Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2017/18 (Refeniw a Chyfalaf)

Cyflwyno  adroddiad y Rheolwr Sgriwtini  Dros Dro yn ymgorffori’r canlynol 

 

  • Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog 151 ar Gyllideb Refeniw y Cyngor am 2017/18 (Atodiad 1)

 

  • Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog 151 ar Gyllideb Gyfalaf y Cyngor am  2017/18 (Atodiad 2)

 

  • Adroddiad y Rheolwr Cynllunio Busnes, Perfformiad a Rhaglenni ar y  negeseuon o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Gyllideb am 2017/18  (Atodiad 3)

 

·        Adroddiad Swyddog Datblygu Llais Ni ar ymateb pobl ifanc i gynigion arbedion cyllideb 2017/18 (Atodiad 4).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro. ‘Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cyd-destun i'r broses o osod cyllideb 2017/18 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso'r cynigion ar gyfer y Gyllideb, ac ‘roedd yn ymgorffori'r dogfennau canlynol –

 

6.1     Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1)

 

Crynhodd y Cadeirydd y broses ar gyfer gosod y gyllideb hyd yma, gan gynnwys archwiliad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o'r cynigion cychwynnol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2016 cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Ar ôl yr ymarfer ymgynghori, lluniwyd set o gynigion terfynol a oedd yn cymryd i ystyriaeth yr adborth gan y cyhoedd ac ‘roedd y rheini wedi eu cyflwyno i’r cyfarfod heddiw am sylw cyn iddynt gael eu cyflwyno  i'r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2017 i’w hargymell yn ffurfiol i'r Cyngor llawn ar ddiwedd y mis hwn.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y cynigion cyllidebol cychwynnol wedi nodi £2.9m o arbedion ar sail y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru a chynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor. Cyhoeddwyd ffigyrau’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr, 2016 ac arweiniodd hynny at gynnydd yn y Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer Cymru ac, o ganlyniad, cafodd Ynys Môn £0.364m ychwanegol o gymharu â’r ffigwr dros dro. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cymryd hyn i ystyriaeth, yn ogystal â'r angen i ailasesu'r pwysau ar wasanaethau; sef pwysau a deimlir fwyaf yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion a hefyd yn y Gyllideb Addysg All-Sirol fel yr amlinellir yn adran 5 yr adroddiad. Mae'r Gwasanaeth Cyllid wedi adolygu'r arbedion a gyflwynwyd ac mae wedi nodi nad oes modd cyflawni gwerth £314k o arbedion yn 2017/18 (Tablau 3 a 4 yr adroddiad).

 

Mae Tabl 6 yr adroddiad yn cymharu’r taliadau a godir am y Dreth Gyngor yn Ynys Môn â’r rheini a godir gan yr awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru ac mae Tabl 7 yn nodi effaith y gwahanol godiadau yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18. Mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â'r risgiau ariannol cynhenid yn y gyllideb arfaethedig sy'n ymgorffori nifer o dybiaethau ynghylch lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol. Mae'r manylion i’w gweld yn adran 7.

 

Ar ôl ystyried y cyllid sydd ar gael a'r cynnydd yn y Cyllid Allanol Cyfun ers llunio’r cynigion cyllidebol cychwynnol, yn ogystal â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi diwygio ei gynigion terfynol ar gyfer y gyllideb ac mae’r prif newidiadau i’w gweld yn adran 10 yr  adroddiad. Mae Tabl 8 yn yr adroddiad yn crynhoi’r gofynion a’r cyllid y bydd ei angen i ddarparu cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at adran 13 yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg strategol o'r sefyllfa bosib yn y tymor canol ac a oedd yn nodi’r senario orau a’r senario waethaf (Tablau 9 a 10 yn y drefn honno). Cyflwynir  Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddiweddaredig i'r Pwyllgor Gwaith wrth i wybodaeth am y setliadau a geir yn y dyfodol ddod yn gliriach.

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Cyllid i’r Gwasanaeth Cyllid am arwain ar y broses o osod y gyllideb o'r cychwyn cyntaf ym mis Ebrill y llynedd, a hefyd, i’r holl gynghorwyr am gyfrannu at y broses a’i gwnaeth yn un gynhwysol a chynhwysfawr. Rhaid diolch hefyd i Llais Ni am yr adborth adeiladol a gafwyd gan eu haelodau. Cyllid gan Lywodraeth Cymru yw’r rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor a gwelwyd cynnydd o 0.5% yn yr arian hwnnw ar gyfer 2017/18 ond nid yw hynny’n ddigon i gadw i fyny â’r gyfradd chwyddiant nac i gwrdd â'r pwysau ar wasanaethau, a dyna pam ‘roedd angen darganfod arbedion. Wrth gymhwyso'r angen i wneud arbedion i wasanaethau'r Cyngor, gwnaed ymdrech i wneud hynny mewn ffordd a oedd mor deg ag y bo modd. Fodd bynnag, mae'r angen i ddod o hyd i arbedion yn debygol o barhau yn y blynyddoedd i ddod ac yn yr hinsawdd hon o galedi parhaus rhaid troi pob carreg yn yr ymgyrch i wneud gwasanaethau mor effeithlon ag y bo modd o fewn yr adnoddau sydd ar gael a chyda'r effaith leiaf ar drigolion yr Ynys. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi dangos ei barodrwydd i wrando ar y prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus fel y dangosir gan y newidiadau a wnaed i’r gyllideb a amlygir ym mharagraff 10 yr adroddiad; mae iechyd cyffredinol statws ariannol y Cyngor wedi caniatáu rhyddid iddo ymateb yn gadarnhaol i'r prif bryderon a fynegwyd gan y cyhoedd ar yr Ynys.

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar, a chodwyd y materion canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor y rhagwelir gorwariant net ar gyllidebau gwasanaeth o £756k ar hyn o bryd ar gyfer 2016/17 a gofynnodd am sicrwydd bod buddsoddiadau a gynlluniwyd ar  gyfer 2017/18 yn cael eu symud i feysydd a oedd yn gorwario fel meysydd blaenoriaeth. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i’r Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant a’r Gyllideb Addysg All-Sirol gan eu bod yn gyllidebau a arweinir gan y galw a lle mae'r pwysau mwyaf a’r risg fwyaf o orwario yn sgil hynny e.e. mae Tîm Trothwy Gofal yn cael ei sefydlu yn y Gwasanaethau Plant fel mesur ataliol ac ymyrraeth gynnar i helpu plant i aros gartref. Mae'r sefyllfa’n newid yn barhaus yn y gwasanaethau wrth i lefel y galw amrywio. Fodd bynnag, er bod rhai gwasanaethau yn gorwario, mae'r sefyllfa yn cael ei gwrthbwyso i raddau helaeth yn sgil tanwariant ar gyllidebau corfforaethol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y gwahaniaeth mewn dulliau gweithredu gan fod y gostyngiad o £35k yn y grant i’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael ei ohirio yn 2017/8 tra bod yr arbediad o £490k mewn perthynas â chostau cynorthwywyr dysgu’n cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y bydd yr arbediad ar y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael ei ailgynnwys yn y cymysgedd o gynigion arbedion gwasanaeth pan fydd y Cyngor yn pennu ei gyllideb ar gyfer 2018/19; mae defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu'r arbediad ar gostau cynorthwywyr dysgu’n  caniatáu amser a sgôp i ysgolion lunio cynllun i gyflawni'r arbediad hwn yn 2018/19 pan fydd y gostyngiad yn y gyllideb yn cael ei weithredu.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar sut y gall yr Awdurdod fod yn sicr bod modd cyflawni’r arbedion o £490k ar gostau cynorthwywyr dysgu yn 2018/19, yn enwedig pan fo nifer o ysgolion yn gorfod syrthio yn ôl ar gronfeydd wrth gefn sy'n prinhau er mwyn ariannu diffygion yn y gyllideb a phan maent wedi gofyn (drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus) am wybodaeth ynghylch lefel yr arbedion a ragwelir dros y 3 blynedd nesaf fel bod modd iddynt gynllunio'n fwy cadarn. Sut hefyd y gall fod yn iawn i’r Cyngor gadw cronfeydd wrth gefn ond nid yr ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod balansau’r ysgolion yn £2.4m ym mis Mawrth 2015 (£1.7m cynradd a £600k uwchradd). Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth am lefel y cronfeydd wrth gefn y maent yn debygol o fod eisiau eu defnyddio i gydbwyso eu cyllidebau. Yn 2015/16, nododd ysgolion y byddent yn defnyddio tua £1m o’u balansau sy’n golygu y byddai ysgolion uwchradd yn defnyddio’u holl falansau.  Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015/16 ‘roedd disgwyl felly y byddai balansau’r ysgolion wedi gostwng i tua £1.3m ac na fyddai gan y sector uwchradd ddim ar ôl yn eu cronfeydd wrth gefn. Mewn gwirionedd, cynyddodd y balansau i £2.46m yn ystod 2015/16 gydag ysgolion uwchradd yn dal cyfanswm o £300k mewn cronfeydd wrth gefn tra bod gan ysgolion cynradd gyfanswm o £1.9m. ‘Roedd y canlyniad terfynol felly’n wahanol iawn i'r hyn a amcangyfrifwyd gan ysgolion ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, sy'n golygu bod balansau sylweddol yn parhau, yn enwedig yn y sector cynradd.  Mae'r Cyngor wedi helpu ysgolion i leihau eu costau e.e. arbedion caffael – felly wrth i’w cyllidebau leihau mae eu costau’n lleihau hefyd.  Mae costau cynorthwywyr dysgu’n faes y mae angen ei adolygu a gobeithir bod gohirio’r arbediad am flwyddyn trwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn yn rhoi digon o amser i ysgolion lunio cynllun i resymoli’r costau hyn.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod lefelau gwahanol gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn briodol yng nghyd-destun y risgiau a wynebir a’i gynlluniau gwariant. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod gan y Cyngor  £7.886m o arian wrth gefn ar hyn o bryd. Mater i'r Cyngor benderfynu arno yw lefel y cronfeydd wrth gefn cyffredinol a hynny’n seiliedig ar argymhelliad gan y Swyddog Adran 151. Fodd bynnag, fel rheol gyffredinol, ystyrir bod 5% o'r gyllideb refeniw net yn lefel dderbyniol. Yn seiliedig ar gyllideb refeniw 2016/17, byddai hynny’n golygu bod angen o gwmpas £6m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol ar gyfer Ynys Môn, sef y lefel isaf o gronfeydd wrth gefn y mae'r Swyddog Adran 151 yn cynghori y dylai'r Cyngor eu cadw.  Barn broffesiynol y Swyddog yw y dylai’r Cyngor fabwysiadu ymagwedd ofalus tuag at ddefnyddio cronfeydd wrth gefn hyd nes y bydd y mater hawliadau Tâl Cyfartal a sut i dalu amdanynt wedi ei benderfynu a’i ddatrys.

 

           Nododd y Pwyllgor nad yw, fel arfer, yn derbyn, i ddibenion monitro a sgriwtini, unrhyw wybodaeth am gronfeydd wrth gefn y Cyngor ac eithrio fel digwyddiad unwaith yn unig ar adeg pennu'r gyllideb flynyddol . Gofynnodd y Pwyllgor am drefniant lle byddai’n cael gwybodaeth o bryd i’w gilydd am lefel y cronfeydd wrth gefn, a hynny fel rhan o'i gyfrifoldeb ehangach i edrych ar ba mor dda y rheolir cyllideb a chyllid y Cyngor.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi penderfynu codi premiwm o 25% ar gartrefi a ddynodwyd yn gartrefi gweigion neu’n ail gartrefi i dalwyr y Dreth Gyngor. Wrth osod sylfaen y Dreth Gyngor, gwnaed asesiad ynghylch nifer yr ail gartrefi a’r cartrefi gwag i'w cynnwys wrth gyfrifo’r sylfaen ar gyfer y dreth. Nododd y Pwyllgor bod y sylfaen dreth wedi ei gosod ar 70% o'r eiddo a nodwyd a bod risg bod yr amcangyfrif o nifer yr eiddo a fyddai’n denu’r premiwm yn rhy uchel, sy'n golygu y bydd yr incwm a gynhyrchir yn is na'r gyllideb. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod y Gwasanaeth Cyllid wedi gorfod gweithio ar sail y wybodaeth oedd ar gael yn haf 2016; fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn weddol hyderus bod y gronfa ddata yn gywir ac yn gyflawn. Gall pethau newid yn ystod y flwyddyn a gan mai prif bwrpas y premiwm yw dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, disgwylir y bydd nifer yr eiddo y codir premiwn arnynt yn gostwng. Mae'r trothwy 70% yn amcangyfrif ceidwadol. Nododd y Pwyllgor hefyd ei bod yn anodd iddo wneud cyfraniad ystyrlon i'r drafodaeth am y premiwm Treth Gyngor heb ragor o wybodaeth am y mater, h.y. yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith gostwng costau glanhau ysgolion ar yr ysgolion eu hunain ac am sicrwydd y gellir gostwng y gyllideb ar gyfer gwaith glanhau  heb gael effaith negyddol ar lendid cyffredinol yr ysgolion.  Dywedodd y Pennaeth Dysgu y byddir yn parhau i gwrdd â’r gofynion o ran glendid a diogelwch ac nad yw lleihau’r gyllideb yn golygu na fydd ysgolion yn cael eu glanhau. Er na fydd pob ystafell ddosbarth yn cael ei glanhau bob dydd pan fydd y gyllideb wedi gostwng, ystyrir nad yw hynny'n angenrheidiol beth bynnag a  bydd mannau penodol e.e. toiledau ac ardaloedd a ddefnyddir yn aml, yn ogystal ag ardaloedd dosbarthiadau sylfaen mewn ysgolion cynradd yn parhau i gael eu glanhau bob dydd. Mae'r gyllideb hefyd yn golygu bod swm o arian ar gael ar gyfer glanhau yn y fan a'r lle.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Addysg wedi elwa o'r broses ymgynghori gyhoeddus yn yr ystyr bod cynigion diwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb wedi ysgafnu rhai o'r cynigion anoddaf ar gyfer arbedion yn y gwasanaeth addysg. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod y Gwasanaeth Addysg wedi bod yn gwneud toriadau am nifer o flynyddoedd; tra bod y Cyngor hyd yn hyn wedi bod yn amddiffyn gwasanaethau addysg, cyrhaeddwyd pwynt bellach lle mae’n rhaid ystyried toriadau a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar ysgolion. Beth mae'r gwasanaeth wedi ymdrechu i’w wneud yw ceisio gwarchod y ddarpariaeth addysg trwy ganolbwyntio ar ostwng costau ymylol. Nid yw’r dull hwn o weithredu’n gynaliadwy yn y tymor hir wrth i gyllidebau’r Cyngor barhau i grebachu; mae Penaethiaid Ysgol yn awr yn gofyn am y rhyddid i allu gweithredu'r toriadau yn ôl yr amgylchiadau o fewn eu hysgolion eu hunain. Er bod cynyddu ffioedd a thaliadau yn cael effaith ar deuluoedd, mae’r Awdurdod ym Môn yn parhau i fod yn gystadleuol o ran y taliadau y mae'n eu codi e.e. pris cinio ysgol. Mae hyn hefyd yn wir am bris cludiant i'r ysgol; mae pob sedd ar fysus ysgol yn costio £465 yr un mewn gwirionedd ac mae nifer o seddi’n wag. Mae gofyn am gyfraniad yn mynd rhywfaint o'r ffordd i gwrdd â chost y ddarpariaeth. Mae'r Gwasanaeth Addysg hefyd wedi gorwario mewn rhai meysydd, gan gynnwys ar gludiant ysgol ac mewn meysydd a arweinir gan y galw a meysydd  sy'n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Plant, a hynny oherwydd y galw cynyddol am leoliadau all-sirol i ddiwallu anghenion plant sy'n derbyn gofal, sef anghenion a alla fod yn rhai cymhleth weithiau.

 

           O ran ei bolisi codi tâl am gludiant ysgol, awgrymodd y Pwyllgor bod yr Awdurdod mewn gwirionedd wedi rhoi ei hun mewn congl ac nad oes ganddo lawer o le i symud oherwydd ei fod yn dechrau o waelodlin isel o gymharu ag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru ac yn ceisio dal i fyny . Ni all ond gynyddu taliadau gan ganran benodol. Serch hynny, dywedodd y Pennaeth Dysgu y gellir edrych ar yr hyn a ddarperir e.e. mae’r Awdurdod ar hyn o bryd yn cynnig seddau gwag i ddisgyblion sy'n byw llai na 3 milltir o'r ysgol yn y sector uwchradd a 2 milltir yn y sector cynradd; gellid aildrafod contractau fel nad yw bysus ond yn cynnig seddau i ddisgyblion sy'n byw mwy na 2 neu 3 milltir i ffwrdd.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a ddylid dynodi’r galw cynyddol yn risg benodol mewn perthynas â chyllidebau gwasanaeth yn yr un ffordd â’r risgiau  cydnabyddedig a nodir yn adran 8.3 yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod gwariant refeniw cyffredinol yn parhau i fod o fewn y gyllideb er bod gorwario ar rai gwasanaethau oherwydd cynnydd yn y galw. Felly, er gwaethaf y risg yn sgil gorwariant mewn rhai gwasanaethau oherwydd y galw amdanynt, mae'r broses ehangach o reoli’r gyllideb a’r cronfeydd wrth gefn yn gweithio i liniaru'r risg.

 

           Holodd y Pwyllgor a ddylai'r Cyngor fod yn ceisio manteisio ar y rhagolygon mwy cadarnhaol ar gyfer 2017/18 yn seiliedig ar y setliad gwell gan Lywodraeth Cymru, i lynu wrth gynnydd yn y Dreth Gyngor o 3% neu hyd yn oed mwy (yn unol â thablau 9 a 10 yn yr adroddiad) er mwyn darparu clustog ar gyfer 2018/19 ac i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran y toriadau y bydd yn rhaid eu gwneud a’r cynlluniau gwariant y bydd yn dymuno eu gweithredu efallai bryd hynny. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai’r neges o’r ymgynghoriad cyhoeddus yw bod y mwyafrif o'r ymatebwyr yn anghytuno ag unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor. Mae'r senario orau yn Nhabl 10 yr adroddiad yn nodi y byddai angen arbedion o £1.9m; mae'r Awdurdod eisoes wedi dod o hyd i arbedion o £2.5m ar gyfer 2017/18 ac wedi medru cyflwyno cynnydd rhesymol yn y Dreth Cyngor ar yr un pryd.  Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn ddigon cadarn i alluogi'r Pwyllgor Gwaith i gynnig llai o gynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar a fydd y cynigion ar gyfer cyllideb 2017/18 yn galluogi'r Pwyllgor Gwaith i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a’r Rhaglen Drawsnewid. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y bydd y Cynllun Corfforaethol cyfredol yn dod i ben eleni ac er na fydd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn effeithio ar gynnwys y Cynllun yn ei ffurf bresennol, mae yna elfen o risg o ran llunio Cynllun newydd dros y chwe mis nesaf.

 

6.2     Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 ar y Gyllideb Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 (Atodiad 2)

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn diweddaru'r gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2017/18 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Tachwedd, 2016. ‘Roedd 2 gynllun benthyca digymorth posib wedi eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ddrafft mewn perthynas ag adeiladu cae pêl-droed 3G yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur a phrynu offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Gan fod y ddau gynllun yn parhau i gael eu datblygu ac nad ydynt mewn sefyllfa i symud ymlaen yn 2017/18 fe’u tynnwyd o’r rhaglen gyfalaf derfynol. Y prif wrthwynebiadau i'r cynlluniau gwario cyfalaf a fynegwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus oedd y dyraniad o £1m ar gyfer safleoedd sipsiwn a theithwyr. Gan fod hwn yn ofyniad deddfwriaethol, nid oes gan y Cyngor unrhyw ddisgresiwn yn y mater er bod ymatebwyr yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn awgrymu mai Llywodraeth Cymru ddylai ddarparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn os mai hi sy’n arwain arno.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar, a gwnaeth sylwadau ar fforddiadwyedd y rhaglen gyfalaf o gofio’r pwysau ar y gyllideb refeniw. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod y cynllun cyfalaf a’r strategaeth gyfalaf gyfredol (ac eithrio'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif) wedi eu sefydlu i ddefnyddio cyfuniad o fenthyca â chymorth, derbyniadau cyfalaf a grantiau gan Lywodraeth Cymru. Nod y dull hwn o weithredu yw osgoi benthyca ychwanegol a fyddai'n rhoi baich ychwanegol ar gostau cyfalaf sy'n bwydo drwodd i’r gyllideb refeniw ac sy’n cael eu cyllido ganddi. Unwaith y bydd ymrwymiad i fenthyca wedi ei wneud mae’r costau wedyn yn disgyn ar y Cyngor dros nifer o flynyddoedd a gallant fod yn sylweddol.

 

6.3     Adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn crynhoi'r negeseuon allweddol o'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer cyllideb 2017/18 yr Awdurdod ac a gynhaliwyd drwy amrywiaeth o ffyrdd a nifer o sianelau yn ystod y cyfnod 7 Tachwedd i  16 Rhagfyr f2016 (Atodiad 3)

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad ar y sianelau a ddefnyddiwyd i gynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o bum wythnos a chanlyniad y broses honno. Derbyniwyd mwy na 700 o ymatebion (1% o'r boblogaeth) ac fe ymgysylltodd yr ymatebwyr trwy bob dull o gyfathrebu. Y ffordd fwyaf llwyddiannus o gasglu ymatebion eleni oedd yr arolwg ar-lein (67%) gyda chyfryngau cymdeithasol hefyd yn gynyddol boblogaidd. Trwy bob sianel, ‘roedd prif ffocws yr ymatebion yn canolbwyntio ar y cynnydd mewn cost prydau ysgol; cynyddu cost cludiant bws i blant sy'n byw o fewn 2 i 3 milltir i’w hysgol; datblygu safle parhaol i sipsiwn a theithwyr; y cynnydd arfaethedig o 3% yn y Dreth Gyngor; lleihau cyllidebau glanhau ysgolion a lleihau costau drwy ailstrwythuro a rhewi swyddi gwag.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Cydnabu'r Pwyllgor yr amrywiaeth o sianelau a ddefnyddiwyd i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i gael ymateb gwell. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor fod y gyfradd ymateb, sef 1% o'r boblogaeth, yn parhau i fod yn isel ac y gellir gwneud mwy o hyd i godi’r niferoedd sy’n ymateb. 

           Nododd y Pwyllgor mai un ffordd o godi awydd y cyhoedd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yw sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn eglur. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi dwyn sylw at y mater hwn fel rhan o'i waith sgriwtini ar y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb yn ôl ym mis Hydref, 2016. Er bod y canlyniadau’n well na'r llynedd ac er y gellir eu priodoli’n rhannol efallai i’r ieithwedd symlach, mae’n ymddangos bod rhai o'r ymatebion yn dal i awgrymu nad yw ymatebwyr yn deall yn llawn yr hyn a gynigir. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er bod y broses wedi gwella, mae'n ymwneud â materion ariannol technegol sy'n gallu bod yn anodd i’w hesbonio weithiau.

           Gofynnodd y Pwyllgor am i’r holiadur ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini yn gynharach yn y broses o osod y gyllideb, a hynny er mwyn helpu i fframio'r cwestiynau mewn ffordd a all fod yn haws i'w deall a thrwy hynny annog adborth gwell.

           Nododd y Pwyllgor sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd a bod rhai o'r cynigion arbedion wedi eu haddasu yn sgil y negeseuon hynny.

6.4     Adroddiad y Swyddog Datblygu Llais Ni yn crynhoi prif safbwyntiau, pryderon ac argymhellion aelodau Cyngor Ieuenctid Ynys Môn mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Cyllideb 2017/18 fel y gwyntyllwyd nhw mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2016 ac a fynychwyd gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151, Arweinydd y Cyngor a'r Hyrwyddwr Pobl Ifanc (Atodiad 4)

Adroddodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, yr Hyrwyddwr Pobl Ifanc ar ganlyniad y gweithdy o ran y materion hynny a oedd wedi denu diddordeb y bobl ifanc a gymerodd ran yn y digwyddiad. Un sylw a wnaed oedd y dylid blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd eu hangen a phwysleisiodd un arall bwysigrwydd addysg fel cyfrwng a oedd yn siapio dyfodol plant.

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a nododd y canlynol -

           Nododd y Pwyllgor ansawdd ac aeddfedrwydd yr ymatebion a wnaed. Awgrymodd y Pwyllgor fod ansawdd yr ymatebion yn ystyriaeth sydd yr un mor bwysig â’u nifer wrth werthuso llwyddiant neu fethiant ymgynghoriad cyhoeddus a’i fod yn ffactor y dylid ei gadw mewn cof ar gyfer y dyfodol.

           Nododd y Pwyllgor fod yr ymatebwyr, os oeddent yn anghytuno â chynnig, wedi cyflwyno opsiwn arall gan sicrhau sgriwtini adeiladol o'r hyn sy'n cael ei gynnig, ac roedd y Pwyllgor yn eu canmol am hynny. 

Ar ôl trafod ac ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, a chan gadw mewn cof y sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd ar Ynys Môn a’r Cyngor Ieuenctid, ynghyd ag ymateb y Pwyllgor Gwaith iddynt trwy iddo addasu’r cynigion ar gyfer y gyllideb, PENDERFYNODD y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol –

 

           Cefnogi ac argymell y cynigion ar gyfer y Gyllideb i'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017 fel y nodir hwy yn adran 10 yr adroddiad ysgrifenedig yn Atodiad 1

           Dwyn sylw ysgolion at yr angen iddynt wneud ymrwymiad i gyflawni'r arbedion effeithlonrwydd o £490k mewn perthynas â chostau cynorthwywyr dysgu neu arbedion eraill yn y cyllidebau dirprwyedig yn 2018/19 ac i gynllunio ar y sail honno.

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn adroddiadau cyfnodol ar falansau a chronfeydd wrth gefn y Cyngor fel rhan o'i gyfrifoldeb i sgriwtineiddio pa mor dda mae cyllideb a chyllid y Cyngor yn cael eu rheoli.

           Cyflwyno’r ddogfen / holiadur Ymgynghoriad Cyhoeddus i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gynharach yn y broses o osod y gyllideb yn y dyfodol fel y gall y  Pwyllgor helpu i siapio ffurf ac ieithwedd yr ymgynghoriad i annog mwy o bobl i gymryd rhan ynddo.

Dogfennau ategol: