Eitem Rhaglen

Strategaeth Iaith Gymraeg 2016 - 2021 (Drafft)

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â'r uchod.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) y cefndir i’rMesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 mewn perthynas â’r Strategaeth Iaith Gymraeg. Dywedwyd bod y Strategaeth yn amlinellu'r dull y bwriedir ei ddefnyddio i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a hwyluso defnydd ehangach o’r iaith o fewn yr ardal a chynnal / cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd 2021.  Mae Fforwm Iaith Strategol Ynys Môn- y crybwyllir ei haelodaeth o fewn yr adroddiad- wedi cael ei sefydlu i nodi blaenoriaethau a llunio Strategaeth Iaith Gymraeg. Bwriedir creu cynllun gweithredu ar gyfer yr ail flwyddyn cyn diwedd blwyddyn gyntaf y Strategaeth.  Cyfrifoldeb y Fforwm Iaith Strategol fydd monitro cynnydd yn erbyn targedau a osodwyd.  Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Cyfrifiad 2011 yn dangos y bu gostyngiad yn nifer ysiaradwyr Cymraeg ar yr Ynys a gweledigaeth y Cyngor yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i o leiaf 60.1% erbyn Cyfrifiad 2021.

 

Dywedwyd ymhellach fod yna gynnig i gynnig 'pecynnau croeso' i newydd-ddyfodiaid i'r Ynys i esbonio iaith a diwylliant Cymru.  ‘Roedd y Cadeirydd yn dymuno cofnodi llwyddiant  tîm pêl-droed Cymru yn ystod Pencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar a sut mae Cymru wedi cael proffil uwch oherwydd ei diwylliant a’i iaith.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod Fforwm Iaith Ynys Môn wedi cytuno i ganolbwyntio ar dair thema: -

 

·       Plant, Pobl Ifanc a'r Teulu

 

Nod:

 

·      Cynnydd yn nifer y teuluoedd lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith gyda phlant, gyda chynnydd yn y cyfleoedd a’r cymorth i’r iaith gael defnyddio’n gymdeithasol;

·      Sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd 16 oed;

·      Cynyddu capasiti a'r defnydd o'r iaith Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu a dysgu ymhlith plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau addysg a chymdeithasol.

 

·       Y Gweithlu, Gwasanaethau Iaith Gymraeg, y Seilwaith

 

Nod:

 

·      Hyrwyddo a chynyddu argaeledd gwasanaethau iaith Gymraeg, cynyddu'r cyfleoedd / disgwyliadau i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a gweithio gyda'n gilydd i nodi cyfleoedd i brif ffrydio'r iaith o fewn datblygiadau a gweithgareddau.

 

Er bod yr Awdurdod yn anelu at gynyddu datblygiad yr iaith Gymraeg yn y gweithle, dywedodd y Swyddog y gobeithir codi proffil yr iaith Gymraeg yn y Cynghorau Tref / Cymuned ar Ynys Môn. Mae'r Cynllun Strategol wedi nodi bod angen Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg o fewn y Cynghorau Tref / Cymuned.  

 

·       Y Gymuned

 

Nod:

 

·      Hyrwyddo a marchnata gwerth a phwysigrwydd y Gymraeg;

·      Hyrwyddo a nodi cyfleoedd i gryfhau'r iaith Gymraeg o fewn y cymunedau a nodi bylchau yn y ddarpariaeth.

 

Adroddodd y Swyddog ei bod yn bwysig bod y Cynllun Strategol yn cydymffurfio â'r polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol i gael nifer ddigonol o dai ar gyfer trigolion lleol er mwyn gwella ffyniant ieithyddol yr Ynys.   Nodwyd hefyd bod angen i gartrefi gwag a thai fforddiadwy fod ar gael.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·      Yr angen i gryfhau cyfleoedd o fewn y cymunedau lleol i alluogi pobl sy'n dymuno dysgu'r iaith Gymraeg;

·      Dylid rhoi rhagor o adnoddau i Gynghorau Tref / Cymuned i ganiatáu ar gyfer defnyddio  Cyfieithydd, os oes angen, yn eu cyfarfodyddDylai adnoddau fod ar gael hefyd i alluogi rhaglenni a chofnodion dwyieithog ar gyfer cyfarfodydd. Er yn cytuno â'r sylwadau a wnaed, ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau ) nad oes unrhyw adnoddau pellach ar gael ar hyn o brydNododd  efallai y bydd rhaid i Gynghorau Tref / Cymuned ystyried codi’r praesept yn y Dreth Gyngor i fynd i'r afael â'r mater a godwyd. Dywedodd hefyd fod Unllais Cymru wedi nodi eu bod yn barod i roi cyflwyniad i Gynghorau Cymuned / Tref ynglŷn â sut i gynnal eu   cyfarfodydd a gweinyddu’n ddwyieithog;

·      Bydd y mewnlifiad o weithwyr Wylfa Newydd posib a fydd yn byw ar yr Ynys yn effeithio ar yr ystadegau o ran yr iaith Gymraeg. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) y cynhaliwyd trafodaeth gyda pherchnogion Wylfa Newydd i sefydlu sut maent yn bwriadu amddiffyn yr iaith Gymraeg ar yr Ynys pan fydd y gweithwyr yn cyrraedd i adeiladu'r orsaf bŵer yn y dyfodol. Dywedodd hefyd yr awgrymwyd iddynt eu bod yn ystyried ariannu 5 Swyddog pwrpasol o fewn dalgylchoedd yr Ynys i hyrwyddo diwylliant, chwaraeon a'r iaith Gymraeg;

·      Mynegwyd pryderon mewn perthynas â rhai plant yn dewis peidio â siarad Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol gynradd i fynd i’r ysgol uwchradd. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) fod yr Adran Addysg wedi bod yn gweithio gyda Phennaeth newydd Ysgol Cybi yng Nghaergybi a bod Penaethiaid y tair ysgol a fydd yn cyfuno i greu'r ysgol newydd wedi cytuno ar flaenoriaethau o fewn eu cynllun gwella sy'n cynnwys gwella llythrennedd y plant sy'n mynychu'r ysgol.  Mae Ysgol Uwchradd Caergybi hefyd wedi bod yn rhan o'r cynllun gwella o ran y gwaith y mae angen ei wneud i wella'r Gymraeg o fewn yr ysgolDywedodd hefyd y dylid annog Llywodraethwyr Ysgol i flaenoriaethau'r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn eu hysgolion;

·      Bod pobl ifanc yn ysgolion uwchradd yr Awdurdod yn gallu cael eu tywys i'r cyfleoedd a ddaw yn sgil prosiectau mawr dan y Rhaglen Ynys Ynni mewn perthynas â swyddi gweinyddol a chyfleon peirianneg.   Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) fodyr Awdurdod wedi datgan y byddai’n hoffi gweld 90% o'r prentisiaid a fydd yn cael cyfleoedd o fewn y prosiectau Ynys Ynni yn ddwyieithog;

·      Tra'n croesawu bwriadau’r Cyngor Sir i wella'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith o redeg yr awdurdod o ddydd i ddydd, awgrymwyd bod angen mynd gam ymhellach o ran cynnal cyfarfodydd o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Penaethiaid ac Uwch Reolwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid targedu adrannau penodol i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) fod y rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ond roedd yn cytuno bod angen i rai adrannau wneud mwy o ddefnydd o'r iaith GymraegDywedodd fod y Rheolwr Polisi a Strategaeth wedi bod yn allweddol o ran cynorthwyo staff i allu mynychu cyrsiau a gweithgareddau i ddysgu a gwella sgiliau iaith Gymraeg;

·      Byddai gwneud mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth yr Awdurdod yn goleuo pobl ifanc yr Ynys i werthfawrogi bod cyfleoedd o fewn yr awdurdod lleol i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac yn eu cadw ar yr Ynys;

·      Yr angen i wella cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau Cymunedol ar yr Ynys.  Dylai sefydliadau o fewn cymunedau ystyried gwneud ceisiadau i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i gynyddu’r defnydd o'r iaith Gymraeg yn ystod gweithgareddau y maent yn gyfrifol amdanynt

 

Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Strategaeth Iaith Gymraeg am 2016-2021 (Drafft) i'w chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ac wedi hynny gan y Cyngor llawn.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: