Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  15C218 – Royal Oak, Malltraeth

12.2  19C1174/FR – Parc Menter, Holyhead

12.3  28C257A – Bryn Maelog, Llanfaelog

12.4  39LPA1026/TPO/CC – Hen Gronfa Ddŵr, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

12.5  41C8G/DEL – Garnedd Ddu, Star

Cofnodion:

12.1    15C218 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tŷ tafarn i ddwy uned breswyl yn y Royal Oak, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad fel Aelod Lleol ar y cais. Aeth y Cynghorydd R. O. Jones, sef yr Is-gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd Mr. David Vaughan, siaradwr cyhoeddus, ei fod yn siarad ar ran y rhan fwyaf o drigolion pentref Malltraeth wrth wrthwynebu’r cais hwn. Dywedodd Mr Vaughan nad oedd y Royal Oak wedi cau oherwydd problemau ariannol ac nad oedd yn gwneud synnwyr i gael gwared ag eiddo hyfyw a fyddai’n golygu colli ased cymunedol hanfodol. Mae’r Royal Oak wedi bod yn y pentref am nifer o flynyddoedd gyda chaniatâd i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel tŷ tafarn. Mae angen wedi bodoli erioed am gyfleuster o’r fath ac mae’r angen yn parhau oherwydd mae’n amwynder hanfodol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr i ardal Malltraeth. Mae’r Royal Oak hefyd ar y llwybr arfordirol a ddefnyddir gan bobl i wylio adar ac i gerdded. Mae ymwelwyr wedi manteisio ar gyfleusterau’r Royal Oak dros y blynyddoedd fel tŷ tafarn mewn pentref.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Mr. Vaughan pam nad oedd diddordeb ymysg y pentrefwyr i redeg y tŷ tafarn ym Malltraeth. Hefyd, dywedwyd bod yna dŷ tafarn arall yn y pentref. Dywedodd Mr Vaughan bod diddordeb yn lleol i redeg y Royal Oak ond eu bod wedi colli allan yn yr ocsiwn.  Dywedodd ymhellach fod si ar led bod y tŷ tafarn arall yn y pentref hefyd am gau.

 

Siaradodd Mr. Dafydd Jones, Siaradwyr Cyhoeddus, o blaid y cynnig a dywedodd bod yr ymgeisydd wedi prynu’r adeilad mewn ocsiwn ym mis Rhagfyr 2015 yn dilyn cau’r Royal Oak ym mis Awst 2014 oherwydd diffyg busnes yno.  Yn ôl Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn, gellir addasu cyfleusterau o’r fath yn anheddau preswyl ar yr amod y bodlonir y polisïau. Bydd y cynnig yn cynnwys dymchwel yr estyniadau to fflat a chodi estyniad llai gyda tho llechi.  Dywedodd ymhellach y byddai newid defnydd y tŷ tafarn yn anheddau preswyl yn cael effaith gadarnhaol ar eiddo cyfagos gyda llai o sŵn, gwell cyfleusterau parcio ar gyfer trigolion lleol a gwneud defnydd o adeilad sydd wedi bod yn wag ers 2014. Dywedodd Mr Jones hefyd bod yna dŷ tafarn arall ym mhentref Malltraeth. 

 

Holodd y Pwyllgor Mr Jones am y datganiad a wnaed gan y gwrthwynebwyr nad oedd unrhyw resymau busnes pam fod y Royal Oak wedi cau. Dywedodd Mr Jones bod y perchennog wedi cael ei wneud yn fethdalwr oherwydd diffyg busnes yn y Royal Oak ac mai dyna oedd y rheswm dros werthu’r adeilad mewn ocsiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol, ei bod yn siarad ar ran rhai o drigolion pentref Malltraeth a hefyd ar ran Cyngor Cymuned Bodorgan. Dywedodd ei bod wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wneud penderfyniad ar y cais hwn oherwydd nifer y gwrthwynebiadau iddo. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at ddau brif bryder trigolion y pentref ynghylch colli tŷ tafarn poblogaidd yn y pentref sy’n hyb cymunedol ar gyfer yr ardal. Mae’r trigolion yn bryderus ynghylch dyfodol y tŷtafarn arall; cafwyd achlust bod y Joiners Arms yn y pentref am gau’n fuan.  Mynegwyd pryderon hefyd bod y ffitiadau a’r gosodiadau y tu mewn i’r Royal Oak wedi cael eu clirio heb ganiatâd. Oherwydd pryderon y trigolion lleol, cafwyd deiseb ac arni 200 o enwau mewn perthynas â phwysigrwydd y Royal Oak fel tŷ tafarn; mae Malltraeth yn ardal ar gyfer gweithgareddau chwaraeon ac roedd y tŷ tafarn yn gyfleuster ar gyfer y cystadleuwyr a oedd yn mynychu Trac Rasio Môn ger Aberffraw ynghyd â’r gwylwyr adar a’r arlunwyr sy’n ymweld â’r ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Griffith bod y Cyngor Cymuned o’r farn y dylai’r anheddau arfaethedig ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer trigolion lleol yn hytrach na llety gwyliau. Yn dilyn trafodaethau gyda’r adran berthnasol yn y Cyngor, nododd bod 45 o dai gwag yn ardal Malltraeth ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw’r ystadegau dangos ai tai gwag ydynt ynteu tai haf ydynt. Mae 20 o bobl ar y rhestr am dai cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae un person wedi ei gofrestru ar y rhestr tai fforddiadwy am annedd ym Malltraeth.  Dengys cyfrifiad 2011 bod 90 o’r 807 o anheddau yn ardal Malltraeth yn dai haf. Roedd prisiau tai ar gyfartaledd yn 2014 yn £171,000 ac incwm aelwydydd ar gyfartaledd yn £24,568.  Mae’r gymhareb fforddiadwyedd tai 6.9 gwaith yn fwy na’r incwm ar gyfartaledd yn 2014 yn ardal Malltraeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adeilad wedi’i leoli o fewn cyfyngiadau’r pentref a bod dyluniad yr estyniad arfaethedig yn cael ei ystyried yn dderbyniol. Roedd o’n gwerthfawrogi bod tŷ tafarn y Royal Oak yn adnodd cymunedol ond roedd ar ddeall bod tŷ tafarn arall ym mhentref Malltraeth a bod dim sicrwydd y bydd hwnnw’n cau yn y dyfodol. O ran y gwaith a wnaed y tu mewn i’r adeilad, cadarnhawyd nad oedd angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2    19C1174/FR – Cais llawn i newid defnydd tir i osod 103 cynhwysydd ar gyfer pwrpas storio yn y Parc Menter, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Awdurdod Lleol yw perchennog y tir y mae safle’r cais yn rhan ohono.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod un o’r Aelodau Lleol wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd y posibilrwydd o lifogydd a phroblemau traffig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd

 

12.3  28C257A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel iard adeiladwr a bod mynedfa iddo o’r ffordd a rhai adeiladau a lleiniau caled. Roedd y Swyddog yn derbyn bod anheddau yng nghyffiniau safle’r cais ond nid oedd o’r farn bod y safle’n un mewnlenwi oherwydd mae bwlch amlwg rhwng y safle hwn a phentref LlanfaeloG ac nid yw’n estyniad rhesymol i’r rhan honno o’r pentref sydd wedi ei datblygu. Byddai codi annedd ar y safle hon yn arwain at bwysau i ddatblygu gweddill y safle i’r dwyrain o’r plot ac ar gyfer datblygiadau mewnlenwi yn ôl tuag at Eglwys St Maelog.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.A. Dew, Aelod Lleol, bod y cais hwn yn un am annedd ar safle tir llwyd ar gyrion pentref Llanfaelog sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel iard adeiladwr. Byddai perchennog yr iard adeiladwr yn ymddeol i’r annedd arfaethedig hon ac ni fyddai’n cael ei gwerthu ar y farchnad agored. Soniodd y Cynghorydd Dew am y cyfeiriad yn yr adroddiad at ddatblygu safleoedd tir llwyd ac y rhoddir blaenoriaeth i dir sydd eisoes wedi ei ddatblygu. Roedd o’r farn y byddai codi annedd ar y safle hwn yn gwella’r ardal a bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan ei fod yn safle mewnlenwi. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd yn ei farn ef, byddai annedd ar y safle hwn yn gwella’r ardal. Fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd T.V. Hughes. Y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais oedd bod yr annedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, mae’n safle mewnlenwi oherwydd mae’r safle eisoes wedi’i ddatblygu ac nid yw’n niweidio mwynderau’r ardal.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rhesymau a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).

 

12.3    39LPA1026/TPO/CC – Cais am waith i goed sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn yr Hen Gronfa Ddŵr, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4    41C8G/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (10) (manylion am lecyn pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 41C8C (cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol) a chreu mynediad un ffordd yn ei le yn Garnedd Ddu, Star.

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Lewis Davies o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn ymwneud â dileu amod 10 o ganiatâd cynllunio 41C8C (cais llawn i newid defnydd y tir ar gyfer lleoli 33 o garafannau symudol). Dywedwyd bod Amod 10 yn golygu creu llecyn pasio ar y lôn yn arwain at y safle. Yn lle darparu llecyn pasio, roedd system fynediad un ffordd yn cael ei chynnig gyda mynedfa newydd i’r briffordd gyhoeddus.

 

Darllenodd y Cynghorydd Jim Evans, Aelod Lleol, lythyr i’r Pwyllgor yr oedd wedi ei dderbyn gan Dr. Edwards, Castellfryn, Gaerwen. Roedd y llythyr yn herio’r cais i ddiwygio amod 10. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Lleol, bod y Swyddogion wedi dweud wrth yr ymgeiswyr, pan gyflwynwyd eu cais cynllunio cyfeirnod 41C8C am y tro cyntaf, bod angen llecyn pasio.  Fodd bynnag, roedd yn deall y gwrthwynebiadau a gafwyd i wneud i ffwrdd ag amod (10) ond dywedodd bod system un ffordd yn ddiwygiad i’r amod ynghylch llecyn pasio yn unig.  O’r holl amodau y mynnwyd arnynt mewn perthynas â chais 41C8C, gofynnwyd am gael gwared ag un ohonynt yn unig. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon derbyn dileu amod 10 ond bod rhaid cael system un ffordd yn y safle. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor y cafwyd, ers ysgrifennu’r adroddiad, 8 o lythyrau a deiseb wedi ei llofnodi gan 19 o wrthwynebwyr, mewn perthynas â’r cais hwn. Er gwaethaf amodau a awgrymwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd, roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o’r farn bod angen amod ychwanegol yn mynnu ar lecyn pasio er mwyn delio gyda’r traffig y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ei greu. Cafwyd trafodaethau gyda’r ymgeiswyr a Swyddogion o’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â chynllun rheoli traffig. Cytunwyd ar hwnnw a chynigir system un ffordd.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod pryderon ynghylch y fynedfa gul i’r safle; byddai’n rhaid i draffig fynd i mewn ac allan o’r safle drwy’r fynedfa hon a dyna’r rheswm pam yr awgrymwyd llecyn pasio ar gyfer y cais. Mae’r ffordd i’r safle hwn yn briffordd gyhoeddus ac ystyriwyd bod system un ffordd yn opsiwn diogelach.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T.V. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: