Eitem Rhaglen

Ymateb y Cyngor Sir i'r Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gan Horizon - Cam 2

Y Prif Weithredwr i adrodd ar yr uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys ymateb yr Awdurdod i Ail Gam Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Horizon Nuclear Power (PAC 2) ynghylch y prosiect Wylfa Newydd.

 

Adroddwyd bod rhaid cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (GCD) ar gyfer y brif orsaf bŵer a’r datblygiadau cysylltiedig hanfodol oddi ar y safle mewn perthynas â’r bwriad i adeiladu Gorsaf Niwclear Wylfa Newydd.  Mae Pŵer Niwclear Horizon yn rhagweld cyflwyno'r cais GCD i'r Arolygiaeth Gynllunio ym mis Mai 2017.  Yn dilyn archwilio'r cais, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cyflwyno argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol a fydd yn penderfynu ar y cais a'r amodau terfynol (a elwir yn ofynion) a osodir ar unrhyw ganiatâd os cymeradwyir y cais. O dan y drefn statudol yng Nghymru, ni fydd y gwaith galluogi megis gwelliannau priffyrdd, gwaith paratoi’r safle a datblygiadau cysylltiedig yn cael ei gynnwys yn y cais GCD ond bydd yn destun 10 cais ar wahân dan y Deddf Cynllunio Gwlad a Thref. Cyflwynir y ceisiadau hyn i'r Awdurdod Cynllunio i’w penderfynu dros y misoedd nesaf. 

 

Mae ail gam yr ymgynghoriad cyn ymgeisio (PAC 2) yn dilyn PAC1 a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ac ymgynghoriad interim a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2016.  PAC2 yw'r ymgynghoriad ffurfiol terfynol cyn cyflwyno'r GCD ac mae’n cynnwys y prif safle niwclear, y  datblygiadau oddi ar y safle a datblygiadaucysylltiedig.  Mae gan PAC2 gyfnod ymgynghori o 8 wythnos a ddechreuodd ar 31 Awst, 2016 ac a fydd yn dod i ben ar 25 Hydref, 2016.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor gyflwyniad gan nodi bod y prosiect yn cynnwys y canlynol: -

 

·           Prif safle'r orsaf bŵer a datblygiadau annatod oddi ar y safle (e.e. MEEG) yn y GCD;

·           Gwaith galluogi (priffyrdd a pharatoi safle);

·           Datblygiadau cysylltiedig (e.e. Llety Gweithwyr) mewn 10 o geisiadau dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref a gyflwynir i’r Cyngor Sir.

 

Dywedodd fod y brif ddogfen ymgynghori yn cynnwys 22 o benodau ar wahân; Dogfen Trosolwg Ymgynghori; Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (AGAR) (29 o benodau ar wahân); Atodiadau penodol i'r AGAR (6 dogfen); Dogfennau technegol (5 adroddiad) h.y. Asesiad o’r Effaith Ieithyddol, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, Cynllun Tystiolaeth Ddrafft Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Asesiad Cynaliadwyedd; Adroddiadau Pwnc (15 adroddiad ar wahân); Uwchgynlluniau (4 adroddiad); Cwestiynau Strategol (11 cwestiwn); Cynllun Budd Cymunedol a Chynllun Lliniaru Sŵn Lleol.

 

Wrth baratoi’r ymateb i PAC 2 dywedodd yr Arweinydd y ceisiwyd atborth gan Swyddogion ym  meysydd gwasanaeth y Cyngor Sir, gan Aelodau Etholedig mewn sesiynau briffio a mewnbwn arbenigol gan ymgynghorwyr proffesiynol a chyfreithiol (a gyllidir gan Pŵer Niwclear Horizon drwy'r Cytundeb Perfformiad Cynllunio a gytunwyd gyda'r Cyngor Sir). Mae'r Awdurdod yn parhau i fod yn gefnogol, mewn egwyddor, i brosiect Wylfa Newydd ond mae angen manylion pellach mewn perthynas ag Addysg, Sgiliau a Swyddi, y Gadwyn Gyflenwi, Tai / Llety Gweithiwr, yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig, Twristiaeth, Iechyd a Lles a’r Methodoleg ar gyfer Dewis Safle.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y materion canlynol: -

 

·           Mae angen i'r Cwmni fod yn ymwybodol o ethos a diwylliant yr Ynys a'r iaith Gymraeg a’u parchu;

·           Mae angen diogelu ansawdd bywyd Môn a'i chymunedau o ganlyniad i effaith datblygiad o'r fath;

·           Mae hyfforddiant i blant a phobl ifanc mewn ysgolion lleol yn hollbwysig ar gyfer sicrhau cyfleoedd gwaith da i bobl leol yn y dyfodol;

·           Mae angen i Pŵer Niwclear Horizon gydymffurfio â’r Canllawiau Cynllunio Statudol (CCA);

·           Mae angen monitro’r gwaith o uwchraddio’r A5025 oherwydd y pwysau aruthrol arni yn ystod   gwaith adeiladu’r Orsaf  ac yn sgil gweithwyr yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r safle bob dydd;

·           Mae angen uwchraddio’r ffordd o Gemaes i Amlwch a’r isadeiledd ar gyfer priffyrdd yn Llanfechell i ostwng yr effaith ar y pentrefi hyn i’r eithaf;

·           Angen cyfyngu lonydd gwledig i draffig Wylfa Newydd;

·           Dylai Hitachi ystyried ymestyn eu hymrwymiad 100 mlynedd ar y safle oherwydd materion gwastraff ac effaith ar y ddaear;

·           Angen mynd i'r afael â’r mater storio gwastraff niwclear;

·           Angen cael eglurhad ynghylch yr hyn y mae Horizon yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â Safleoedd A a B yn Amlwch ar gyfer llety gweithwyr.  Mynegwyd pryderon sylweddol gan drigolion lleol mewn perthynas â'r mater hwn;

·           Mae angen i'r Sector Iechyd ymgysylltu’n gryf o ran yr effaith ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar yr Ynys;

·           Mae twristiaeth yn sector economaidd allweddol ar yr Ynys a mynegwyd  pryderon am brinder posib o lety i dwristiaid oherwydd gweithwyr Wylfa Newydd yn gwneud defnydd o’r fath lety;

·           Mae angen i’r Cwmni diffinio’n gliriach sut y sicrheir gwaddol i’r ynys oherwydd bod diffyg manylion ar hyn o bryd.  Awgrymwyd y dylai arian fod ar gael er mwyn sicrhau y gellir cynnal  pob cyfarfod cyhoeddus yn ddwyieithog trwy gyfrwng cyfleusterau cyfieithu;

·           Siom bod tref Llangefni wedi cael ei diystyru fel lleoliad ar gyfer unrhyw fath o gyfleoedd datblygu sy'n gysylltiedig â’r prosiect a fyddai’n sicrhau gwaddol yn un o’r trefi mwyaf ar yr Ynys neu’n agos iawn iddi.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Cymeradwyo'r ymateb ffurfiol i Ail Gam yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC 2);

 

·           Rhoi awdurdod dirprwyol i'r Prif Weithredwr wneud unrhyw mân-ddiwygiadau, amrywiadau neu gywiriadau a nodir ac sy’n rhesymol angenrheidiol cyn cyhoeddi’r ymateb ffurfiol i PAC 2;

 

·           Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr gynnal trafodaethau ar y pecyn rhwymedigaethau cyffredinol a fydd yn cynnwys y rhwymedigaeth gynllunio berthnasol (A106) a chytundebau cysylltiedig ar gyfer y ceisiadau GCD a cheisiadau dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

 

Dogfennau ategol: