Eitem Rhaglen

Ceisiadau Economaidd

8.1  24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas

8.2  34C326D/VAR/ECON – Yr Hen Safle Cross Keys, Sgwar Bulkeley, Llangefni

Cofnodion:

8.1   24C300A/ECON – Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop/cafFI ac adeilad storfa ategol ynghyd â ffyrdd mynediad a mannau parcio cysylltiedig a gosod tanc septig newydd ar dir yn ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd cyd-destun a maint y cais. Nodwyd y cafwyd ymweliad â’r safle ym mis Gorffennaf 2015.

 

Anerchodd Mr. James Dodd y Pwyllgor fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Soniodd Mr. Dodd wrth y Pwyllgor am brofiad y Cwmni yr oedd yn ei gynrychioli. Mae’r cais yn un am gyfres o lynnoedd amwynder er mwyn gwella’r cyfleusterau i dwristiaid ar yr Ynys gyda gweithgareddau hwylio, pysgota, canŵio, caffi, storfa gychod a chyfleuster dysgu. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys 6 llyn. Yn llynnoedd 1,2 a 3, mae’r dŵr yn cael ei storio islaw lefel naturiol y ddaear ac mae pobl llyn yn dal llai na 10,000 o fetrau ciwbig. Mae llynnoedd 4 a 5 hefyd yn dal llai na 10,000 o fetrau ciwbig ond maent wedi eu lleoli o fewn y gwaith pridd ar gyfer strwythurau cynnal Llyn 6. Mae Llyn 6 yn gweithredu fel ‘corlan’ ac yn dal dros 100,000 o fetrau ciwbig. Caiff y broses o adeiladu llynnoedd a chronfeydd dŵr yng Nghymru ei rheoli gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.  Diwygiwyd y Ddeddf hon yng Nghymru ar 1 Ebrill 2016 a bellach mae rheoliadau’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw gronfa ddŵr sydd â strwythur wedi ei godi ac a fedr ddal rhagor na 10,000 o fetrau ciwbig ac sydd uwchlaw lefel naturiol unrhyw ran o’r tir o’i chwmpas. Caiff y rheoliadau eu gweithredu, eu monitro a’u plismona gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r safonau diogelwch uchaf yn hollbwysig wrth ddylunio’r Llynnoedd a rhaid i Beiriannydd Panel eu harchwilio’n flynyddol a chyflwyno adroddiadau i Gyfoeth Naturiol Cymru.   

 

Holodd y Pwyllgor Mr Dodd am y llifogydd hanesyddol ar yr A5025 gerllaw’r safle. Mewn ymateb, dywedodd Mr Dodd fod y mater, yn dilyn ymgynghori gyda’r Swyddogion Priffyrdd, wedi cael ei liniaru drwy adeiladu ceuffos ym mhwynt isaf y briffordd. Bydd adeiladu’r llynnoedd yn arafu llif y dŵr i’r afon ac yn lliniaru’r broblem llifogydd ar yr A5025.  Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau pellach ynghylch cadw’r enwau Cymraeg ar y llynnoedd arfaethedig. Roedd Mr Dodd yn cytuno fod angen diogelu’r enwau Cymraeg. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Swyddog Asesu Effaith ar yr Iaith Gymraeg y Cyngor wedi derbyn Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y Cyngor, ers ysgrifennu’r adroddiad, wedi llunio barn sgrinio sy’n cadarnhau nad oes angen asesiad amgylcheddol llawn gyda’r cais. Dywedodd ymhellach y bydd angen gosod amod cynllunio ychwanegol ar unrhyw gais o ran oriau agor y cyfleuster, sef 8 a.m., i

8.00 p.m.  Dywedodd y Swyddog y bydd gwaith tirlunio sylweddol yn cael ei wneud o gwmpas y safle ac y bydd mynedfa newydd i’r briffordd yn cael ei hadeiladu. Bydd y gwaith o ddatblygu’r safle yn cymryd hyd at 3 blynedd i’w gwblhau. Roedd yr adroddiad i’r Pwyllgor yn cadarnhau fod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol yn y lleoliad gwledig hwn. Roedd effaith y gwaith adeiladu a gweithredu’r datblygiad ar fwynderau preswyl trigolion eiddo cyfagos wedi cael ei hasesu. Yn unol â’r cais ar yr ymweliad safle, dangoswyd cynllun i’r Pwyllgor o sut y byddai’r datblygiad yn edrych. Nododd mai argymhelliad y Swyddog oedd un o ganiatáu.

 

Dywedodd y Cynghorydd T.V. Hughes ei fod yn croesawu’r ffaith fod datblygwr o’r fath eisiau datblygu’r safle a denu twristiaid a phobl leol i wneud defnydd o’r cyfleuster. Cynigiodd y Cynghorydd T.V. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Hughes y dylid gwrthod y cais gan ei fod yn dymuno gwarchod cymeriad yr ardal. Cododd bryderon hefyd ynglŷn â’r effaith ar yr Iaith Gymraeg a’r angen i ddiogelu’r enwau Cymraeg hanesyddol yn ardal Dulas. Ni chafwyd eilydd i’r cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Lewis Davies ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.

 

8.2   34C326D/VAR/ECON – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o ganiatâd cynllunio rhif 34C326C/ECON (codi canolfan adnoddau) er mwyn rhoi 5 mlynedd bellach i gychwyn y gwaith yn Hen Safle Cross Keys, Sgwar Bulkeley, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r safle ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T.V. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnal gan y Cynghorydd W. T. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: