12.1 – 11C591 – 16 - 21Bor Trehirion, Amlwch (70)
12.2 – 19C1105 – 1-2 Llys Watling, Caergybi (75)
12.3 – 46LPA965/CC – Lôn ISallt, Trearddur (79)
12.4 – 48LPA851C/CC – Canolfan Ailgylchu Gwalchmai, Gwalchmai (83)
Cofnodion:
12.1 11C591 Newid defnydd tir diffaith i greu ardal natur a hamdden ar dir y tu ôl i 16-21 Bro Trehirion, Amlwch
Datganodd W.T.Hughes ddiddordeb yn y cais hwn ond wedi cael cyngor cyfreithiol mai personol ac nid anfanteisiol oedd y diddordeb, a hynny dan Baragraff 12 y Côd Ymddygiad, arhosodd yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y drafodaeth a phleidleisio arno.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan fod y tir yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn. At hyn, roedd yr Aelod Lleol wedi galw'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio oherwydd pryderon trigolion lleol.
Rhoes y Cadeirydd wybod i'r Aelodau bod yr Aelod Lleol wedi gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.
Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 19C1105 Cais llawn i osod traen atal dan ddaear, siambr archwilio a gorsaf bwmpio fechan ar dir ger 1-12, Llys Watling, Caergybi, LL65 2PB
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion oherwydd iddo gael ei wneud ar dir y Cyngor.
Rhoes Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu wybod i'r Pwyllgor bod sylwadau wedi'u derbyn gan ddeiliaid Fflatiau 10 a 11 Llys Watling ers drafftio'r adroddiad. Er nad oedd y deiliaid yn gwrthwynebu'r cais roeddynt wedi mynegi pryderon ynghylch y sŵn posib y gallai'r orsaf bwmpio arfaethedig ei greu - roedd hyn yn fater a godwyd yn adroddiad y Swyddog, hefyd. Ers ysgrifennu'r adroddiad, roedd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod wedi cadarnhau na fyddai'r orsaf bwmpio'n creu niwsans o ran sŵn.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr adroddiad.
12.3 46LPA965/CC Cais llawn i ledu'r llithrfa ar dir yn Lôn Isallt, Trearddur, LL65 2UN
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion oherwydd iddo gael ei wneud ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Clive McGregor ganiatáu'r cais a chafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr adroddiad.
12.4 48LPA851C/CC Uwchraddio'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nghanolfan Ailgylchu Gwalchmai, Gwalchmai
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion at y bwriad gan mai Adran Rheoli Gwastraff y Cyngor oedd yn ei wneud.
Eglurodd Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu mai cais yng nghyswllt rheoli traffic ar y safle oedd hwn a'r bwriad oedd gwahanu llifoedd traffic cyhoeddus a masnachol ar y safle am resymau diogelwch ac fel ei bod yn haws defnyddio'r safle. Yr argymhelliad oedd caniatáu gyda newid i amod 2. Nid oedd modd i amod ei gwneud yn ofynnol i safle gael ei gadw'n 'lân' ac yn 'daclus' gan mai prawf goddrychol oedd hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Roberts ganiatáu'r cais gyda'r newid a chafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Clive McGregor.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r newid i'r amodau yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: