Eitem Rhaglen

Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cadlywydd Steve Heneghan, Dirprwy Gadlywydd Morol Rhanbarthol Cymru a Gorllewin Lloegr a Mr. David Alexander, Cynrychiolydd y Llynges Frenhinol ar Ynys Môn.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn

perthynas â chaniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges

Frenhinol.

 

Ym mis Rhagfyr 2013, cymeradwywyd y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cyngor Sir:-

 

Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi Rhyddid y Sir i’r Llynges Brydeinig a Chymdeithas y Llynges Fasnachol. Mae hyn i gydnabod iddynt gadw’n ddiogel y ffyrdd mordwyo a’r fasnach sy’n bodoli rhwng y Deyrnas Gyfunol a gweddill y Byd. Dylid ystyried y seremoni Rhyddfraint hon fel digwyddiad I gofio Rhyfel Mawr 1914-18 a Choffáu 70 o flynyddoedd ers Brwydr Môr Iwerydd.”

 

I ganiatáu Rhyddid y Sir nodwyd bod angen trefnu protocolau a gweithdrefnau ac achlysur seremonïol er mwyn cwrdd â rhai meini prawf penodol. Byddai angen dilyn y gweithdrefnau canlynol:-

 

Cyflwyno adroddiad i Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor sy’n argymell y dylai’r Cyngor, gan ddefnyddio ei bwerau dan Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyried cynnig Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair o’r Cyngor i gymeradwyo’r penderfyniad a bydd cynrychiolwyr o’r Llynges Frenhinol yn bresennol yn eu

lifrai er mwyn derbyn y cynnig ar ran y Llynges Frenhinol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled M. Jones hanes y Llynges Frenhinol a’i

chysylltiadau ag arfordir Ynys Môn a Gogledd Cymru. Cyfeiriodd at y Gwasanaeth Llongau Tanfor a’r hanes o weithredoedd arwrol yn ystod y ddau Ryfel Byd.  Cyfeiriodd at Mr. William Williams o Amlwch a dderbyniodd y Groes Fictoria am ei ddewrder wrth wasanaethu fel morwr yn y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Cydweithiodd y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol yn llwyddiannus yn ystod Rhyfel y Falklands ym 1982. Chwaraeodd gŵr lleol o Amlwch, yr Is-gapten Keith Mills o’r Forlu Frenhinol, ran allweddol yn yr ymgyrch i amddiffyn De Georgia yn ystod Rhyfel y Falklands.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Jones fod gan Wasanaeth Llongau Tanfor y

Llynges Frenhinol gysylltiadau cryf â Chaergybi. Cyfeiriodd at achos trasig y llong danfor HMS Thetis a suddodd ger arfordir Ynys Môn yn 1939 gan golli 99 o fywydau. Roedd urddas pobl Caergybi yn aruthrol a chladdwyd y dynion ifanc mewn seremoni filwrol lawn ym Mynwent Maeshyfryd yng Nghaergybi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod Cyngor Sir Ynys Môn yn caniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol a bod trefniadau yn cael eu gwneud i gynnal Seremoni Rhyddid y Sir yng Nghaergybi yn ystod penwythnos olaf mis Mehefin 2018.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cadlywydd Steve Heneghan i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadlywydd Heneghan, ar ran Prif Arglwydd y Morlys a Phennaeth Staff y Morlys yr Arglwydd Lyngesydd Syr Philip Jones KCB ADC, ei bod yn bleser o’r mwyaf ganddo dderbyn y cynnig ffurfiol i ganiatáu Rhyddid Sir Ynys Môn ar ran y Gwasanaeth Llongau Tanfor. Dywedodd bod cysylltiadau’n bodoli rhwng y Llynges Frenhinol ac arfordir Gogledd Cymru, ac yn arbennig Ynys Môn, ers nifer fawr o flynyddoedd.

Dogfennau ategol: