Eitem Rhaglen

Cyllideb 2017/18 - Y Broses Hyd Yma

Ystyried cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb 2017/18 ynghyd â’r broses hyd yma.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â'r cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2017/18 a’r  arbedion a nodwyd hyd yma. Dosbarthwyd rhestr yn y cyfarfod o'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig fesul gwasanaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod asesiad cychwynnol wedi dangos y byddai angen i'r Cyngor ddarganfod arbedion o oddeutu £12m dros y tair blynedd nesaf, sef cyfanswm o £4m ym mhob un o'r blynyddoedd hynny. Gofynnwyd i’r gwasanaethau ddod  o hyd i gynilion o 4% o'u cyllidebau net. Cynhaliwyd cyfres o weithdai i aelodau etholedig dros yr wythnosau diwethaf i archwilio a herio'r cynigion a gyflwynwyd gan wasanaethau unigol ac fe arweiniodd hynny, ddydd Mercher diwethaf, sef 12 Hydref, at Weithdy Gosod Cyllideb i adolygu'r broses hyd yma ynghyd â’r arbedion a gynigiwyd a’r camau nesaf yn y broses.

Dywedodd y Swyddog mai bwriad y cyfarfod hwn oedd cymryd golwg ehangach ar y cynigion arbedion a gwerthuso eu heffaith strategol, os o gwbl, ar allu'r Cyngor i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2013-17; ystyried a yw unrhyw un o'r cynigion yn achosi pryder sylweddol i’r Pwyllgor Sgriwtini ac a oes angen ailddrafftio rhai ohonynt i bwrpas yr  ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Ystyriodd y Pwyllgor, a’r Aelodau hynny a oedd yn bresennol ac yn cynrychioli’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio'r cynigion ar gyfer arbedion yng nghyd-destun tair ystyriaeth benodol a nodwyd yn yr adroddiad ac a ailadroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 uchod, a gwnaed y sylwadau canlynol:   

 

4.1 Ydi unrhyw un o’r cynigion drafft sy’n codi o’r broses hyd yma yn effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni’r canlyniadau yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor mewn modd amserol?

 

           Nododd y Pwyllgor yr arbedion sydd wedi’u hargymell o dan y Gwasanaethau Oedolion gan gyfeirio’n benodol at arbediad o £250k drwy drawsnewid gwasanaethau h.y. drwy adolygu pecynnau gofal, lleoliadau preswyl a phecynnau cymorth sy’n canolbwyntio ar y canlyniad a gofynnwyd am gadarnhad o sut y byddai’r rhain yn effeithio ar nod y Cyngor i drawsnewid gofal cymdeithasol i oedolion hŷn ac i hyrwyddo annibyniaeth ac ail-alluogi pobl hŷn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y ffigwr cyfansawdd o £ 250k yn cynnwys sawl elfen yr   amcangyfrifir eu bod yn dod i gyfanswm o £250k gan gynnwys lleoliadau all-sirol, lleoliadau preswyl ac ailgyfeirio defnyddwyr gwasanaethau o leoliadau gofal dydd i hybiau cymunedol a chynlluniau Heneiddio’n Dda. Mae gwaith ar yr opsiwn yn mynd rhagddo er mwyn cadarnhau’r  cyfanswm arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog na fyddai unrhyw effaith uniongyrchol o ran gallu'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaeth gorfforaethol.

           Nododd  y Pwyllgor fod arbediad nad oedd wedi ei gyfrifo hyd yma wedi cael ei roi yn erbyn y

prosiect Dementia dan y gyllideb Gofal Dydd o fewn y Gwasanaethau Oedolion a gofynnwyd am esboniad o'r hyn y mae'r arbediad yn ei olygu a sut mae'n berthnasol i'r nod corfforaethol o drawsnewid y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion o ystyried bod dementia yn cael ei gydnabod fel cyflwr sy'n gosod galw arbennig am ofal cymdeithasol a darpariaeth iechyd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynnig hwn i arbed arian yn cael ei adolygu gan nad yw'n debygol o allu cynhyrchu unrhyw arbedion.

 

4.2    A oes unrhyw un o'r cynigion drafft sy'n deillio o'r broses hyd yn hyn yn peri pryder sylweddol i'r Pwyllgor yn ei gyfanrwydd

 

           Nododd y Pwyllgor nad oedd rhai o'r cynigion ar gyfer arbedion yn y Gwasanaethau Oedolion wedi eu cadarnhau hyd yma a mynegodd bryder cyffredinol am yr her a’r risg o geisio gwireddu’r arbedion hynny mewn maes lle mae'r galw yn cynyddu a lle gall lleihau gwasanaeth gael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ei fod yn sylweddoli maint yr her ond bod tueddiadau yn dangos bod y defnydd a wneir o leoliadau preswyl yn gostwng; mae gwaith yn cael ei wneud ar strategaeth i greu mwy o hybiau cymunedol i alluogi pobl i aros yn eu cymunedau eu hunain yn hytrach nag o fewn  canolfannau gofal dydd ffurfiol. Mae Swyddogion yn credu hefyd y gellir gwneud arbedion mewn lleoliadau preswyl y tu allan i’r sir.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch sut y bwriedir allanoli’r toiledau cyhoeddus a gwneud arbedion o ystyried bod rhai o'r toiledau mewn cyflwr gwael. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai'r nod yw eu trosglwyddo i berchnogaeth  cynghorau cymuned. Nid yw’r ffigwr a nodir yn y rhestr ond hanner y gyllideb ar gyfer y ddarpariaeth hon ac felly bydd yr hanner arall ar gael i gynorthwyo cynghorau cymuned i gymryd y cyfleusterau drosodd. Cynhyrchir yr arbedion dros 2 i 3 blynedd wrth i'r Cyngor roi'r gorau i redeg y cyfleusterau; fodd bynnag, bydd y Cyngor yn cadw cyfrifoldeb am y trethi sy'n £5k i £20k y flwyddyn.  Er y bydd cyllideb yn parhau ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus, bydd rhan ohoni’n cael ei defnyddio yn 2017/18 i annog cynghorau cymuned i gymryd y cyfleusterau drosodd. Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y gall bod yn rhaid iddo wneud gwaith cyfalaf ar rai o'r toiledau cyn mynd i drafodaethau ynghylch eu trosglwyddo.

           Nododd y Pwyllgor gyda phryder bod y cynigion arbedion ar gyfer 2017/18 a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Addysg yn sylweddol brin o'r targed gofynnol; awgrymodd y dylai'r Gwasanaeth efallai edrych eto ar y sgôp sydd ganddo i nodi arbedion pellach gan y bydd y rhain yn cael effaith ar y sefyllfa yn 2018/19 a 2019/20.

           Nododd y Pwyllgor y rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cynhyrchu arbedion o £266k, sef yr arbedion mwyaf yn y rhestr, ond bellach mae angen cadarnhau’r ffigwr hwn sy'n codi cwestiwn ynghylch a yw’n gyraeddadwy. ‘Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch pa mor gyraeddadwy oedd yr arbedion a gynigiwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 gan y Gwasanaeth Diwylliant sy'n ymwneud â throsglwyddo gwasanaethau, yn enwedig gan eu bod yn cyfrannu at flaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y ffigwr arbedion o £266k ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn ostyngiad o 60% yng ngwariant y gwasanaeth o gymharu â’r lefel yn 2013; fodd bynnag, mae trafodaethau'n parhau ynghylch opsiynau ar gyfer arbedion yn y Gwasanaeth Llyfrgell a £266k yw'r arbedion mwyaf posib y gellir eu gwneud yn y gyllideb hon dan yr opsiynau sy'n cael eu hystyried.

           Nododd y Pwyllgor y gostyngiad arfaethedig yn y costau ysgol nad ydynt yn ymwneud â dysgu mewn cysylltiad â lleihau lefelau salwch a'r gost gysylltiedig o ddarpariaeth gyflenwi ac  awgrymodd, er mwyn sicrhau llwyddiant y cynnig i’r dyfodol, fod angen ymgysylltu’n gynhwysol o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau consensws.

 

4.3     A oes angen ailddrafftio unrhyw un o'r cynigion drafft sy'n deillio o'r broses hyd yma er mwyn symleiddio a chrynhoi eu hystyr at ddibenion ymgynghori

 

           Nododd y Pwyllgor fel pwynt cyffredinol, ac er budd tryloywder, y byddai’n werth ychwanegu rhywfaint o fanylion i egluro nifer o'r cynigion arbedion fel y nodwyd nhw yn y rhestr, yn arbennig pan fônt yn cael effaith uniongyrchol ar bobl, cymunedau a/neu gyrff eraill. Nododd y Pwyllgor efallai nad yw materion a ddeallir o fewn y Cyngor efallai'r un mor eglur i’r cyhoedd yn gyffredinol ac felly bydd angen ymhelaethu arnynt.

           Os cynigir gostyngiad mewn cyfraniad, contract neu wasanaeth neu os cynyddu prisiau  nododd y Pwyllgor fod angen cynnwys y swm a’i wneud yn eglur.

           Nododd y Pwyllgor, os defnyddir acronymau, fod angen egluro eu hystyr a’r hyn y maent yn ei olygu.

           Lle gallai ystyr y cynigion fod yn aneglur i’r cyhoedd nododd y Pwyllgor y byddai angen darparu rhagor o fanylion am yr hyn y mae’r cynnig yn ei olygu a’r hyn y mae’n ei gyfeirio ato e.e rheoli parcio, Cwmni Cynnal, Doc Pysgod Caergybi, Amdanaf i, adolygiad o drefniadau Teleofal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynnig diwethaf, sef y cynnig Teleofal, yn golygu cysoni nifer o ffyrdd y gellir codi ar gleientiaid am wasanaethau teleofal ar hyn o bryd. Eglurodd y Swyddog y bydd cynigion ar gyfer arbedion yn y Gwasanaethau Oedolion yn cael eu hesbonio’n fanylach fel rhan o ymgynghoriad y Gwasanaeth ei hun gyda grwpiau diddordeb penodol e.e. Age Cymru Gwynedd a Môn. Mae'n ofynnol i'r gwasanaeth ymgynghori â defnyddwyr ar newidiadau i daliadau a godir ac fe’u hysbysir o’r newidiadau arfaethedig i’r taliadau teleofal a gofal cartref gyda hyn. Fel mae’n digwydd, mae’r broses honno’n cael ei chynnal ar yr un pryd â’r broses i ymgynghori ar y gyllideb.

           Nododd y Pwyllgor mewn perthynas â'r adolygiad arfaethedig o'r hebryngwyr croesfannau ysgol bod hyn yn cynrychioli parhad o bolisi yn hytrach na chynnig newydd ac awgrymodd nad oes angen iddo fod yn destun ymgynghoriad fel y cyfryw.

           Nododd y Pwyllgor na fydd y rhestr arbedion fel y'i cyflwynwyd o reidrwydd yr un fath â'r rhestr y bydd y Pwyllgor Gwaith yn ei chymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd ac na fydd y Pwyllgor Sgriwtini wedi cael gweld na chael mewnbwn ymlaen llaw i’r fersiwn ddiwygiedig a ailddrafftiwyd.

 

Penderfynwyd nodi'r cynigion ar gyfer arbedion gwasanaeth fel y cawsant eu cyflwyno a bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini, ynghyd â'r awgrymiadau ar gyfer eglurhad fel y nodir nhw ym mharagraff 4.3, yn cael eu hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith.