Eitem Rhaglen

Adroddiadau Dilyniant Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol  a oedd yn darparu diweddariad pellach ar Archwiliadau Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb TGCh mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â'r materion a nodwyd a chwblhau'r camau a argymhellwyd fel rhan o'r archwiliadau hynny.  Crynhowyd manylion yr ail Archwiliadau dilyn-i-fyny ynghylch materion Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb TGCh yn Atodiadau A a B i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fel a ganlyn -

 

           Ail Archwiliad dilyn-i-fyny ar gyfer Trefniadau Parhad Busnes - fel y manylir ym mharagraff 2 yn Atodiad A, nododd yr ail adolygiad dilyn-i-fyny fod y ddau argymhelliad lefel uchel nad oeddent wedi eu gweithredu ar adeg yr adolygiad diwethaf wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn.  Asesir bod yr argymhelliad lefel uchel a oedd ar ôl ynghylch yr angen i gynnwys trefniadau rheoli ar gyfer adfer adeiladau yn y Cynllun Parhad Busnes Corfforaethol wedi ei weithredu'n rhannol. Gan nad

oedd yr argymhelliad wedi ei weithredu’n llawn eto, fe gafodd ei ailadrodd. Asesir bod yr  argymhelliad lefel ganolig sy'n ymwneud ag anghenion hyfforddi i gefnogi gweithrediad y Cynllun Parhad Busnes wedi ei weithredu'n llawn. Mewn perthynas â'r argymhelliad lefel ganolig y dylai gwasanaethau sicrhau bod eu trefniadau parhad busnes a’u cynlluniau argyfwng yn gyfredol ac yn weithredol a’u bod wedi eu cynnwys o fewn eu Cynlluniau Darparu Gwasanaeth, nid yw pob gwasanaeth wedi cynnwys Parhad Busnes o fewn eu cynlluniau gwasanaeth ac felly ailadroddir y rhan hon o’r argymhelliad. Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ail adolygiad dilyn-i-fyny asesir bod y Cyngor wedi dangos cynnydd da o ran gweithredu'r camau y cytunwyd arnynt i fynd i'r afael â'r argymhellion gan y gwasanaeth archwilio a bod lefel y sicrwydd a ddarperir bellach yn y maes hwn yn Sylweddol. 

           Adolygiad dilyn-i-fyny ar gyfer Adfer ar ôl Trychineb - fel y manylir ym mharagraff 2 yn  Atodiad B, roedd yr ail adolygiad dilyn-i-fyny yn asesu bod un argymhelliad lefel uchel wedi ei weithredu’n llawn, sef yr angen i gynhyrchu, mabwysiadu a gweithredu Cynllun Adfer ar ôl Trychineb TGCh. Aseswyd bod ail argymhelliad lefel uchel wedi ei weithredu i raddau helaeth, ond, o ran y trydydd argymhelliad lefel uchel, erys angen i’r gwasanaethau roi prawf ar y system a’r trefniadau ar gyfer data wrth gefn yn y Cynllun Adfer ar ôl Trychineb TGCh.  Mewn perthynas â’r argymhelliad lefel uchel a oedd ar ôl, sef cofnodi’n ffurfiol y cyfrifoldeb am gynnal a monitro'r systemau rheolaeth amgylcheddol ac atal tân o fewn y canolfannau data, gwnaed argymhelliad newydd i'r perwyl bod y cyfrifoldeb am reoli a chynnal yr UPS a’r system awyru yn y Ganolfan Data TGCh yn cael ei drosglwyddo i'r Gwasanaethau Eiddo i’w gynnwys yn y Cynllun Rheoli Adeiladau. Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ail adolygiad dilyn-i-fyny, asesir bod y Cyngor wedi dangos cynnydd rhesymol wrth weithredu'r camau y cytunwyd arnynt i fynd i'r afael ag argymhellion y gwasanaeth archwilio a bod lefel y sicrwydd a ddarperir bellach yn y maes hwn yn Rhesymol. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y ddau faes y cyfeiriwyd atynt wedi bod yn destun sylw gan y Pwyllgor am beth amser; ‘roedd bellach yn croesawu'r cynnydd a wnaed ar weithredu argymhellion y gwasanaeth archwilio er mwyn gwella'r amgylchedd rheoli yn y ddau faes fel yr amlygir yn yr adroddiad diweddaru, gan leihau'r risgiau a nodwyd yn y meysydd hynny.

 

Penderfynwyd bod y pwyllgor yn fodlon â lefel y sicrwydd a ddarperir fel y dangosir yn yr adroddiad am y camau a gymerwyd mewn perthynas â Pharhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb TGCh.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Y Pwyllgor i dderbyn diweddariad terfynol ar Adfer ar ôl Trychineb TGCh ym Mehefin 2017 iddo fedru bodloni ei hun bod y camau sy'n weddill wedi eu cwblhau.

Dogfennau ategol: