Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi:

7.1 – 20C277 – Tai Hen, Rhosgoch (9)

 

7.2 – 44C292 – Llety, Rhosybol (34)

Cofnodion:

7.1 20C277 Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb o ddim mwy na 44m, diamedr llafn o ddim mwy na 56m ac uchder pigyn o ddim mwy na 72m, ynghyd â chodi gorsaf drosglwyddo, man ar gyfer cyfleustodau ac adeiladu trac mynediad newydd a llecyn caled yn ‘Tai Hen’, Rhos-goch

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y cais oherwydd y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Ymwelwyd â'r safle ym mis Awst 2012.

 

Cyn i'r Pwyllgor ystyried y cais, cafodd y Pwyllgor eu hatgoffa gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod newidiadau yn Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio wedi bod mewn grym ers deuddeng mis ar arbrawf.  Y ddau brif newid a fyddai'n cael effaith ar y Pwyllgor hwn fyddai  bod Aelod Lleol ar y Pwyllgor yn cael ei wahardd rhag cynnig ac eilio cais a phleidleisio arno os oedd y cais yn ei ward etholaethol, a bod raid i Aelod o'r Pwyllgor fod wedi bod yn bresennol bob tro y bu trafod cais yn y gorffennol gan gynnwys ymweld â safle cyn y gallai gymryd rhan i ystyried y cais a phenderfynu arno wedi hynny.  Roedd yr arbrawf wedi dod i ben fis diwethaf a byddai'r Cyngor Sir yn rhoi syllw i'r mater yn y Cyngor Sir a gynhelid 6 Rhagfyr gyda golwg ar weithredu ar y newidiadau'n barhaol.  Wrth drafod y mater, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi argymell arbrawf pellach o ddeuddeng mis.  Rhoes Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Pwyllgor, bod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion felly, yn dechnegol,yn gweithredu dan hen reolau gweithdrefn Materion Cynllunio oedd mewn grym cyn i'r arbrawf newid.  Fodd bynnag, mater i'r Aelodau fel unigolion fyddai penderfynu, fel y gwelent orau, a oeddynt yn dymuno glynu wrth y rheolau newydd er nad oeddynt, yn dechnegol, mewn grym ond gan roi sylw i'r argymhelliad gâi ei wneud gan y Cyngor Sir.  

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mairede Thomas, gwrthwynebydd i'r cais annerch y Pwyllgor.

 

Rhoes Mairede Thomas wybod i'r Pwyllgor ei bod yn siarad ar ran perchenogion ‘Ty’n y Gors’ ac aeth yn ei blaen i dynnu sylw'r Aelodau at y materion a ganlyn yng nghyswllt y cais:

 

·         Pa mor agos oedd y grŵp o dyrbinau y tu ôl i 'Tyn y Gors ' at y tŷ ei hun.  Roedd y tyrbin agosaf yn 46m o uchder ac yn 520metr i ffwrdd o'r tŷ.  Roedd effaith hyn wrth sefyll yn yr ardd yn aruthrol.

·         Maint cymharol y cais oedd am dyrbin 72metr o uchder 445m i ffwrdd o'r eiddo. Roedd 'Tyn y Gors' wedi'i amgylchynu ar un ochr gan ffarm wynt 24 tyrbin Rhyd y Groes. Roedd pymtheg tyrbin i'r gogledd-ddwyrain, pedwar i'r gogledd a phump arall i'r gogledd-orllewin. I'r de roedd modd cael cipolwg o fferm wynt Llyn Alaw ac roedd dau dyrbin arall wedi'u caniatáu i'r de-ddwyrain

·         Roedd perchenogion 'Tyn y Gors' wedi treulio'r saith blynedd diwethaf yn ymestyn ac ynaildrefnu eu heiddo fel bod gan y rhan fwyaf o'u hystafelloedd ffenestr oedd yn edrych i'r deorllewin, sef yr unig gyfeiriad lle nad oedd tyrbin.  Byddai caniatáu'r cais hwn yn golygu y byddai'r saith blynedd hyn wedi bod yn wastraff ac y byddai'r eiddo wedi'i amgylchynu gan dyrbinau.  Fodd bynnag, nid oedd y tyrbinau oedd eisioes yno mor fawr nac mor agos nac mor ormesol â'r rhai y gwnaed cais amdanynt heddiw.

·         Yr effaith ar y mwynderau yn sgȋl y sŵn a'r gwibiadau o gysgod a grëid gan y tyrbinau oedd eisoes yno.  Roedd darn o ffilm fideo o'r sŵn a'r gwibiadau o gysgod a ddangoswyd iddi gan y perchenogion yn dangos ei fod yn amhleserus a'u bod wedi egluro bod y sŵn yn tarfu arnynt. I'r gogledd oedd y tyrbinau agosaf, felly, roedd y gwynt arferol yn cario'r sŵn i ffwrdd o'r tŷ.  Fodd bynnag, roedd tyrbinau'r cais hwn yn uniongyrchol yn llwybr y gwynt arferol o'r deorllewin, oedd yn golygu nad oedd dim ar y tirlun i rwystro'r sŵn rhag cyrraedd y tŷ.  Byddai wedi peri distyrbans sŵn difrifol a chreu gwibiadau o gysgod y rhan fwyaf o'r amser. Roedd y rhain yn berygl i'r iechyd.

·         Dim gostyngiad yn y sŵn na'r gwibiadau o gysgod ac eithrio trwy osod amod oedd yn gorfodi'r datblygwyr i brynu ‘Tyn y Gors’ am bris y farchnad fel iawndal.

·         Bod modd gwrthod gan fod Canllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru'n awgrymu y dylid bod o leiaf 500m yn gwahanu'r tyrbinau a'r tai.

·         Cyfaddefiad gan y datblygwyr y byddai'r tyrbinau'n cael effaith sylweddol ar y ddau dŷ gerllaw.

·         Bod colled aruthrol i ddeiliaid 'Tyn y Gors' o ran mwynderau, ynghyd â'r perygl gwirioneddol o sŵn y tyrbinau, yn fwy na digon o reswm i ddefnyddio Canllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Lleol i wrthod y cais. 

 

Nid oedd gan Aelodau'r Pwyllgor gwestiynau ar y cyflwyniad a roddwyd.

Yna rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr James Merrigan annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

Nododd Mr Merrigan y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu'r cais –

 

·         Taliad o £5,000 y flwyddyn a fyddai er budd y gymuned.

·         Byddai incwm a wneid o 'r tyrbin o gymorth i gynnal ffarm yr ymgeisydd a châi ei fuddsoddi yn ôl i'r economi.

·         Byddai'r budd a geid o'r tyrbin yn sylweddol fwy na'r effaith gyfyngedig a welid.  Câi hefyd ei weld yn nghyd-destun  ffarm wynt Rhyd y Groes oedd ddau gae i ffwrdd.

·         Roedd y bwriad yn gwbl unol â'r Cynllun Datblygu a pholisi'r llywodraeth ar ynni.  Dylid caniatáu'r cais yn seiliedig ar rinweddau cynllunio'r bwriad.

·         Roedd mwyafrif y bobl yn cefnogi'r bwriad.  Er bod y Cyngor wedi derbyn 40 llythyr yn gwrthwynebu, yr un adeg roedd 240 llythyr yn cefnogi wedi dod i law.

Gorffennodd Mr Merrigan trwy ddweud pe byddai'r Pwyllgor yn caniatáu'r cais, byddai hyn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gael cymorth i ariannu ei waith ar y ffarm a chynnal y tirlun gwledig trwy ei ffarmio yn ogystal â rhyddhau £5,000 y flwyddyn fyddai'n arwain at fudd i'r gymuned.  Am hyn, byddai tyrbin gwynt ar y tirlun dros dro am 25 mlynedd.  O'r herwydd, roedd manteision y bwriad yn amlwg yn drech nag unrhyw niwed posib.

 

Nid oedd gan Aelodau'r Pwyllgor gwestiynau i Mr Merrigan.

 

Tynnodd Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu sylw'r Aelodau at yr adroddiad ysgrifenedig oedd yn nodi 'r cais a'r ystyriaethau cysylltiedig. Adeg ysgrifennu'r adroddiad roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno apêl oherwydd nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y cais ond nid oedd yr apêl wedi'i chaniatáu hyd yn hyn.  Rhoes y Swyddog wybod i'r Aelodau bod yr Arolygwr Cynllunio bellach wedi caniatáu'r apêl oedd yn golygu nad oedd modd i'r Awdurdod Cynllunio lleol benderfynu ar y cais cynllunio, yn unol â'r argymhelliad yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd yr Arolygwr Cynllunio wedi cadarnhau bod modd cyflwyno'r cais i 'r Pwyllgor ar gyfer argymhelliad yn unig ac nid ar gyfer penderfynu arno.  Dim ond yn yr apêl yr oedd modd i'r Pwyllgor wneud penderfyniad ar sefyllfa'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac, o'r herwydd, gofynnid am ei farn ynghylch argymhelliad y Swyddogion.  Yna aeth y Swyddog ymlaen a chyfeirio Aelodau at dudalennau 22 a 24 yr adroddiad oedd yn disgrifio lleoliad adeilad rhestredig Eglwys St. Peirio, Rhosbeirio. Er y bu asesiad ar  yr effaith ar yr adeilad ar y pryd,  roedd Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod eisoes wedi cynnal asesiad llawnach.  Yn ei farn o, roedd yr effaith ar yr adeilad rhestredig rhwng sylweddol a chymedrol ac y byddai modd ei

lleddfu trwy dirlunio.  Y bwriad oedd gosod amod i'r perwyl hwnnw. Er mai caniatáu oedd argymhelliad y Swyddog, golygai dilysrwydd yr apêl yn erbyn methu dod i benderfyniad ar y cais y byddai'r Arolygwr Cynllunio, bellach, yn delio gyda'r cais fel un oedd wedi'i wrthod.  O gofio nad oedd modd i'r swyddogion amddiffyn argymhelliad o wrthod yn yr achos hwn, roedd dau opsiwn i'r Pwyllgor, sef cadarnhau ei fod yn cefnogi'r argymhelliad i wrthod ac, felly, yn cadarnhau i'r Arolygwr na fyddai'r Awdurdod yn herio'r apêl, neu dweud nad yw'n cefnogi'r argymhelliad a'i fod yn cefnogi 'r Awdurdod i herio'r apêl.  Mewn sefyllfa o'r fath, mater i'r Pwyllgor fyddai amddiffyn y sefyllfa honno mewn apêl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive McGregor pe byddai'r cais wedi'i gyflwyno er mwyn penderfynu arno byddai wedi'i wrthod oherwydd ei fod o'r farn bod y bwriad yn mynd un cam yn rhy bell o ran maint y datblygiad mewn ardal wledig ac oherwydd ei effaith ar adeilad rhestredig eglwys St Peirio a’r tirlun o'i gwmpas. Byddai'r tyrbin arfaethedig yn creu 500kw o bŵer oedd yn fwy nag unrhyw fwriad blaenorol o'r math hwn ac roedd o'r farn  ei fod yn fwy nag yr oedd ei angen ar gyfer ffarmio'n unig a'i fod yno i wneud elw ariannol.  Am y rheswm hwnnw, cynigiodd nad oedd y Pwyllgor yn cefnogi'r argymhelliad i ganiatáu. Roedd y Cynghorydd Eric Roberts yn cytuno gyda sylwadau'r Cynghorydd McGregor a dywedodd ei fod o'r farn nad oedd y budd i'r gymuned yn yr achos hwn yn drech na'r niwed y byddai'r datblygiad yn ei achosi.  O'rherwydd, eiliodd gynnig y Cynghorydd Clive McGregor.  At hyn, mynegwyd amheuon a fyddai irlunio'n lliniaru effaith y datblygiad ar adeilad rhestredig yr eglwys.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jim Evans, Clive McGregor, Eric Roberts a Vaughan Hughes dros beidio â chefnogi argymhelliad y swyddog i ganiatáu.

 

Penderfynwyd peidio â chefnogi argymhelliad y Swyddog i ganiatáu oherwydd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar dirlun yr ardal a hefyd ar adeilad rhestredig Eglwys St Peirio.

 

Dywedodd Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu mai'r Cynghorwyr Clive McGregor ac EricRoberts fyddai'n amddiffyn y penderfyniad mewn apêl.

 

7.2 44C292 Codi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb o ddim mwy na 44m, diamedr llafn o ddim mwy na 56m ac uchder pigyn o ddim mwy na 72m, ynghyd â chodi gorsaf drosglwyddo, man ar gyfer cyfleustodau, creu trac mynediad newydd a llecyn caled ac adeiladu ffordd gyswllt newydd ger y gyffordd â 'r B5111 ar dir sy'n gysylltiedig â 'Llety', rhifau caeau O.S. 0268 a 6366, Rhos-y-bol

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y cais oherwydd y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Ymwelwyd â 'r safle ym mis Awst  2012.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Ms Bethan Griffiths, gwrthwynebydd i'r bwriad, annerch y Pwyllgor.  Tynnodd Ms Griffiths sylw at y materion a ganlyn fel rhesymau dros wrthwynebu'r cais.

 

·         Y modd y cyflwynwyd y cais a'r ffaith bod yr ymgeisydd gwreiddiol oedd yn cyflwyno'r cais wedi dweud ei fod yn berchen ar dir pedwar person arall – gwybodaeth a gafodd ond ei newid trwy e-bost pan ddeallodd gwrthwynebwyr bod y wybodaeth yn anghywir. Dylid fod wedi cyflwyno cais newydd gyda'r cynlluniau cywir oherwydd, fel arall, ni fyddai wedi'i seilio ar wybodaeth gywir ac ni ddylid fod wedi bwrw ymlaen ag o'n gyfreithiol.

·         Pa mor agos oedd y bwriad i dai cyfagos.  Yn ôl Canllawiau Llywodraeth Cymru ni ddylaityrbinau gwynt fod o fewn 500m i dai.  Roedd y bwriad hwn am dyrbin oedd 338m i ffwrdd o'r tŷ agosaf ac o fewn 450m i dri thŷ arall.

·         Pryderon ynghylch lleoliad y tyrbin arfaethedig ar ffordd oedd yn agos i'r briffordd rhwng Rhos-y-bol a Llannerch-y-medd  Byddai tyrbin mor fawr â'r un arfaethedig yn tynnu sylw ar ffordd sydd eisoes yn beryglus.

·         Pa mor addas oedd y ffordd sengl i gynnal y peiriannau a'r lorïau oedd yn angenrheidiol i godi'r tyrbin a'i wasanaethu.

·         Effaith ar fwynder o ran sŵn ac effaith bosib ar iechyd oedd yn bynciau cynhennus.

·         Gallai caniatáu'r cais gael sgîl-effeithiau ar fywyd gwyllt yr ardal. 

·         Bod yr adroddiad ar Fwynderau Preswyl yn gamarweiniol ac yn anghywir ac yn dweud y byddai modd gweld y tyrbin o un ystafell yn unig yn y tŷ agosaf iddo.  Yn hytrach, byddai modd ei weld o bedair ystafell.

·         Byddai modd gweld y tyrbin o bell gan y byddai ar fryn.  Roedd Ynys Môn yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol. Dangosodd  adroddiad a wnaed bod dwysedd tyrbinau gwynt o leiaf saith gwaith mwy na'r cyfartaledd cenedlaethol.  

 

Nid oedd gan Aelodau'r Pwyllgor gwestiynau i Ms Griffiths.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchodd Mr James Merrigan y Pwyllgor i gefnogi'r cais a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn –

 

·         Ar wahân i'r taliad o £5,000 y flwyddyn er budd y gymuned a'r manteision amlwg oedd yn gysylltiedig gyda'r incwm a grëid yn cael ei fuddsoddi'n ôl i'r ffarm leol, roedd effeithiau ymddangosiadol y tyrbin yn dderbyniol ac roedd y budd yr oedd yn ei gynnig yn fwy na'r effaith gyfyngedig y byddai'r datblygiad yn ei chael o ran y lleoliad y byddai modd ei weld ohono, a'r budd hwnnw'n sylweddol fwy.

·         O'r bobl yr ymgynghorwyd â nhw'n statudol ac yn fewnol ac y gofynnodd y Cyngor iddynt roi barn, dau yn unig o'r deuddeg posib a wrthwynebodd, yn ôl adroddiad y Swyddog.  Y Cyngor Cymuned ac Adain yr Amgylchedd Adeiledig oedd y rhain, yn seilio'u barn ar yr effaith bosib ar y tirlun ac ystyriaethau mwynderau gweledol oedd yn gysylltiedig ag un tŷ gerllaw.

·         Byngalo oedd yr eiddo dan sylw ac roedd oddeutu 346m i ffwrdd o'r tyrbin arfaethedig.  Oni bai am goed bychain bytholwyrdd yn yr ardd flaen, byddai modd gweld y bwriad o'r tŷ.  Fodd bynnag, eisoes roedd modd gweld yn glir beilonau yn dod o Orsaf bŵer yr Wylfa.  Roedd modd gweld Ffarm Wynt Trysglwyn hefyd .

·         Roedd y tŷ agosaf i Ffarm Wynt Trysglwyn ac oedd â golygfeydd clir o’r tyrbinau oddeutu 270m i ffwrdd o'r tyrbin agosaf, tyrbin oedd 76m yn nes na'r tŷ agosaf dan sylw yn yr achos hwn.

·         Felly, yng nghyd-destun y peilonau a'r ffarm wynt oedd eisoes yno, ni chredai y byddid effaith annerbyniol o ran pryderon ynghylch y tirlun na mwynder gweledol preswyl.  Ni fyddai'r tyrbin yn ormesol

·         Roedd manteision y bwriad o ran rhoi budd cymunedol ac economaidd yn drech nag unrhyw bryderon dros dro a allai arwain at wrthod y cais.  Cyfnod cyfyngedig o 25 mlynedd yn unig oedd i'r datblygiad.

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i'r Pwyllgor bod amgylchiadau'r cais hwn yn debyg i amgylchiadau cais 7.1 gan bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno apêl yn erbyn methu penderfynu ar gais a bod yr apêl honno, bellach, wedi'i chaniatáu gan yr Arolygwr Cynllunio.  Fodd bynnag, yn yr achos hwn, argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod y cais a olygai y gallai'r Swyddogion amddiffyn y penderfyniad i wrthod ac roeddynt yn barod i wneud hynny.  Pe byddai'r Pwyllgor yn anghytuno gyda'r argymhelliad, gallai ddweud nad oedd yn dymuno i'r Awdurdod herio'r apêl ac y byddai wedi caniatáu'r cais pe byddai wedi bod mewn sefyllfa i wneud hynny.

 

Anerchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y Pwyllgor fel yr Aelod Lleol.  Rhoes wybod i'r Aelodau o'r cychwyn cyntaf ei fod eisoes wedi datgan diddordeb yn y mater hwn a'i fod wediceisio cyngor cyfreithiol oedd wedi cadarnhau mai personol ac nid anfanteisiol oedd y diddordeb.  Diolchodd i'r Pwyllgor am ymweld â'r safle ac edrych ar leoliad arfaethedig y tyrbin gwynt a dywedodd mai yn Llandyfrydog oedd y bwriad yn hytrach nag yn Rhos-y-bol. Dywedodd ei fod yn bryderus ynghylch nifer y ceisiadau am dyrbinau gwynt yn ardaloedd Llandyfrydog a Rhos-y-bol.  Roedd wedi gofyn am i fap gael ei ddangos oedd yn nodi lle caniatawyd  tyrbinau gwynt, y ffarm tyrbinau gwynt yn 'Trysglwyn', ynghyd â safleoedd arfaethedig ar gyfer tyrbinau gwynt.  Credai bod raid ystyried dwysedd datblygiadau o'r fath a'i fod yn bryderus eu bod yn dechrau amgylchynu Llandyfrydog a Rhos-y-bol. Cyfeiriodd yn benodol at asesiad o effaith y datblygiad ar fwynderau gweledol trigolion byngalo 'Rhosydd' fel a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig -  byngalo y dywedodd y Swyddog y byddid yn effeithio arno i raddau gormesol ac  aruthrol am y rhesymau a nodwyd.  Gofynnodd i Aelodau gefnogi penderfyniad y Swyddog ar y cais gan ddweud mai'r pryder mwyaf oedd maint y datblygiad arfaethedig lle bynnag y byddai yn yr ardal.   

 

Ceisiodd y Cynghorwyr Clive McGregor a Vaughan Hughes gyngor ar eu sefyllfa gan nad oeddynt wedi bod yn bresennol pan ymwelwyd â'r safle ym mis Awst. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod y cyfnod y bu arbrofi ar newidiadau i Reoliadau Gweithdrefn Materion Cynllunio a phan oeddynt mewn grym wedi dod i ben ac nid oeddynt wedi'u hymestyn hyd yn hyn.  Golygai hyn bod y Pwyllgor mewn cyfnod o 'interregnum'.  O'r herwydd, roedd hawl, felly, gan yr Aelodau hynny i gymryd rhan yn y drafodaeth er nad oeddynt wedi ymweld â'r safle ac yn enwedig, felly, o gofio cyngor y Swyddog nad oedd y Pwyllgor yn medru dod i benderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd McGregor mai yr un oedd ei farn â chyda'r cais blaenorol, sef bod y bwriad hwn yn mynd gam yn rhy bell. Cynigiodd y Cynghorydd Eric Roberts gefnogi'r argymhelliad i wrthod ac fei'i eiliwyd gan y Cynghorydd R.L.Owen.

 

Penderfynwyd cefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a roddir.

 

(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Clive McGregor a Vaughan Hughes ar y mater)

Dogfennau ategol: