Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol am 2015-16

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Trawsnewid Llywodraethiant a Phrosesau Busnes).

Cofnodion:

Cyflwynwyd - drafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015/16 i'w ystyried ac ar gyfer sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Mae'r adroddiad yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd ar gyfer y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ac yn amlinellu'r ffocws ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwerthusiad trylwyr o'r holl feysydd gwasanaeth gan ddefnyddio dadansoddiad grid sy'n nodi amcanion, cyflawniadau a chanlyniadau’r gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

 

Nodwyd o'r adroddiad bod rhai elfennau o’r Gwasanaethau Plant yn fregus, yn enwedig y sefyllfa staffio, ar adeg pan fu pwysau ar y gwasanaeth yn sgil nifer gynyddol o blant ar y Gofrestr a mwy o blant sy'n derbyn gofal. Mae angen moderneiddio’r gwasanaethau Anawsterau Dysgu a gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Gwasanaethau Oedolion. Dyrannwyd arian ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth, a oedd yn helpu i leddfu'r pwysau ar staff yn ystod cyfnod o gynnydd yn y galw am wasanaethau. Mae’r heriau i’r dyfodol yn parhau ac maent yn cael sylw’n gorfforaethol. 

 

Gwnaed cynnydd hefyd yn y Gwasanaethau Oedolion. Rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd cyfuno adnoddau'r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill ee Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a chynghorau eraill ar draws Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion drosolwg i'r Pwyllgor o'i adroddiad mewn perthynas â chynnydd a chyflawniadau yn ystod 2015/16, ac amcanion i’r  dyfodol, gan gynnwys gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau yn ystod y drafodaeth: -

 

  Bregusrwydd y Gwasanaethau Plant, fel yr amlygwyd gan AGGCC yn eu hadroddiad ar gyfer 2015/16;

  Ansefydlogrwydd y sefyllfa staffio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol - y broses o recriwtio a chadw staff o fewn yr Awdurdod, yn enwedig Gweithwyr Cymdeithasol; rôl staff asiantaeth o fewn y Cyngor;

  Arferion Llys fel rhan o hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol;

  Buddsoddiad yr Awdurdod Lleol yn y Gwasanaethau Plant a mwy o alw am y Gwasanaeth;

  Diogelu;

  Cryfhau gofal cartref;

  Hybiau Cymunedol;

  Gweithio mewn partneriaeth gyda'r Bwrdd Iechyd;

  Pobl Hŷn yn integreiddio gyda phobl ifanc;

  Cynllun Ymyrraeth Gynnar;

  Tîm o Amgylch y Teulu;

  Ariannu'r Sector Gwirfoddol.

 

Gofynnwyd am wybodaeth am y gwasanaeth gofal cartref yn Ynys Môn. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar sut mae'r gwasanaeth wedi esblygu. Dywedodd fod y ddarpariaeth gofal cartref mewn ardaloedd trefol yn gweithio'n dda, ond ei fod yn anos i’w gyflawni mewn ardaloedd gwledig. Adroddodd ymhellach y bydd y Gwasanaeth yn mynd allan i dendr yn fuan, a bod angen sefydlu tri phecyn gofal - gyda staff wedi'u lleoli yng ngogledd, canolbarth a de Ynys Môn. Bydd yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd gyda'r Bwrdd Iechyd, a bydd yn cefnogi cytundeb lle bydd disgwyl i ddarparwyr bigo i fyny’r holl waith a ddyrannwyd yn eu hardaloedd; bod â rota mwy hyblyg; gweithio o fewn amserlen benodol, yn hytrach na'r model presennol o brynu yn y fan a'r lle.

 

Gofynnwyd i'r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddarparu'r wybodaeth hon yn yr adroddiad sy’n ymwneud â heriau yn y system gofal cartref gyfredol a'r newidiadau y bwriedir eu gwneud i ddelio â hyn.

 

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Derbyn yr adroddiad yn amodol ar y sylwadau cyffredinol a wnaed gan y Pwyllgor.

  Bod Cyfarwyddwr dynodedig y Gwasanaeth Cymdeithasol yn ailymweld â'r adroddiad i ychwanegu cyfeiriadau cryfach at yr heriau a gododd y llynedd yn y Gwasanaethau Plant a sut y mae'r Gwasanaeth yn delio â hwy.

Dogfennau ategol: