Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Refeniw Ch2 2016/17

Cyflwyno adroddiad monitro’r  Gyllideb  Refeniw am Chwarter 2 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer ail chwarter 2016/17 ynghyd â'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid nad oedd y sefyllfa yn wahanol iawn i’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1. O ran sefyllfa ariannol 2016/17, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor, rhagwelir gorwariant o £660k, sef 0.53% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2016/17. ‘Roedd manylion am berfformiad ariannol y gwasanaethau unigol yn y cyfnod, ynghyd â’r  canlyniadau a ragwelir ar gyfer pob un, i’w gweld yn Atodiad B i'r adroddiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio mai un maes sy’n sefyll allan yw’r Gwasanaethau Plant a bod y gwariant arnynt £299k yn uwch na’r gyllideb a broffiliwyd ar hyn o bryd ac y rhagwelir y bydd  gorwariant o £683k (9.18%) ar gyfer y flwyddyn ariannol yn ei chyfanrwydd. Mae'r gorwariant i'w briodoli i raddau helaeth i gynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a chynnydd hefyd yng nghostau lleoliadau i gwrdd ag anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cymryd camau lliniaru er mwyn rheoli gwariant yn y maes. Mae'r camau hyn yn cynnwys  mabwysiadu dull ymyrraeth gynnar ataliol o weithredu mewn perthynas â sicrhau lles plant, a hynny trwy greu Tîm Trothwy Gofal a buddsoddi arian ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant eleni ac yn ddwy flynedd ddilynol fel y disgrifir ym mharagraff 3.3.2 o'r adroddiad. Mae Cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod yn cynnig opsiwn y gellid syrthio’n ôl arno ond y nod yw ceisio osgoi defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb. Mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod sefyllfa ariannol y rhan fwyaf o wasanaethau yn tueddu i gywiro ei hun erbyn diwedd y flwyddyn, ond mae’r Gwasanaethau Plant yn eithriad lle bu ymyrraeth i reoli'r gyllideb.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad fel y'i cyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch a oes Cynllun B i fynd i'r afael â'r sefyllfa os bydd y gyllideb wedi gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio mai’r opsiwn arall sydd ar gael yw troi at gronfeydd wrth gefn y Cyngor fel "arian diwrnod glawog". Fodd bynnag, mae profiad y blynyddoedd blaenorol wedi dangos nad oes fawr o angen gwneud hynny.

           Nododd y Pwyllgor y tanwariant o £170k a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â Rheoleiddio (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a gofynnodd am eglurhad nad oedd hyn ar draul capasiti o fewn yr Adran Rheoleiddio. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod gan y swyddogaeth gynllunio ddigon o adnoddau, yn enwedig o ran materion gorfodaeth ac AHNE. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) y byddai'n codi'r mater gyda'r Pennaeth Rheoleiddio ac Economaidd gyda golwg ar gymharu'r gymhareb staffio yn Adran Reoleiddio Cyngor Sir Ynys Môn gyda’r gymhareb mewn awdurdodau eraill.

           Nododd y Pwyllgor, er yr ystytrir bod y cronfeydd wrth gefn yn ddigonol i gwrdd â lefel y gorwariant a ddisgrifir ym mharagraff 7.1 o'r adroddiad, os bydd raid i'r Cyngor hefyd  ariannu costau hawliadau tâl cyfartal o'i gronfeydd wrth gefn cyffredinol, yna byddai'r lefel yn disgyn yn agos i’r isafswm a bennwyd, sef £5m . Gofynnodd y Pwyllgor a yw'r Cyngor yn debygol o gael ei hun yn y sefyllfa honno.  Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod y Cyngor mewn sefyllfa o orwariant ar ddiwedd Chwarter 2 ac y gall misoedd y gaeaf gael effaith ar wariant yn y gwasanaethau ac mae’r sefyllfa felly’n debygol o newid. Mae'r broses o fonitro'r gyllideb wedi ei haddasu eleni fel bod y rhagamcanion yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a'r Gronfa Dreth Gyngor sydd i fod i helpu o ran rhagweld y sefyllfa gyffredinol yn gywirach. Fodd bynnag, mae pethau eraill yn digwydd yn ystod y cwrs y flwyddyn ac yn y broses o gau'r cyfrifon, ac mae pethau eraill a all newid y mae’n rhaid eu hystyried, e.e. llithriad ar brosiectau cyfalaf sy'n golygu bod llai o arian yn cael ei gymryd ar fenthyg sy’n golygu, yn ei dro, fod llai yn cael ei wario ar ariannu'r rhaglen gyfalaf a bod  cronfeydd wrth gefn ddim yn cael eu gwario efallai. Yn ogystal, mae yna ymgyrch i wella’r cyfraddau casglu’r Dreth Gyngor ac mae prosiect yn mynd rhagddo i adolygu'r Disgownt Person Sengl. Y neges sy'n cael ei chyfleu i Wasanaethau yw y dylent barhau i fod yn edrych am arbedion cadw tŷ. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor tua £ 7.4 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ac efallai y bydd rhaid defnyddio rhywfaint o’r arian hwnnw i gwrdd â’r hawliadau Tâl Cyfartal sydd ar ôl os nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cyfarwyddeb gyfalafu ar gyfer tâl cyfartal a fyddai'n caniatáu i'r Awdurdod gyfalafu’r costau hynny. Os rhoddir y gyfarwyddeb, yna ni fydd yn rhaid i'r Cyngor ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol hynny a byddant ar gael i helpu gyda gwariant arall os oes angen. Mae Cyngor Sir Ynys Môn mewn sefyllfa iach o gymharu â llawer o awdurdodau gan ei fod wedi ymrwymo i neilltuo arian wrth gefn ers nifer o flynyddoedd. Yn y tymor hwy bydd yn anos i wasanaethau weithredu o fewn cyllidebau sy'n lleihau ac, o’r herwydd, mae cael cronfeydd wrth gefn yn bwysig. Mae'r sefyllfa yn cael ei monitro'n rheolaidd a’r cyngor yw i ymatal rhag defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddiad pellach ar hyn o bryd o leiaf tan ddiwedd y gaeaf.

           Nododd y Pwyllgor na fydd modd cyflawni £511k (16.70%) o'r targedau arbedion yn 2016/17 ac nad yw £291k o'r rhain wedi cael eu cynnwys yn y canlyniad a ragwelir oherwydd diffyg gwybodaeth i asesu pa mor gyraeddadwy ydynt, ac os na fydd modd eu gwireddu, byddant  yn golygu gorwariant ychwanegol o £291k yn y flwyddyn.  Mynegodd y Pwyllgor ei bryder y bydd arbedion a gynlluniwyd ond na chawsant eu cyflawni yn 2016/17 yn trosglwyddo drosodd i 2017/18 ac yn effeithio ar y man cychwyn ar gyfer cyllideb 2017/18 yn ogystal â gwaethygu'r sefyllfa o ran yr arbedion y byddai’n rhaid eu gwneud yn y flwyddyn honno.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y £2m o hawliadau Tâl Cyfartal y bydd raid talu amdanynt o ddeall bod cronfa wedi ei neilltuo’n benodol i gwrdd â chostau Tâl Cyfartal. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y gronfa wedi ei sefydlu i gwrdd ag elfennau eraill y Cytundeb Statws Sengl. Er bod rhai hawliadau Tâl  Cyfartal wedi cael eu talu, mae ail gyfres o hawliadau sy'n werth tua £2 filiwn ac mae’r  Awdurdod yn ceisio cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru o ran cyfalafu’r costau. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod cyllid wedi ei roi o'r neilltu fel cronfa wrth gefn ar gyfer y broses Arfarnu Swyddi, ond nad oedd wedi bod yn ddigonol.

           Nododd y Pwyllgor y pwysau parhaus ar gyllideb y Gwasanaethau Plant a phwysleisiodd bod angen mynd i'r afael â’r sefyllfa mewn ffyrdd heblaw drwy ymyrraeth ariannol, e.e. drwy newid dulliau gweithredu a diwylliant. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) y bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bod yr Awdurdod yn gweithio'n galed gyda phlant a'u teuluoedd i roi cefnogaeth.  Mae Tîm Trothwy Gofal  yn cael ei sefydlu ac mae rhai elfennau o'r Tîm o Amgylch y Teulu yn cael eu trosglwyddo o’r Gwasanaeth Addysg i'r Gwasanaethau Plant. Bydd hyn yn cryfhau'r ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol gyda theuluoedd sy'n elfen statudol ond bydd hefyd yn cynorthwyo teuluoedd a thrwy hynny’n galluogi plant i aros yn eu cartrefi. Er na fydd y cynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei wrthdroi dros nos, mae'r Awdurdod yn ceisio gostwng y niferoedd yn ddiogel a thros amser.

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa o ran y perfformiad ariannol hyd yma fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

DIM CAMAU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: