yn creu problemau o ran edrych drosodd.  Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd bod rhan o’r safle mewn parth llifogydd; mae Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd wedi cael ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac wedi cael ei asesu gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn cytuno na fyddai datblygu’r safle hwn yn achosi llifogydd yn yr ardal.  Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad. 

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a oedd digon o lefydd parcio ar y safle ar gyfer datblygiad mor fawr. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Priffyrdd, oherwydd maint hen Westy Plas Glanrafon, bod digon o lefydd parcio ar gael ar y safle a bod y fynedfa’n ddigonol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts nad oes unrhyw gyfeiriad o gwbl yn yr adroddiad at ymgynghori gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig hwn. Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod trafodaethau anffurfiol wedi cael eu cynnal gyda’r adran berthnasol yn y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T.V. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.

 

7.3          31C170D - Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod safle’r cais y tu allan i, er yn ymyl, y ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll fel y mae yn y Cynllun Lleol a bod y cais wedi cael ei hysbysebu fel un a oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol. Mae dau o’r Aelodau Lleol hefyd wedi gofyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ar y cais. Yn ei gyfarfod ar 11 Mai, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais ac fe gynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Mai, 2016. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi apelio yn erbyn methiant ar ran yr Awdurdod i wneud penderfyniad ar y cais a bod y weithdrefn ymchwiliad cyhoeddus bellach wedi cychwyn. Penderfynodd y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Mehefin, 2016 i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd gorddatblygu, draenio a pherygl llifogydd.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau a oeddynt yn dymuno amddiffyn y tri rheswm yn yr apêl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid amddiffyn y tri rheswm a roddwyd dros wrthod y cais yn yr apêl ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd T.V. Hughes.

 

PENDERFYNWYD herio’r apêl i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Dogfennau ategol: