Eitem Rhaglen

Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth y Pwyllgor, Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2017 i 2022. Pwrpas y Strategaeth yw ceisio sicrhau bod Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn yn cael ei osod ar sylfeini cynaliadwy a chadarn fydd yn caniatáu i’r gwasanaeth wasanaethu anghenion preswylwyr yr ynys a chyflawni gofynion statudol yn y blynyddoedd i ddod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell bod Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth llyfrgell statudol sy’n gynhwysfawr ac effeithlon yn ôl gofynion Adran 7 Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn cael eu gosod a’u hasesu gan Lywodraeth Cymru ac yn un o’r mesurau o ran p’un a yw Awdurdod Llyfrgelloedd yn cyflawni ei ddyletswydd statudol. Yng nghyd-destun y Safonau, y prif bryder ynglŷn â’r Gwasanaeth yn Ynys Môn yw bod lefelau staffio islaw’r safonau a osodir a bod hynny o bosib yn cael effaith ar y gwasanaeth a ddarperir.

 

Mae Cynllun Corfforaethol Ynys Môn ar gyfer 2013-17 yn datgan y nod o leihau cyfanswm cost y Gwasanaethau Hamdden, Diwylliant a Llyfrgelloedd i’r Cyngor gan 60% yn ystod cyfnod y cynllun. O ganlyniad i’r ymrwymiad hwn, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd, y Gwasanaeth Ieuenctid, Amgueddfeydd a Diwylliant er mwyn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau y manylir arnynt yn y Cynllun Corfforaethol i archwilio opsiynau ac i weithredu model ddarparu Llyfrgelloedd diwygiedig.

Yn ystod yr hydref 2015 cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn adolygiad a oedd yn edrych ar ystod o feysydd ac a arweiniodd at adnabod nifer o opsiynau ar gyfer datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod Hydref 2015 i gasglu barnau am yr opsiynau a nodwyd ac i wahodd syniadau eraill; rhoddir manylion am yr ymgynghoriad ym mharagraff 3.2 yr adroddiad. Er nad oes unrhyw opsiwn clir a ffefrir wedi ymddangos o’r atebion hyn, roedd tystiolaeth y byddai’n fanteisiol i geisio cyfleoedd ar gyfer modelau cefnogaeth gymunedol, yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol neu ddarparwyr amgen i weithio gyda’r Cyngor i gynnal y gwasanaeth yn hytrach nag unrhyw berygl o ddileu’r gwasanaeth.

 

Mae Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell yn cyflwyno model a ffefrir o ran ymgynghori a gafodd ei datblygu er mwyn ymateb i’r heriau a’r anghenion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nodwyd barn preswylwyr, sydd wedi eu crynhoi ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, a’u hymgorffori yn y strategaeth ddrafft. Mae’r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell ac yn amlinellu fframwaith ddarparu sydd â’r nod o gwrdd ag anghenion y Safonau Llyfrgell ac anghenion cwsmeriaid y gwasanaeth. Wrth wraidd y weledigaeth, mae chwe nod craidd sy’n cael eu disgrifio ym mharagraff 5.2 yr adroddiad. Mae’r strategaeth ddrafft yn argymell symud i batrwm o ddarpariaeth yn seiliedig ar Lyfrgelloedd Ardal; Llyfrgelloedd a Gefnogir gan y Gymuned dan arweiniad yr Awdurdod, Gwasanaethau Symudol a phwyntiau Mynediad posibl yn y Gymuned (yn ddibynnol ar ddosbarthiad y ddwy haen gyntaf). Cynhwysir gwybodaeth bellach ar sut y byddai’r ddarpariaeth dair haen arfaethedig yn gweithio’n ymarferol ym mharagraff 5.4 yr adroddiad. Fodd bynnag, er bod papurau amrywiol wedi eu paratoi a’u trafod mewn perthynas â darparu’r Gwasanaeth Llyfrgell yn Ynys Môn, nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud ynglŷn â’i ddyfodol.

Cynhaliwyd Asesiad Cydraddoldeb ac Anghenion (AECA) ar gyfer Llyfrgelloedd sydd yn asesu’r angen am y gwasanaeth ac effaith unrhyw newidiadau arfaethedig ar y boblogaeth a all fod yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth. Wrth ddatblygu’r cynigion ar gyfer Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ystyriwyd y materion a restrir ym mharagraff 6.2 yr adroddiad yn ogystal  dangosyddion eraill fel rhan o’r AECA. Mae’r AECA ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell yn parhau i fod yn ddogfen fyw a bydd canfyddiadau’r broses ymgynghori ar y Strategaeth ddrafft yn cael eu bwydo i mewn fel y bo’n briodol.

 

O ran ystyriaethau ariannol, oherwydd y newidynnau posibl yn nhermau’r model darpariaeth terfynol o fewn y Strategaeth, mae’r arbedion a ddangosir yn Adran 7 yn cynrychioli’r ddau begwn o fewn y strategaeth h.y. y sefyllfa gyda’r lefel uchaf o gefnogaeth gan y gymuned lle mae pob Llyfrgell a Gefnogir gan y Gymuned dan Arweiniad yr Awdurdod yn llwyddiannus, a’r sefyllfa lle ceir y lefel isaf o gefnogaeth gan y gymuned lle na fu modd cael cefnogaeth y gymuned sydd yn arwain i lyfrgelloedd Haen 3 yn cau (5 llyfrgell). Dengys y tabl ym mharagraff 7.3 yr arbedion posib os cedwir y lefelau staffio o fewn y gwasanaeth, ond gyda strwythur staffio gwahanol sydd felly’n lliniaru’r effaith ar Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dengys y tabl ym mharagraff 7.4 yr arbedion posibl os na fydd lefelau staffio yn cael eu cadw o fewn y gwasanaeth. Mae Atodiad 4 yr adroddiad yn amlinellu’r costau hyn yn fanylach.

 

Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddrafft ac i hwyluso trafodaethau â phartïon a chanddynt ddiddordeb. Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus bydd yr Aelod Portffolio yn cyflwyno Strategaeth Derfynol y Gwasanaeth Llyfrgell i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer penderfyniad terfynol yn Hydref 2017.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar gan y Swyddogion a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â’r cynnydd a wnaed yn sgil ymgynghori â Chynghorau Tref a Chymuned a lefel y diddordeb a fynegwyd hyd yma gan y cynghorau cymuned ynglŷn â chydweithio gyda’r Cyngor i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell yn y cymunedau. Dywedodd y Cydgysylltydd Dysgu Gydol Oes fod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned wedi derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r Gwasanaeth, un ai yn unigol neu mewn cyfarfodydd cyhoeddus, a nododd bod nifer wedi derbyn y gwahoddiad. Mae trafodaethau yn parhau gyda nifer o gynghorau, gyda rhai wedi mynegi diddordeb ac eraill yn cymryd camau i sefydlu trefniadau mwy ffurfiol. Mae sefyllfa pob cyngor tref a chymuned yn wahanol ac mae’r datblygiadau o ran y trafodaethau’n adlewyrchu’r sefyllfa honno. Yn ogystal, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i ymgysylltu â’r holl gynghorau cymuned ac awgrymwyd bod angen ailgysylltu â’r cynghorau sydd heb ymateb hyd yma.

           Mewn perthynas â’r tabl ar dudalen 8 yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb sy’n dangos data’n ymwneud â’r defnydd a wneir o lyfrgelloedd sefydlog ar yr Ynys, nododd y Pwyllgor y gellid egluro’r wybodaeth a ddarperir er mwyn adlewyrchu beth yn union a gynhwysir, ac na chynhwysir, yn y gost fesul ymweliad. Byddai hyn yn rhoi darlun llawn mewn modd sy’n hawdd i’w ddeall.

           Nododd y Pwyllgor bod yr ymgynghoriad a’r camau ymgysylltu a gynhaliwyd hyd yma, yn ogystal â’r Asesiad Effaith ac Anghenion, wedi bod yn drylwyr, yn gynhwysfawr ac yn gynhwysol ac yn adlewyrchu ymateb meddylgar ac ymatebol i farn y cyhoedd a fynegwyd drwy gyfrwng y prosesau hynny, ac roedd y Pwyllgor yn eu cymeradwyo.

           Nododd y Pwyllgor bod nifer o aelodau Sgriwtini wedi bod yn rhan o’r broses o adolygu darpariaeth y Gwasanaeth Llyfrgell a datblygu’r cynigion drwy’r Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd, y Gwasanaeth Ieuenctid, Amgueddfeydd a Diwylliant. O ganlyniad, mae sgriwtini wedi bod yn broses barhaus.

           Yn dilyn cwestiwn gan y Pwyllgor, cadarnhawyd y bydd y Strategaeth Derfynol ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell 2017/22 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

PENDERFYNWYD –

 

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon bod y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes wedi ymgymryd â’r broses o ddatblygu Strategaeth ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell mewn modd sydd mor gynhwysfawr a chynhwysol â phosib.

           Yn ddibynnol ar eglurhad ar yr wybodaeth a ddarperir yn y tabl ar dudalen 8 yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb ac Anghenion (AECA), bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr AECA yn cynnwys pob grŵp ac nad oes ganddo unrhyw bryderon eraill ar y mater hwn.

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith i fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ac adrodd ar ei ganfyddiadau erbyn mis Tachwedd 2017.

 

DIM CAMAU PELLACH YN CODI

           

Dogfennau ategol: