Eitem Rhaglen

Y Broses Dyfarnu Grantiau

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth, yn ddiweddar, wedi dyfarnu grantiau mawr yn ogystal â grantiau bach i sefydliadau sy’n gweithio ar Ynys Môn.  Yn y gorffennol dyfarnwyd grantiau ar sail achos wrth achos wrth i’r Ymddiriedolaeth dderbyn ceisiadau, ond ym mis Ionawr 2016 cyflwynwyd proses fwy ffurfiol.  Cynhwyswyd crynodeb o’r grantiau mawr a ddyfarnwyd yn ddiweddar yn yr adroddiad.  Dywedodd y Trysorydd bod nifer o sefydliadau eraill yn awr yn gofyn sut y gallent wneud cais am grantiau mawr, ac mae cwestiynau wedi eu gofyn ynghylch a yw ceisiadau am grant i dalu costau rhedeg yn gymwys ac a oes gan sefydliad sydd wedi derbyn grant bach hawl i wneud cais am grant mawr, ac i’r gwrthwyneb.  Os mai bwriad yr Ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau mawr yn flynyddol gan ddefnyddio’r twf yng ngwerth cyfalaf buddsoddiadau yna mae angen proses mwy ffurfiol sydd wedi ei diffinio’n glir er mwyn sicrhau fod grantiau’n cael eu dyfarnu mewn modd teg, gyda chyfleoedd yn agored i bawb.

 

Yn 2016 dynodwyd swm o £200,000 gan yr Ymddiriedolaeth fel swm sydd ar gael ar gyfer grantiau mawr.  Gwnaethpwyd y penderfyniad mewn cyfarfod llawn o’r Ymddiriedolaeth ar sail argymhelliad gan y Trysorydd a oedd wedi ymgynghori â Rheolwyr Buddsoddi HSBC.  Seiliwyd y swm ar ddynodi 20% o’r twf disgwyliedig yng ngwerth cyfalaf y gronfa yn ystod 2016.  Er mwyn caniatáu amser digonol i ymgymryd â’r broses gais ffurfiol mae angen gwneud penderfyniad ynghylch y swm sydd ar gael ar gyfer grantiau mawr yn gynharach yn y flwyddyn ariannol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2016, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth bod y penderfyniad ynghylch y swm sydd ar gael yn flynyddol ar gyfer grantiau mawr yn cael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau.  Argymhellir bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol yng nghyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau ac yn seiliedig ar argymhelliad gan y Trysorydd mewn ymgynghoriad â Rheolwyr Buddsoddi HSBC.

 

Datganodd y Trysorydd nad yw’r Ymddiriedolaeth lawn wedi llunio na chytuno ar gytundeb cyfreithiol safonol ffurfiol; roedd cytundeb cyfreithiol drafft ynghlwm i’r adroddiad yn Atodiad 1 sydd yn amlinellu pa ddefnydd y dylid ei wneud o’r arian grant, pa dargedau perfformiad a osodwyd, sut fydd y prosiect yn cael ei fonitro ac yn amlinellu hawliau mynediad yr Ymddiriedolaeth ac yn caniatáu i’r grant gael ei adennill os penderfynir bod hynny’n angenrheidiol.  Nodwyd y bydd rhai rhannau o’r cytundeb yn newid ar gyfer pob grant a ddyfernir.  Nododd bod yr Ymddiriedolaeth angen gwarant mewn perthynas â phob grant unigol, er mwyn sicrhau bod modd adennill y grant gan sefydliad petai’r angen yn codi.  Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod modd amrywio lefel y warant ac amlygwyd hyn yn yr adroddiad.

 

Mewn perthynas â grantiau bach, Swyddog o fewn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, gyda chymorth staff y Gwasanaeth Cyllid, sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiad ag amodau’r grant.  Mae’r gwaith monitro ar gyfer y grantiau bach fel arfer yn weddol syml a gellir cynnal ymweliad hefyd i gadarnhau bod yr asedau a brynwyd yn parhau i fod ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.  Fodd bynnag, mae prosiectau wedi’u hariannu gan grantiau mawr yn fwy cymhleth ac efallai y bydd angen craffu ar gyfrifon ariannol yr ymgeisydd a bydd gofyn monitro dros gyfnod hirach wrth i’r prosiect a ariennir fynd rhagddo. Nododd y Trysorydd bod angen gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen i’r Ymddiriedolaeth gyllido adnodd yn y tymor byr i fonitro a gweinyddu’r grantiau mawr a roddir gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Yn dilyn trafodaethau gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth PENDERFYNWYD :-

 

·           I ddirprwyo’r penderfyniad i’r Pwyllgor Buddsoddi a Grantiau i benderfynu ar lefel y cyllid fydd ar gael i ariannu grantiau mawr ym mis Tachwedd yn flynyddol;

·           I wahodd ceisiadau am grantiau mawr gan sefydliadau drwy gyfrwng hysbysebion cyhoeddus mewn papurau newydd lleol a gwefan y Cyngor, gan gychwyn ym mis Tachwedd gyda dyddiad cau yn hwyr ym mis Ionawr;

·           Bod ceisiadau am grantiau mawr yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Adfywio a fydd yn gwneud argymhellion i’r Ymddiriedolaeth lawn ym mis Mawrth yn flynyddol;

·           Cadarnhau y caniateir i sefydliadau wneud ceisiadau am gymorth gyda chostau rhedeg  ond bydd rhaid i’r sefydliad ddangos yn glir yn eu cais sut fydd y sefydliad yn sicrhau hyfywedd ariannol y prosiect unwaith y bydd arian gan yr Ymddiriedolaeth wedi dod i ben;

·           Bod gan sefydliad sydd wedi derbyn grant bach yn y gorffennol yr hawl i wneud cais am grant mawr ond nad oes gan sefydliad hawl i dderbyn grant bach a grant mawr mewn dwy flynedd olynol ac mai dim ond un grant bach ac un grant mawr a ddyfernir mewn unrhyw gyfnod treigl o bum mlynedd;

·           Bod yr Ymddiriedolaeth yn derbyn y cytundeb grant safonol ac yn dirprwyo i’r Swyddog Monitro a Phennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 y Cyngor yr hawl i ddiwygio’r cytundeb yn ôl yr angen i fodloni amgylchiadau unigol unrhyw grant.

·           Bod yr Ymddiriedolaeth yn dirprwyo i’r Swyddog Monitro a Phennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 y Cyngor yr hawl i benderfynu lefel y warant sydd ei angen ar gyfer pob grant unigol a ddyfernir;

·           I ddirprwyo awdurdod i Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol a’r Trysorydd mewn perthynas ag ariannu costau adnoddau tymor byr ychwanegol i gynorthwyo i fonitro’r 10 grant presennol a ddyfarnwyd ac i ymdrin ag unrhyw grantiau pellach a ddyfernir hyd nes y gwneir penderfyniad am llywodraethiant yr Ymddiriedolaeth yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: