Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn portreadu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd arnynt rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ar ddiwedd Chwarter 1.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r Cerdyn Sgorio, a nodwyd y materion canlynol: -
• Cost absenoldeb mamolaeth a thadolaeth - nid yw ar y Cerdyn Sgorio;
• Rheolaeth Ariannol - (4 coch – statws Coch / Ambr / Gwyrdd (statws CAG) - gorwariant o 300k ar hyn o bryd. Dim pryderon ariannol ar hyn o bryd.
• Amrywiad o 87% o ran costau asiantaeth (statws Coch) - yn uwch na'r disgwyl, ond nid oes unrhyw bryder mawr yn Ch1.
• Gofal cwsmeriaid - Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - dim digon o staff i ddelio â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth? Mae llawer o geisiadau mewn perthynas ag un pwnc, 2% o wahaniaeth ers y llynedd. Mae'r sefyllfa gyfredol yn llawer gwell gan fod 76% o’r ceisiadau wedi eu hateb. Sicrwyddbod yr UDA yn trafod ffigyrau gyda gwasanaethau perthnasol i wella perfformiad.
• Galwadau ffôn - y duedd yn mynd i lawr, dim pryderon ar hyn o bryd, yn dal i fod o fewn y targed corfforaethol (statws Gwyrdd).
• Ysgolion - angen gostwng y gyfradd salwch yn yr ysgolion.
Dywedodd y Pwyllgor fod yr Aelodau wedi gofyn am ddadansoddiad o gostau tybiedig salwch i'r Awdurdod ond nad yw wedi dod i law hyd yma.
Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes (GM) fod cost dybiannol salwch wedi'i gynnwys yn y Cerdyn Sgorio ar gyfer y llynedd. Penderfynwyd yn y gweithdy a fynychwyd gan y Pwyllgor Gwaith, y Pwyllgor Gwaith Cysgodol a'r UDA a fu’n adolygu'r Cerdyn Sgorio y dylid tynnu’r ffigyrau ar gyfer eleni, oherwydd gallant fod yn gamarweiniol, ac mae angen gwneud gwaith llawer manylach.
Nodwyd y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith yn Chwarter 3 (argymhelliad 3.1.4 yr adroddiad) ar waith sy’n ymwneud â salwch, ac awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor aros am y diweddariad hwn yn hytrach na gofyn am diweddariad ar gyfer y cyfarfod nesaf. Gan gyfeirio at yr argymhelliad uchod, gofynnwyd am eglurhad ynghylch pryd y byddai materion salwch yn destun sgriwtini gan fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei raglennu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith.
Gan gyfeirio at argymhelliad 3.1.3, gofynnwyd am eglurhad ynghylch aelodaeth y panel her salwch. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y panel yn cynnwys y canlynol: Y Prif Weithredwr, Prif Weithredwyr Cynorthwyol; aelodau eraill o'r UDA sy'n cydgysylltu â Phenaethiaid Gwasanaeth a chynrychiolwyr Adnoddau Dynol.
Cyfeiriwyd at y Dangosfwrdd a chafwyd diweddariad gan y Rheolwr Rhaglen am statws CAG tasgau, prosiectau a rhaglenni’r Cyngor.
PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -
• Derbyn yr adroddiad.
• Mewn perthynas ag argymhelliad 3.1.1, gofyn am ychwanegiad at yr argymhelliad ‘a meysydd sy’n llithro '.
• Bod y Pwyllgor yn derbyn y mesurau lliniaru a amlinellwyd yn yr adroddiad ac felly nid yw wedi gwahodd unrhyw swyddogion yn y cyfnod hwn gan mai dim ond Ch1 ydyw, ond cydnabyddir bod angen monitro’r Gwasanaethau Plant yn agos, ac felly mae’n dymuno gwahodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant i adrodd yn y cyfarfod chwarterol nesaf;
• O ran yr argymhellion sy'n weddill, mae'r Pwyllgor yn dymuno cadw ei sylwadau hyd nes y derbynnir adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fel y cyfeirir ato yn argymhelliad 3.1.4. yr adroddiad.
• Gofyn am gopi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i gynorthwyo'r Pwyllgor Gwaith o ran materion cyn-sgriwtini.
Dogfennau ategol: