Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer y Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) y penderfynodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016, y dylid ei ffurfio.
Cafodd aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyniad gan gynrychiolwyr o Browne Jacobson ar fanylion penodol, opsiynau a chyngor cyfreithiol mewn perthynas â ffurfio SCE. Trafododd yr Ymddiriedolaeth y Cyfansoddiad Enghreifftiol ar gyfer SCE sef y Model ‘Sylfaen’ a’r Model ‘Cyswllt’.
PENDERFYNWYD: -
· Bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ffurfio Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) Cyswllt ac yn newid i fod yn SCE o’r fath ac yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i weithredu'r penderfyniad hwnnw;
· Bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn mabwysiadu'r argymhellion canlynol wrth sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol Cyswllt: -
· Bod yr SCE Cyswllt, yn y lle cyntaf, yn cynnwys Aelodau a Chyfarwyddwyr a byddant yr un bobl a bydd pob un ohonynt yn aelodau etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn ( 'Aelodau Etholedig);
· Bydd enw'r Ymddiriedolaeth yn ddwyieithog (gyda'r enw Cymraeg yn gyntaf) a’r enw Saesneg wedyn, sef Cymdeithas Elusennol Ynys Môn / Isle of Anglesey Charitable Association;
· Bydd amcanion elusennol y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol newydd yn aros fel y maent ar hyn o bryd;
· Ni fydd unrhyw atebolrwydd ar aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol pe bai’r Gymdeithas yn dod i ben;
· Bydd gan y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol un categori o aelodau ond bydd ganddi rym i ymestyn yr aelodaeth i 'gyfeillion heb bleidlais' ar ryw adeg yn y dyfodol;
· Y Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol fydd 5% o'r aelodaeth;
· Bydd gan Gadeirydd cyfarfod yr aelodau o'r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol bleidlais fwrw os bydd nifer y pleidleisiau a gafodd eu bwrw mewn cyfarfod o’r fath yn gyfartal;
· Yr isafswm oed i fod yn ymddiriedolwr fydd 16;
· Isafswm nifer yr ymddiriedolwyr fydd 3;
· Ni fydd uchafswm ar gyfer nifer yr ymddiriedolwyr;
· Bod yr holl Ymddiriedolwyr ar adeg sefydlu’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol yn Aelodau Etholedig;
· Bod 2 Ymddiriedolwr Annibynnol;
· Mai’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o'r Ymddiriedolwyr fydd 5;
· I'r graddau y bydd y gyfraith yn caniatáu, bydd yr Ymddiriedolwyr yn aelodau etholedig sy'n cynrychioli wardiau etholiadol Ynys Môn;
· Bydd Ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi gan yr Ymddiriedolwyr cyfredol;
· Bydd cyfnodau swydd yr Ymddiriedolwyr yr un fath â chyfnodau swydd yr Aelodau Etholedig;
· Bydd cyfnodau swydd yr Ymddiriedolwyr Annibynnol yn 3 blynedd a gallant wasanaethu am unrhyw nifer o gyfnodau ar yr amod nad ydynt yn gwasanaethu am ragor na 2 gyfnod yn olynol;
· Rhoddir awdurdod i Aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol ddiswyddo Ymddiriedolwr o’r Gymdeithas;
· Bydd gan Gadeirydd y cyfarfod o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol bleidlais fwrw os bydd nifer y pleidleisiau a gafodd eu bwrw mewn unrhyw gyfarfod o’r fath yn gyfartal;
· Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r holl bwerau, hawliau a swyddogaethau gwneud penderfyniadau eraill ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn er mwyn sicrhau’r trawsnewid i fod yn SCE Cyswllt - gan gynnwys unrhyw benderfyniad ar fater ategol neu atodol ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Gall Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth ymgynghori hefyd gydag aelodau o'r Panel a sefydlwyd o aelodau etholedig a chyda Swyddogion o’i ddewis cyn ymarfer unrhyw hawliau, pwerau neu swyddogaethau o'r fath.
Dogfennau ategol: