Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2016/17

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd mai diben yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol drwy Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:- 

 

·         Cyfleusterau cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·         Grantiau Eraill (grantiau bach untro yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr, 2016 fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn hefyd y byddai clustnodi grantiau i sefydliadau unigol yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn. Yr uchafswm a ganiateir ar gyfer Grantiau Cymunedol ac Adnoddau Chwaraeon yw £8,000 a hyd at 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill, 2011 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn i gynyddu’r uchafswm a graddfa’r canran o ganlyniad i’r ceisiadau a gafwyd.  

 

Mae Swyddogion perthnasol Cyngor Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a gafwyd cyn belled a bo hynny’n bosibl ac yn unol â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Gwelir argymhellion y Swyddogion yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi’i sefydlu ar gyfer y ddau grant sydd wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau grant i’r Gronfa Eglwys yng Nghymru. Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini prawf ar gyfer Dyraniad Grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, copi ohono sydd wedi’i atodi fel Atodiad B i’r adroddiad. 

 

Roedd aelodau o’r Pwyllgor yn bryderus bod ceisiadau am grantiau i weld wedi gostwng hyd at 20% eleni. Nododd y Cadeirydd y byddai’n hoffi gweld mwy o hyrwyddo’r grantiau Ymddiriedolaeth Elusennol a mwy o gymorth yn cael ei roi i sefydliadau er mwyn llenwi’r ceisiadau am grant. Awgrymwyd bod Medrwn Môn yn sefydliad a allai fod ar gael i sefydliadau sydd angen cymorth i lenwi ceisiadau.   

 

CYTUNWYD y dylid trefnu gweithdy er mwyn adolygu’r weithdrefn grantiau flynyddol ac y dylid rhoi cymorth i ymgeiswyr er mwyn symleiddio’r broses o ymgeisio am grant blynyddol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  

 

Mae’r ceisiadau a gafwyd a’r symiau a gafodd eu hargymell ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf ar gyfer 2016/17 fel a ganlyn:-

 

01  3D KIDS                                    Er mwyn hwyluso’r gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer plant  ac oedolion (0-25) a’u teuluoedd.               

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Er bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cais am grant, ystyriwyd bod diffyg gwybodaeth yn y cais o ran ar gyfer pa weithgareddau y mae’r sefydliad yn bwriadu defnyddio’r grant: 

·           Gofyn i’r Swyddog gysylltu â’r ymgeiswyr er mwyn trafod y mater ymhellach;

·           Awdurdodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn i ddyrannu grant o £2,100 os ydynt yn fodlon ag ymateb y sefydliad. 

 

 

02  Clwb Pêl-droed Hotspurs         Ailwampio ardal y cefnogwyr                                     £3,900

                Caergybi

 

03  Ras Gyfnewid am Fywyd       Costau cynnal y digwyddiad ras gyfnewid a      £1,000

          Gwynedd a Môn                 gynhelir ar 9 a 10 Gorffennaf. Mae’r arian a gesglir

                                                    yn cyfrannu at strategaethau ymdopi â chanser,

                                                     cymorth seicolegol ac ymarferol. 

 

Safodd y Cadeirydd, Mr. Jeff Evans, i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor gan ddatgan diddordeb mewn perthynas â chais rhif 04 fel y nodir isod.  

 

04  Clwb Caban Rhoscolyn             Offer chwarae awyr agored, offer garddio,    £2,100

                                                     ffrâm ddringo, sleidiau, beics bach, sgwteri,

                                                     offer chwarae dŵr a thywod a chuddfannau. 

 

05  Grŵp Cymuned a                     Er mwyn prynu Pabell Fawr a system PA        £1,750

      Charnifal Porthaethwy

 

06  Parti Meibion Bara Brith            Cyllid i greu CD                                             DIM

                                                                                                             (Heb gyflwyno amcanbrisiau na pholisïau)

 

 

 

07  Cyngor Cymuned                     Diweddaru system TCC                                   DIM

      Llanfairmathafarneithaf

                                                                                                             (Cynllun yn costio dros  £30,000 ac nid yw’n gymwys ar gyfer ystyriaeth)

 

08  Grŵp Cynefin                          Darparu Wardeiniaid Egni Cymunedol             DIM

                                                                                                                        (ddim yn gymwys)

 

 

09  Clwb Pêl-droed                       Prynu cynhwysydd storio                               £1,848

      Bae Trearddur                 

 

14  Bryngwran Cymunedol Cyf.       Ailwampio’r toiledau a’r gegin a dodrefnu’r     £3,000

                                                         ystafell amlbwrpas

 

15  Adlais                                      Cymorth i gefnogi cyngerdd 25 mlynedd        DIM

                                                                                                                        (ddim yn gymwys)

                                                                                                                       

 

16  Clwb Pêl-droed Llangefni          Offer tuag at adnoddau cynnal a chadw’r       £4,271

     Clwb Pêl-droed

 

17  Pantri 6                                    Cyllid ar gyfer arwyddion, peintio, gostwng     £8,000

     nenfwd,  inswleiddio, inswleiddio waliau,

     gwres canolog,. Gosod toiledau anabl, gwefan

     a chyllid ar gyfer  un swydd.

 

18  Neuadd Goffa Pentraeth          Gostwng y nenfwd a gosod goleuadau newydd.£3,117

 

19  Neuadd Goffa Bodedern          Ailwampio’r Neuadd gan gynnwys gosod ffenestri/£5,782

                                                    Boeler/stôf newydd ac ymestyn y maes parcio.

 

 

20  Cyngor Cymuned                     Diogelu’r Lleiniau Garddio Cymunedol yn unol â  £2,100

      Llannerch-y-medd                    gofynion Iechyd a Diogelwch            

                                                                                                                                    (yn amodol ar dderbyn ail ddyfynbris)

 

                                                                             

 

21  Clwb Pêl-droed Cemaes            Llifoleuadau                                                 £8,000

(yn amodol ar dderbyn y grant gan Glwb Padrig)

 

22  Clwb Gymnasteg Môn        Prynu Offer Diogelwch                                        £1,000

 

23  Partneriaeth Adfywio         Datblygu gardd/lain garddio                                 £3,753 

      Morawelon a Ffordd           ar dir ger Canolfan Gymunedol

      Llundain (Morlo)                        Gwelfor

 

 

24  Pwyllgor Montage               Trefnu Gŵyl Ysgrifennu Undydd                          £250

                                                        Ynys Môn

 

26   Cymdeithas Ardaloedd         Offer i greu lle chwarae                                     £7,120

        Chwarae Llanfaes                               

                                                                                                                         (ar yr amod bod y  gymdeithas yn sicrhau les 21 mlynedd ar y tir)

 

27  Cyngor Cymuned              Ffens ychwanegol ar gyfer                                     DIM

           Bryngwran                        cae chwarae Bryngwran

                                            

(Derbyniwyd grant gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2014/15, felly ddim yn gymwys)

 

28  Crafty T’arts                               Er mwyn prynu cynnyrch storio                    £1,042

 

29  Cyngor Cymuned Moelfre        Prynu offer ar gyfer y lle chwarae                    DIM

                                                       ac ailwampio’r ardal tennis er mwyn 

                                                      cydymffurfio â’r gofynion Iechyd a Diogelwch.

                         (Ddim yn gymwys gan iddynt dderbyn grant yn 2014/15)

 

30  Cronfa Ffenestri Lliw                Ariannu cyhoeddiad y llyfr dwyieithog                         £3,000

      Eglwys Sant Gwenllwyfo          ‘Trysorau Cudd’ ar hanes gwydr lliw

                                                        Ffleminaidd yn Eglwys Gwnenllwyfo.       

 

31  Cylch Llythrennedd               Dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 40 oed      £1,585                                   

         Llanfairpwll                            drwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau

 

32  Cymdeithas Offer Hynafol      Prynu toiled ‘portaloo’, celfi a ffitiadau               DIM

      Môn                                            ar gyfer ystafell gyfarfod/hyfforddiant

(Wedi cyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio a heb gyflwyno polisïau)

 

33  Cymdeithas Pobl Fyddar       Ailosod Uned Symudol CPFGC er                     £8,000

          Gogledd Cymru                mwyn hwyluso offer cynorthwyol a sesiynau

                                                         1:1 yn yr uned

 

34  Côr Ieuenctid Môn                  Er mwyn ariannu Gweinyddydd /                      DIM

Cydlynydd rhan-amser

                                     (Ddim yn gymwys gan nad yw’r ymddiriedolaeth yn cefnogi costau cyflogi )

 

36  Clwb Hwylio Brenhinol Môn      Tuag at brynu cwch diogelwch                        £8,000

     (Yn amodol ar gadarnhad nad yw’r cais wedi derbyn cymorth gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol y llynedd)

 

38  Canolfan Ucheldre                  Er mwyn darparu rhaglen canolfan                   DIM

                                                     celfyddydau llawn, arddangosfeydd, ffilmiau

                                                      darllediadau lloeren, gweithdai, clybiau

                                                      a chymdeithasau

                                                                                                                                    (Nid yw cynlluniau dros £30,000 yn gymwys ar gyfer eu hystyried)

 

 

 

39  Ffermwyr Ifanc Ynys Môn         Ariannu prosiect i wella sgiliau sylfaenol         DIM

                                                        aelodau er mwyn gwella eu cyfleoedd

                                                        cyflogaeth. 

 

(Ddim yn gymwys gan fod y Gymdeithas eisoes yn derbyn grant blynyddol o £30,000 gan yr Ymddiriedolaeth)

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau a nodir uchod (£x) [ger y symiau arfaethedig]. Ar raddfa gymeradwyo o 70%.

 

Dogfennau ategol: