Eitem Rhaglen

Newidiadau i'r Polisi Codi Tâl - Gwasanaethau Gofal Cartref

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn nodi'r opsiynau ar gyfer gweithredu newidiadau i'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cartref. Mae'r adroddiad yn amlinellu’r cefndir, y sefyllfa bresennol, yn ogystal â’r sail gyfreithiol ar gyfer codi tâl am ofal.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad gweledol gan amlygu’r ystyriaethau allweddol a'r rhesymeg dros newid fel a ganlyn:

 

           Bod pedwar opsiwn ar gael (yn unol â pharagraff 2 o'r adroddiad ysgrifenedig) y bwriedir ymgynghori arnynt rhwng mis Tachwedd, 2016 ac Ionawr 2017.

           Mae gan Ynys Môn bolisi hanesyddol a hynod o godi £15 yr wythnos ar unigolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Mae hyn yn is na'r gyfradd a nodir yn y canllawiau.

           Bod yr egwyddorion ar gyfer newid yn seiliedig ar gydymffurfio â chanllawiau statudol; yr angen i sefydlu strwythur codi tâl tecach a mwy cynaliadwy fel bod unigolion yn talu tâl priodol, a'r angen i'r Awdurdod adennill y gost o ddarparu gwasanaethau yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

           Bod gofal cartref yn costio £4.45m ar hyn o bryd a bod £462k ohono’n incwm.

           Yn dilyn ymlaen o'r broses arbedion, nodwyd bod angen i'r Awdurdod godi ffioedd priodol am y gwasanaethau a ddarperir.  .

           Yn seiliedig ar weithredu dull bandio (y mae angen ei fabwysiadu er mwyn cydymffurfio â pharamedrau gweithredol system gorfforaethol y Cyngor ar gyfer asesiadau ariannol a thaliadau / anfonebau), bydd 68 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn gweld cynnydd yn y tâl a godir arnynt a byddai 18 yn talu llai.

           Nid oes a wnelo’r newidiadau arfaethedig ddim â’r cynnydd cenedlaethol y disgwylir i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno yn y tâl uchaf y gellir ei godi am ofal cartref o fis Ebrill, 2017.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y gwahaniaethu mewn cyfraddau budd-daliadau i bobl dros yr oed pensiwn a phobl dan oed pensiwn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod pobl o dan oed pensiwn yn cael eu diffinio’n genedlaethol fel pobl sy’n gallu gweithio a chael mynediad i fudd-daliadau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd. Gofynnodd y Pwyllgor fod yr esboniad am y gwahaniaeth hwn yn cael ei egluro yn yr ymgynghoriad.

           Nododd y Pwyllgor, yn ôl y cyfraddau budd-daliadau a thaliadau gwasanaeth a nodwyd ym mharagraff 1.5 yr adroddiad, y bydd rhai defnyddwyr gwasanaeth ar eu hennill o ganlyniad i'r newidiadau a bod hynny’n groes i’r syniad o gyflwyno system sy’n fwy cyson a theg. Cydnabu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod hynny’n bosibilrwydd a dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn cyflwyno mesurau diogelu i atal hynny rhag digwydd ac y byddai’n diwygio'r tabl yn unol â hynny. Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r cyfraddau a’r taliadau diwygiedig.

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch a oedd y nod o gyflwyno cysondeb o ran taliadau yn golygu y bydd cysondeb hefyd yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Nododd y Pwyllgor bod defnyddwyr yn derbyn 3 ymweliad gofal cartref yn Ynys Môn o gymharu â 4 mewn awdurdod cyfagos. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod dull Ynys Môn yn seiliedig ar 3 ymweliad ynghyd â gwasanaeth pryd ar glud dros amser cinio ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddwyr. Nid yw hon o reidrwydd yn rheol gaeth a gellir apelio; mae’n dibynnu ar yr asesiad o angen yr unigolyn.

           Nododd y Pwyllgor gyda phryder y bydd cynnydd yn y tâl o £15 i £60 yr wythnos yn siŵr o gael effaith ar y rheini fydd yn gorfod talu ac y gallai arwain at galedi mewn rhai achosion.   Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ychwanegu pumed opsiwn at y tabl o opsiynau ar gyfer ymgynghoriad ym mharagraff 1.6 - sef cynnydd graddol o 33% y flwyddyn dros 3 blynedd a fyddai'n lliniaru ymhellach effaith y cynnydd ar ddefnyddwyr gwasanaethau.

           Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y cyfnod ymgynghori yn ddigonol i fedru ymgysylltu gyda’r holl ddefnyddwyr a fydd cael eu heffeithio ac a fyddai’n eu galluogi i lawn sylweddoli effaith y cynigion ac ymateb iddynt. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod yr amserlen arfaethedig yn cydymffurfio â chanllawiau statudol ac ystyrir ei bod yn  rhesymol a'i fod yntau hefyd, fel swyddog proffesiynol, o’r farn ei bod yn amserlen resymol.

           Roedd gan y Pwyllgor amheuon difrifol ynghylch cychwyn proses ymgynghori ar daliadau uwch, nid yn unig yn y cyfnod yn union cyn y Nadolig ond, yn fwy arwyddocaol na hynny, cyn y cyhoeddiad a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru am gynnydd na wyddys ei faint hyd yma yn yr uchafswm o £60 y gellir ei godi.  Byddai hyn felly’n golygu y byddai’r cynnydd ar gyfer defnyddwyr sy’n talu £15 yr wythnos ar hyn o bryd hyd yn oed yn fwy, gan gael mwy o effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau na fyddant wedi cael eu rhybuddio ymlaen llaw. Argymhellwyd yn gryf bod yr ymgynghoriad hefyd yn egluro bod newid pellach yn y tâl uchaf y gellir ei godi (£60 ar hyn o bryd), o bosib i £70, £80 neu £90, yn debygol o gael ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151  bod angen gwneud penderfyniad ar bolisi codi tâl yr Awdurdod am ofal cartref, a hynny er mwyn cyfrannu at y broses o osod y gyllideb; sut bynnag, nid oes unrhyw arwydd o ba bryd yn union y gallai Llywodraeth Cymru wneud ei chyhoeddiad ar y cynnydd yn y tâl. 

           Nododd y Pwyllgor fod yna risg y gall y rheini y mae eu taliadau yn codi o £15 i £60 yr wythnos yn dewis peidio â thalu ac y gallant dynnu'n ôl o'r gwasanaeth yn gyfan gwbl ac y byddai gan hynny oblygiadau posib i’w lles.

           Nododd y Pwyllgor nad ymgynghorwyd ynghylch y newidiadau gydag Eiriolydd y Cyngor dros Bobl Hŷn.

 

Penderfynwyd cytuno bod Swyddogion yn ymgynghori am gyfnod gyda’r defnyddwyr y bydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio arnynt cyn cyflwyno argymhellion terfynol i’r Pwyllgor Gwaith yn amodol ar yr isod -

 

           Ychwanegu pumed opsiwn at yr opsiynau a gynigir, sef cynnydd graddol o 33% y flwyddyn dros dair blynedd

           Bod yr ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd pellach gan Lywodraeth Cymru yn y tâl uchaf y gellir ei godi i £70, £80 neu £90 o bosib.

 

CAM GWEITHREDU: Y Pwyllgor i gael copi o'r taliadau diwygiedig cyn rhyddhau'r wybodaeth ar gyfer ymgynghori.

Dogfennau ategol: