Eitem Rhaglen

Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cyflwyno adroddiad Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd ynglyn ag archwiliad dilyn i fyny yr Asiantaeth Safonau Bwyd o’r Gwasanaeth Gorfodaeth Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y pwyllgor, adroddiad y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd ar ail ymweliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ag Ynys Môn ar 15 a 16 Medi, 2016 i ddilyn i fyny’r cynnydd a wnaed ers archwiliad gwreiddiol yr Asiantaeth o Wasanaeth Bwyd a Phorthiant yr Awdurdod ym mis

Gorffennaf, 2014.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd ei fod wedi adrodd yn flaenorol i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ym Medi 2015 ar y Cynllun Gweithredu a'r cynnydd a wnaed ar ôl archwiliad gwreiddiol yr Asiantaeth Safonau Bwyd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, 2014. Adroddwyd ar nifer o ganfyddiadau yn dilyn yr archwiliad a arweiniodd at 40 o argymhellion gan dîm Archwilio’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Crynhoir prif ganfyddiadau'r archwiliad gwreiddiol yn adran 2.1 o'r adroddiad. Ymatebwyd i'r argymhellion  drwy lunio Cynllun Gweithredu yn ymhelaethu ar sut y byddai pob argymhelliad yn cael sylw. Ailymwelodd tîm Archwilio’r Asiantaeth Safonau Bwyd â’r Awdurdod ym mis Medi, 2016 er mwyn asesu’n ffurfiol y cynnydd a wnaed yn erbyn yr adroddiad llawn; roedd hyn yn golygu ymweld â’r safle a llunio adroddiad wedyn ar  ffurf Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru. Mae'r adroddiad dilyn-i-fyny yn dangos bod cynnydd da wedi ei wneud ar y rhan fwyaf o'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt, gyda 22 wedi eu cwblhau a chynnydd da wedi ei wneud gyda 10 arall. Dim ond ar gyfer 4 cam gweithredu y barnwyd bod y cynnydd a wnaed yn gyfyngedig ac nid oedd dim un o’r camau gweithredu heb gael sylw o gwbl; ni roddwyd prawf ar 4 eitem oherwydd na fu unrhyw weithgaredd yn y meysydd gwaith penodol hynny. Rhestrir y 4 mater a oedd angen y sylw mwyaf ym  mharagraff 3.3 yr adroddiad, ac ‘roeddent yn cynnwys datblygu mwy ar y Cynllun Darparu Gwasanaeth. Mae'r Gwasanaeth yn rhagweld y bydd yn gallu cwrdd â'r holl gamau gweithredu erbyn mis Ebrill, 2017. Mae’r diffyg adnoddau staffio i gwrdd â’r targed o ran nifer yr Arolygiadau Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd yn parhau i fod yn bryder yn erbyn cyllideb sy’n gostwng ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd. Cyfeirir at y diffyg adnoddau staffio a'r goblygiadau o ran mynd i'r afael â’r arolygiadau a oedd wedi cronni ym mharagraffau 2.3 i 2.6 yr adroddiad. Mae gwaith gorfodaeth o ran Rheolaethau Porthiant yn cael ei wneud ar y cyd ar draws Gogledd Cymru ac mae’n cwrdd â’r argymhellion a nodwyd gan adroddiad yr ASB.  Nid yw'r ASB yn bwriadu dychwelyd i'r Awdurdod i wirio’r camau sy'n weddill gan y byddant yn cael sylw fel rhan o unrhyw ymweliadau posib â’r Awdurdod yn y dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol -

 

           Cydnabu'r Pwyllgor y cynnydd a oedd wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a llongyfarchodd y Gwasanaeth am hynny.

           Nododd y Pwyllgor y cyfnod o amser rhwng yr archwiliad gwreiddiol gan yr ASB a’r ail ymweliad i wirio a oedd y camau gweithredu’n cael sylw ac i edrych ar y cynnydd a wnaed. Mewn achosion lle’r oedd materion penodol wedi eu nodi, nododd y Pwyllgor fod angen i’r Asiantaeth ddilyn-i-fyny yn fwy prydlon i sicrhau bod camau gweithredu’n cael sylw priodol ac i sicrhau cydymffurfiaeth.

           Nododd y Pwyllgor fod digonolrwydd adnoddau staff yn parhau i fod yn fater a allai amharu ar y gwasanaeth wrth iddo geisio cyflawni ei gyfrifoldebau o ran arolygu safonau bwyd a hylendid bwyd yn effeithiol (mae’r arolygiadau hylendid porthiant bellach yn cael eu gwneud drwy drefniant cydweithio).  Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod y Gwasanaeth yn hyderus bod ganddo'r adnoddau angenrheidiol i allu rheoli’r llwyth gwaith arolygu ac i atal y llwyth gwaith a oedd wedi cronni rhag cynyddu ymhellach.  Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd bod y gwasanaeth, ers dwy neu dair blynedd bellach, wedi bod yn cael anhawster recriwtio staff yn lle staff sy’n absennol a bod hynny, ynghyd â chynnydd yn y galw am arolygiadau bwyd o ganlyniad i'r system sgorio hylendid bwyd, wedi bod yn heriol. Mae hyn wedi arwain at ôl-groniad o arolygiadau y mae angen ei glirio. Neilltuwyd arian o fewn cyllideb y gwasanaeth i wneud y gwaith sydd wedi cronni, ond bu’n anodd recriwtio staff dros dro. Fodd bynnag, mae’r ôl-groniad o arolygiadau hefyd yn cael sylw yn fewnol. Trawsnewidiwyd ac ailstrwythurwyd y timau o fewn y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ym mis Ebrill, 2016 i fynd i'r â’r afael heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth ac mae hyn wedi arwain at drefniadau staff mwy hyblyg a’r gallu i gyfeirio staff i weithio yn y meysydd lle mae'r galw ar ei fwyaf. Mae'r newidiadau a wnaed yn dal i wreiddio o ran datblygu'r sgiliau a'r cymwyseddau i ymgymryd â mwy nag un swyddogaeth.

           Mewn cyd-destun o gynnydd yn y sector bwytai a bwyta allan, nododd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol monitro a gorfodi safonau bwyd yn effeithiol gan ei fod yn faes risg ac oherwydd y gall goblygiadau digwyddiad bwyd fod yn ddifrifol. Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd fod arolygu busnesau newydd yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth (roedd 113 eleni yr oedd angen eu harolygu); nid yw’r busnesau hyn yn cael sgôr risg hyd nes iddynt gael eu harolygu. Er bod twf yn y busnes bwyd yn rhywbeth cadarnhaol ac i'w groesawu, mae'n creu galw am y gwasanaeth. Mae gan Ynys Môn safonau bwyd da / proffil hylendid da o ran nifer y safleoedd sydd â sgôr hylendid bwyd o 4 neu 5.   Rhoddir sgôr risg i adeiladau ac fe arolygir y rheini yr ystyrir eu bod yn rhai risg uwch bob 6, 12 neu 18 mis tra bod y rhai risg is yn cael eu harolygu bob 2 flynedd.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar faint o arian mae'r Gwasanaeth yn gallu ei gynhyrchu trwy godi tâl am arolygiadau ac a oes mwy y gellid ei wneud i gynyddu refeniw. Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd na chodir tâl am yr arolygiad cyntaf a wneir gan y gwasanaeth ond ei fod yn codi tâl am yr ail arolygiad os oes materion i’w dilyn-i-fyny, a hynny oherwydd eu bod yn digwydd y tu allan i’r rhaglen. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi papur gweithio sy’n cynnig y gellir codi tâl am lawer iawn mwy o’r gwaith a wneir gan awdurdodau lleol yn y maes hwn er mwyn adennill costau.

           Awgrymodd y Pwyllgor fod angen i'r Cynllun Darparu Gwasanaeth ganolbwyntio ar feysydd risg fel bod adnoddau'n cael eu targedu ar gyfer y meysydd y mae’r angen mwyaf amdanynt h.y.  meysydd blaenoriaeth a nodwyd fel rhai risg uwch. Nododd y Pwyllgor fod yr egwyddor hon yr un mor berthnasol i wasanaethau eraill.

           Nododd y Pwyllgor y sylwadau a wnaed drwy e-bost gan yr Is-Gadeirydd nad oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon a chytunwyd y byddent yn cael eu cyfeirio ymlaen at y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad fel un a oedd yn darparu sicrwydd bod cynnydd da wedi ei wneud o ran gweithredu’r argymhellion a wnaed yn sgil archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd a bod amserlen ar gyfer cwblhau'r camau sy'n weddill.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: