Eitem Rhaglen

Ymgynghoriad Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Grid Cendedlaethol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag ymateb Cyngor Sir Ynys Môn I Ymgynghoriad Olaf y National Grid ar y Llwybr Cyfan rhwng Wylfa a Phentir (Adran 42).

 

Nodwyd cywiriad i fersiwn Gymraeg yr adroddiad, gan gyfeirio at bwynt bwled cyntaf (llinell olaf) llythyr ymateb y Prif Weithredwr ar dudalen 2 - ‘adnabod achosion ar gyfer tanddaearuyn llecanfodym mhle, o leiaf, y dylai rhannau eraill o’r llinell fod yn danddaearol’.

 

Rhoes Arweinydd y Cyngor gyflwyniad i’r Cyngor llawn a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:-

 

· Rhagwelir y bydd y National Grid yn cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Cynllunio i’r

Arolygiaeth Gynllunio ym mis Hydref 2017;

· Fel rhan o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio mae’n rhaid i’r National Grid ymgymryd ag

Ymgynghoriad Statudol; fel ymgynghorai statudol mae'n ofynnol bod y Cyngor ymateb i

gynigion y National Grid;

· Mae’r ymgynghoriad ffurfiol cyn cyflwyno cais cynllunio Adran 42 (a42) yn ymgynghoriad ffurfiol sy’n dilyn yr ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd gan y National Grid ym mis Rhagfyr 2015. Mae cyfnod yr ymgynghoriad a42 yn ymestyn o 5 Hydref 2016 i 16 Rhagfyr 2016.

· Mae Adran 42 yn gofyn am ymateb ar lwybr terfynol y National Grid (Wylfa i Pentir); Is-orsaf

Pentir; Llinell Uwch Ben Newydd ar Ynys Môn (Adrannau A, B, C, D ac E); Her Croesi Afon

Menai; Llinell Uwch Ben Newydd yng Ngwynedd (Adran F) ac estyniad i is-orsaf Pentir.

· Y prif bryderon yw’r dull o ddatblygu’r dyluniad a mesurau lliniaru; diffyg strategaeth gynllunio eglur ar gyfer caniatáu’r Gwaith Cysylltu; diffyg eglurder yn y ddogfennaeth ynglŷn â’r dewis o leoliad ar gyfer croesi Afon Menai a’r pennau twnnel cysylltiedig a chost a chyflawniad yr ateb peirianyddol;

· Y thema a gynhwysir yn yr Adroddiad Strategol (Atodiad A ynghlwm i’r adroddiad) yw’r prif

themâu a adnabuwyd yn y ddau ymateb blaenorol sydd wedi cael eu cynnal a’u hehangu.

Mae’r rhain yn cynnwys Dyluniad y Prosiect a Lliniaru, Strategaeth Caniatadau, Ardal y Fenai, Costau, Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant, Effeithiau Cymdeithasol-Economaidd, Twristiaeth, Traffig a Thrafnidiaeth, Effeithiau Cronnus, Iechyd, Llesiant a Chydlyniad Cymunedau ac Ymgynghori;

· Mae strwythur yr Ymateb i Adran 42 yn dilyn strwythur ymatebion blaenorol : Llythyr eglurhaol gan y Prif Weithredwr yn cyfeirio at y prif faterion, sylwadau manwl yn yr Adroddiad Strategol lefel uchel (Atodiad A), Sylwadau ar yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (PEIR) (Atodiad B), Adolygiad o’r holl Adroddiadau Eraill (Atodiad C). Mae’r ymateb yn strategol ac yn adeiladol ac wedi’i seilio ar wybodaeth a gyflwynwyd gan y National Grid, opsiynau amgen, diwygiadau a mesurau lliniaru arfaethedig i oresgyn effeithiau/heriau);

· Bydd yn Cyngor yn parhau i adeiladu sylfaen o dystiolaeth ynglŷn â’r effaith ar Dwristiaeth a

Thirwedd, Cymunedau ac Effeithiau Cronnus fel sail ar gyfer gwneud newidiadau i’r Prosiect a mesurau lliniaru ac er mwyn lobïo Llywodraeth Cymru am Drydedd Pont dros y Fenai;

 

O ystyried safbwynt Cyngor Sir Ynys Môn ynghylch tanddaearu llinellau trydan a methiant y National Grid i roi sylw digonol i hynny, bydd y Cyngor Sir yn cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â’r mater hwn. Gan gydnabod y pwyslais a roddwyd ar gost tanddaearu wrth wneud penderfyniad mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu gofyn am gyfarfod ar y cyd gyda Ofgem a National Grid i drafod y dull gweithredu a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar Gysylltiad Gogledd Cymru.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad gan wneud y sylwadau canlynol:-

 

· Mae’r Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, y Cyngor Sir, Cynghorau Tref/Cymuned, Unllais Môn a thrigolion yr Ynys oll yn arddel y farn bendant na ddylid codi llinellau trosglwyddo trydan na pheilonau ar draws Ynys Môn.

· Mae’r Ynys yn dibynnu ar y sector twristiaeth a byddai codi mwy o beilonau ar draws Ynys Môn yn cael effaith andwyol ar sector economaidd sy’n allweddol i’r Ynys;

· Ymddengys bod y National Grid yn diystyru tanddaearu llinellau trosglwyddo ar sail y gost

ychwanegol;

· Byddai’r DU gyfan yn elwa ar drydan a gynhyrchir o ganlyniad i ddatblygu Wylfa Newydd ac o’r herwydd ni fyddai cost tanddaearu yn ychwanegu mwy nag ychydig geiniogau at filiau trydan;

· Byddai codi ail linell o beilonau ar draws Ynys Môn yn cael effaith andwyol ar y dirwedd ac ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn cael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol ddifrifol iawn ar drigolion a busnesau lleol;

· Mae iechyd a lles trigolion yr Ynys yn holl bwysig;

· Gallai lleoli llinellau uwch ben gerllaw cartrefi gael effaith negyddol ar brisiau tai;

· Mae diffyg eglurder ynglŷn â lleoliad croesi Afon Menai, costau a chyflawniad y prosiect;

· Nid yw’r National Grid wedi rhoi digon o ystyriaeth i’r oblygiadau o ran traffig a chludiant sy’n

codi yn sgil eu cynigion i godi llinellau uwch ben a pheilonau;

· Mae angen i’r National Grid roi sylw i’r Iaith Gymraeg a diwylliant yr Ynys.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith ac roeddent yn cytuno’n unfrydol bod y Cyngor yn glynu wrth ei safbwynt gwreiddiol na ddylid adeiladu llinellau trosglwyddo trydan na pheilonau ar draws Ynys Môn ac Afon Menai ac y dylai’r holl linellau gael eu tanddaearu.

 

Er ei fod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad, cynigiodd y Cynghorydd A. M. Jones welliant, sef bod y cyfarfodydd gydag Ofgem a National Grid yn cael eu defnyddio i bwrpas deublyg gan edrych a oes modd defnyddio’r llinellau pŵer presennol i Benrhos, Caergybi gan olygu na fyddai angen peilonau ychwanegol ar draws yr Ynys na thwnnel o dan Afon Menai. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd A. M. Mummery. Ni chafodd y gwelliant ei gario yn y bleidlais a ddilynodd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd A. M. Jones hefyd bod Swyddog yn cael ei apwyntio i weithio gyda

chymunedau lleol Ynys Môn i baratoi cyflwyniad i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol. Cytunwyd y byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth i’r mater hwn maes o law.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Cymeradwyo’nunfrydol yr ymatebffurfiol i’r ymgynghoriad Adran 42(a42) a dirprwyo

awdurdodi’r Prif Weithredwr wneud unrhyw fân newidiadau, addasiadau neu gywiriadau sy’n cael eu hadnabod ac sy’n rhesymol angenrheidiol cyn cyhoeddi’r ymateb yn ffurfiol;

· Dirprwyoawdurdod i’r Prif Weithredwr gynnal trafodaethau ynghylch y pecyn

rhwymedigaethau cyflawn fydd yn cynnwys y rhwymedigaeth cynllunio berthnasol

(A106) a chytundebau perthnasol ar gyfer y Gorchymyn Caniatâd Cynllunio.

Dogfennau ategol: