Eitem Rhaglen

Gwahodd Tendrau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cartref yn Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar ddarparu pecynnau gofal sy'n cydymffurfio â gofynion rheolau sefydlog caffael yr Awdurdod.

 

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Gofal i Bobl Hŷn wedi archwilio opsiynau a chytunwyd mai comisiynu sy'n seiliedig ar ardaloedd penodol yw'r ffordd ymlaen i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn amodol ymrwymedig i gydgomisiynu gofal cartref yn y dyfodol.

 

Bwriedir mynd allan i dendro ar gyfer tair lot sy’n seiliedig ar dair ardal ddaearyddol h.y. Gogledd, Canol a De'r ynys. Bydd cytundebau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn raddol dros gyfnod o ddeuddeng mis, a bydd y broses dendro yn dechrau ym mis Hydref / Tachwedd, 2016. Cynhelir digwyddiadau 'Cwrdd â'r Prynwr' i gynorthwyo'r broses dendro.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd wrth y Pwyllgor fod saith darparwr allanol yn darparu gofal cartref ar Ynys Môn ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at broblemau a gafwyd gyda'r pecynnau 'dewis a dethol', nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn rhai ardaloedd sy’n golygu bod rhaid i ddarparwyr mewnol gymryd y gwaith. Cynigir y bydd yn rhaid i ddarparwyr edrych ar bob pecyn gofal yn ddieithriad. Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a bydd pecynnau llai dwys yn cael sylw gyntaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod materion / heriau o fewn y Gwasanaeth yn ddyddiol ac adroddodd ar y pwyntiau canlynol: -

 

  Bod perfformiad ynghylch pobl sy'n gadael yr ysbyty wedi gwaethygu a bod angen mynd i'r afael â’r mater;

  Nid yw’r ddarpariaeth gofal yn gyson ar draws ac nid yw hynny’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol;

  Mae angen mynd allan i’r farchnad i fodloni rheolau sefydlog y Cyngor;

  Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth i fodloni manyleb y Gwasanaeth Oedolion;

  Mae angen cryfhau'r farchnad a’r cymorth sydd ar gael yn y tymor canol a'r tymor hir, er mwyn galluogi darpariaeth sy’n cwrdd ag anghenion  defnyddwyr gwasanaeth yn gyson;

  Gallai nifer fach o ddarparwyr gyflawni rhai darpariaethau, ond ni fyddent yn cwrdd ag anghenion y pecynnau dwysach;

  Bydd y Cyngor yn gweithio ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y dyfodol ac yn gobeithio mynd allan i’r farchnad gyda phecynnau gofal;

  Mae rhai defnyddwyr gwasanaeth yn cael pecynnau gofal yn y cartref ac mae pecynnau diwedd oes hefyd;

  Bydd gan y contractwyr mawr gyfle i is-gontractio;

  Taliadau uniongyrchol - cynnig pecyn ariannol. Amlygwyd pwysigrwydd cynyddu nifer y taliadau uniongyrchol;

  Arwyddo contract am gyfnod o amser;

  Gall ddod â phobl i dasg;

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd mynd allan i'r farchnad yn lleihau'r risg mewn perthynas â sicrhau darpariaeth tymor hir ac yn cryfhau'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr, o ran cydweithio â defnyddwyr gwasanaeth a materion ansawdd.

 

Cododd yr Aelodau y materion / heriau canlynol yn ystod y drafodaeth: -

 

  Gwnaed cais am i gynrychiolydd o BIPBC fynychu'r Pwyllgor Sgriwtini i drafod heriau o fewn y Gwasanaeth. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod trefniadau wedi eu gwneud i gynrychiolydd o BIPBC fynychu'r Pwyllgor Sgriwtini  Partneriaeth ac Adfywio ym mis Tachwedd.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r Gwasanaeth yn parhau i gyflogi pobl leol, gan fod pryderon wedi eu mynegi y gallai defnyddwyr gwasanaeth golli eu darparwyr gwasanaeth cyfredol. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd angen cynnwys cymalau o’r fath y manylebau. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd darparwyr yn gallu darparu gwasanaeth yn newis iaith y defnyddiwr gwasanaeth, gan sicrhau bod modd cynnal y cyswllt lleol. Dywedodd ymhellach y bydd heriau mewn rhai ardaloedd lle nad oes digon o ddarparwyr gofal lleol

  Codwyd cwestiwn ynghylch pam mai dim ond tair ardal a ddynodwyd o dan y cynllun. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod nifer y darparwyr gwasanaeth yn isel ar hyn o bryd a bod angen mynd i'r afael â hynny, ynghyd â materion ansawdd. Dywedodd fod y gwasanaeth wedi ceisio rhannu’r  ynys yn dair ardal gyfartal, gyda'r bwriad o greu darparwyr cryf a chadarn. Cyfeiriwyd at arbedion maint, a fydd yn ymarferol y dyfodol. Gydag ardaloedd llai mae busnes yn tueddu i fod yn wannach.

  Gofynnwyd am eglurhad ar sut mae'r Cyngor yn rheoli ansawdd e.e. beth fyddai'n digwydd os yw darparwr yn mynd i'r wal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod ymyrraeth gynnar yn allweddol.  O ran asiantaethau sy'n gweithio gyda chontractwyr a bydd ganddo gontractau craidd.

  Gofynnwyd a allai un sefydliad gyflwyno tendr am y tair ardal. Ymatebodd y Rheolwr Caffael na chaiff darparwyr dendro am y tair ardal ar yr un pryd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gallai cael un darparwr ar gyfer yr ardal gyfan arwain at fethiant y gwasanaeth. Dywedodd fod swyddogion yn ymwybodol o'r risgiau, a bod gweithdrefnau diogelu rhag maethu eisoes wedi cael eu nodi.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhelir proses dendro ffurfiol sy'n dilyn canllawiau cenedlaethol, a bydd yn rhaid i ddarparwyr fodloni canllawiau cadarn.

 

Awgrymwyd y dylid cynnal sesiwn Friffio i Aelodau cyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ym mis Tachwedd pryd y bydd cynrychiolydd o BIPBC yn mynychu.

 

Gweithredu:

 

Fel y nodir uchod.

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn mabwysiadu Opsiwn 3, sef Comisiynu sy’n seiliedig ar ardaloedd, fel y dull gweithredu a ffefrir.

Dogfennau ategol: