Eitem Rhaglen

Cofnodion

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol: -

           

Cofnodion - 11 Gorffennaf, 2016

 

Eitem 3 - Diweddariadau gan Aelodau

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pennaeth Trawsnewid wedi rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol, a daeth i'r casgliad mai’r fformat gorau i Aelodau adrodd yn ôl o Fyrddau’r Rhaglen Drawsnewid a’r Byrddau Prosiect  fyddai trwy Ddangosfwrdd a fyddai’n cynnwys gwybodaeth ynghylch cynnydd a wneir gyda’r rhaglenni, y prosiectau a’r tasgau sy'n gysylltiedig â phob Bwrdd. Mae hyn bellach wedi ei ymgorffori yn yr adroddiad ar y Cerdyn Sgorio a gaiff sylw bob chwarter gan y Pwyllgor. ‘Roedd y Pwyllgor yn pryderu y gellid gofyn i'r Aelodau am atborth ar y cynnydd mewn perthynas â'r rhaglenni, y prosiectau a’r tasgau cysylltiedig, ac y gellid eu herio nhw gan mai Aelodau Portffolio a swyddogion sy’n atebol am gyflawni mewn perthynas ag unrhyw faterion oherwydd mai nhw yw  cynrychiolwyr y Byrddau Rhaglen a Phrosiect.  Nodwyd nad hon oedd y ffordd ymlaen a gynigir.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch eu rolau ar y Byrddau Rhaglen a Phrosiect a thynnwyd  sylw at anghysondebau o ran adrodd yn ôl o gyfarfodydd. Gofynnwyd am eglurhad ar y swyddogaeth adrodd.

                           

Mewn ymateb, rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft o'r Bwrdd Rhaglen Trawsnewid  Addysg sy'n cynnwys y rhaglen moderneiddio ysgolion fel rhan o'i gylch gwaith. Nodwyd bod perfformiad a moderneiddio ysgolion (sy'n rhan o’r rhaglen codi safonau) yn faterion sy’n cael sylw gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ac mai’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio sy’n rhoi sylw i rai agweddau eraill e.e. trefniadau partneriaeth.

 

Adroddwyd gan y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes mai diben cynrychiolaeth Sgriwtini ar y Byrddau Trawsnewid Corfforaethol a’r Byrddau Partneriaeth a  Llywodraethu yw nodi, trwy Gadeirydd pob Bwrdd, y materion hynny a allai elwa o gymorth sgriwtini pellach.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Cadeirydd yn cyfleu i'r Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol bryderon y Pwyllgor fel y nodir nhw uchod mewn perthynas ag atborth o’r Byrddau Rhaglen a Phrosiect.

  Egluro rolau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr Sgriwtini ynghylch tasgau, prosiectau a rhaglenni cyn y cyfarfod nesaf.

  Bod yr Aelodau Sgriwtni ar Fyrddau’r Rhaglen Drawsnewid Gorfforaethol yn nodi materion i'w cynnwys ar Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini ar y cyd â Chadeirydd y ddau Fwrdd.

 

Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015-16

 

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ynghylch heriau o fewn y system gofal cartref gyfredol a’r newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r dyfodol.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod y gwaith mewn perthynas â heriau yn y Gwasanaethau Plant wedi cael ei wneud ac y bydd yn cael ei adlewyrchu yn fersiwn derfynol yr adroddiad a fydd yn cael sylw yn y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Sir.

 

Dim camau pellach.

 

Eitem 6 - Rhaglen Waith Sgriwtini

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini na chafwyd yr eglurder y gofynnwyd amdano ynghylch themâu perthnasol ac ansawdd yr adroddiadau yn unol â'r argymhelliad.  Nodwyd efallai bod angen tynhau’r argymhellion ar y Rhaglen Waith.

 

Dim camau pellach.

Dogfennau ategol: