Eitem Rhaglen

Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2017/18

Ystyried y Cynllun Ymgynghori arfaethedig ar gyfer Cyllideb 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Trawsnewid) a oedd yn ymgorffori’r Cynllun Ymgynghori arfaethedig ar y Gyllideb y bwriedir ei weithredu yn ystod y cyfnod o 7 Tachwedd, 2016 hyd at 16 Rhagfyr 2016 er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y broses ymgynghori a gynlluniwyd a’r rhestr mewn perthynas â’r arbedion y mae’n rhaid i’r Cyngor eu gwireddu er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18.  Mae'r broses ymgynghori  wedi aeddfedu o flwyddyn i flwyddyn ac mae Cynllun eleni yn mabwysiadu agwedd traws-sector ac yn ceisio sylwadau gan ddinasyddion drwy amrywiaeth o gyfryngau a sianelau fel y rhestrwyd nhw yn rhan 1.2 o'r adroddiad. Yn ogystal, bwriedir cynnal sesiwn friffio i'r wasg fel y gall aelodau o'r wasg gael dealltwriaeth o natur yr arbedion a gynigir. Bydd arolwg ar-lein hefyd. Bydd y cynllun yn fodd i  swyddogion gasglu a choladu’r wybodaeth angenrheidiol i lunio adroddiad ar y gwahanol sylwadau a wneir gan randdeiliaid ar y gyllideb fel y gellir eu cyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror; bydd y wybodaeth a'r atborth a geir drwy'r broses ymgynghori cyhoeddus hefyd yn helpu i siapio cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb a gyflwynir i'r Cyngor llawn ar ddiwedd mis Chwefror 2017.

 

Ystyriwyd y Cynllun Ymgynghori arfaethedig gan y Pwyllgor a’r Aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a oedd yn bresennol a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           Cydnabu'r Pwyllgor yr her sy'n gysylltiedig â chyflwyno cynigion i’r cyhoedd ar gyfer arbedion o fewn gwasanaethau'r Cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ffordd nad yw'n creu ymateb negyddol yn awtomatig, a gofynnodd am eglurhad ar sut y bwriedir y byddai hyn yn cael ei wneud eleni. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y Cyngor, trwy'r Cynllun Ymgynghori, yn ceisio ymgysylltu'n gadarnhaol â'r cyhoedd ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ac yn ceisio sicrhau bod y cynigion hynny'n cael eu llunio yn y fath fodd fel eu bod yn gwbl eglur i’r holl randdeiliaid a hefyd mewn ffordd a fydd yn anelu at sbarduno trafodaeth  ystyrlon.

           Yng ngoleuni cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru'r diwrnod cynt ynghylch setliad gwell na'r disgwyl i lywodraeth leol, ceisiodd y Pwyllgor eglurhad a fydd y neges i gymunedau am y rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn wahanol felly i'r hyn a fyddai wedi bod fel arall. Er yn cydnabod bod y sefyllfa o ran blwyddyn ariannol 2017/18 yn well, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn rhoi syniad o'r rhagolygon ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 ac felly mae’n rhaid i’r Cyngor gynllunio a pharatoi ar gyfer y tebygolrwydd y bydd llai o gyllid ar gyfer y blynyddoedd hynny. Bydd unrhyw arbedion a wneir yn 2017/18 yn cael effaith ar y ddwy flynedd ganlynol. Os bydd y setliad penodol ar gyfer Ynys Môn (sydd i'w gadarnhau) yn ffafriol, efallai y gellid cynnig toriadau llai ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ond gyda'r sgil-effaith y byddai’n rhaid gwneud i fyny am y toriadau na chawsant eu gwneud yn 2017/18 yn y ddwy flynedd ddilynol. Yn ogystal, mae'r cynnydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18 yn fychan iawn yng nghyd-destun yr ystod o bwysau cynyddol a wynebir gan y Cyngor sy’n golygu bod y Cyngor yn dal i orfod gwneud toriadau. Yn nhermau arian parod yn unig, mae'r Cyngor mewn sefyllfa debyg i llynedd, ond mae effeithiau’r pwysau cynyddol ar y gyllideb yn golygu ei fod yn wynebu toriad mewn termau real.

           Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd y bydd y broses ymgynghori ar y gyllideb yn fwy na dim ond  ymarfer ticio blychau ac y bydd y Cyngor yn cael deialog ystyrlon â'r cyhoedd ynghylch ei gynigion cyllidebol ac y bydd yn gwrando ar y safbwyntiau a fynegwyd ac, os oes angen, y bydd yn barod i newid ei ymagwedd ar sail yr hyn y bydd y cyhoedd yn ei ddweud wrtho. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes mai amcan y broses ymgynghori yw  mynd allan i wrando ar farn dinasyddion yr Ynys a dywedodd fod y Cyngor, yn y gorffennol, wedi newid ei gynlluniau yn dilyn y sgyrsiau a gafodd gyda'r cyhoedd. Y nod yw annog trafodaeth a galluogi swyddogion wedyn i gyflwyno darlun cyn llawned â phosib o farn a safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynigion cyllidebol a gyflwynir iddynt.

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch a oes gan y Cyngor unrhyw hyblygrwydd o fewn ei gynlluniau cyllidebol i allu ymateb yn gadarnhaol i ddymuniadau posib y cyhoedd fel y mynegwyd nhw drwy'r broses ymgynghori. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd y rhestr o arbedion yn derfynol a bod gwaith ar y rhestr yn mynd rhagddo. Mae'r Cyngor yn dal i ddisgwyl am union ffigwr y setliad ar gyfer Ynys Môn yn benodol a hyd nes y caiff ei gyhoeddi nid yw swyddogion mewn sefyllfa i ddweud yn union beth fydd maint y diffyg yn y gyllideb na maint y bwlch arbedion y bydd angen ei bontio. Dywedodd y Prif Weithredwr, er y bydd yr Awdurdod yn gwrando ar farn rhanddeiliaid, ni all ymateb yn gadarnhaol i bob cais ac y bydd angen iddo flaenoriaethu. Serch hynny, y gobaith yw y bydd yr Awdurdod mewn sefyllfa i ganiatáu peth hyblygrwydd i Aelodau Etholedig pan fydd yn amser iddynt wneud eu penderfyniadau cyllidebol ac y bydd opsiynau ar gael ar gyfer trafodaeth.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad hefyd ar ba newidiadau a wnaed i'r broses ymgynghori ar sail profiad blaenorol ac a gafwyd gwared ar yr elfennau llai effeithiol, e.e. rhoi’r gorau i gynnal rhai cyfarfodydd lle’r oedd y niferoedd a fynychodd yn isel. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod strwythur a phroses yr ymgynghoriad wedi cael eu herio'n egnïol eleni a’u bod yn gadarnach o ganlyniad.

           Awgrymodd y Pwyllgor y gallai fod yn fuddiol, unwaith y bydd cyllideb 2017/18 wedi ei sefydlu a'i chymeradwyo, i gynnal adolygiad o'r broses ymgynghori cyhoeddus i sefydlu’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio fel y gellir gwneud newidiadau ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod grŵp wedi cael ei sefydlu i edrych yn benodol ar ymgynghori ac ymgysylltu ac mai rhan o’r briff yw hwnnw yw cyfuno a chysylltu ymgynghoriadau lle gellir gwneud hynny fel bod yr holl broses ymgysylltu yn dod yn fwy effeithlon.

 

Ar ôl cael sicrwydd ac eglurhad mewn perthynas â’r materion hyn, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r Cynllun Ymgysylltu a Chyfathrebu ar gyfer cynigion cyllideb 2017/18 fel y cyflwynwyd nhw.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: