Derbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE (Miss Bethan James) ar y canlynol:-
• Safonau Addysg Grefyddol
• Adnoddau Addysg Grefyddol
• Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes
• Astudiaethau Crefyddol a TGAU/Safon Uwch
• Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn
Cofnodion:
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ddiweddariad ar y canlynol: -
Safonau mewn Addysg Grefyddol
Cyfeiriwyd at ganlyniadau arholiadau TGAU, Lefel Uwch a Lefel Uwch Gyfrannol mewn Astudiaethau Crefyddol yn y sector uwchradd yn Ynys Môn yn Haf, 2016, fel a ganlyn: -
TGAU
• 128 o ymgeiswyr o 5 ysgol ym Môn;
• Dyfarnwyd gradd A * / A i 45.3% o ymgeiswyr am yr ail flwyddyn yn olynol;
• Enillodd 84.3% o ymgeiswyr gymhwyster Lefel 2 (A *-C), sef cynnydd o +2.3% ers 2015;
• Methodd 2 ymgeisydd ag ennill cymhwyster Lefel 1 (1.6%);
• Mae merched yn fwy tebygol o ddewis addysg grefyddol fel pwnc na bechgyn (B: 34: G: 94);
• Mae'r gwahaniaeth rhwng perfformiad bechgyn a merched ar y lefelau uwch yn fychan iawn A * / A (1.6%), L2 (1.7%). Nid yw perfformiad bechgyn mewn Astudiaethau Crefyddol cystal â pherfformiad merched yn L1 (-5.9%) am y tro cyntaf mewn 6 blynedd;
• Dim ond 4 disgybl a safodd yr arholiad cwrs byr TGAU yn Ynys Môn.
‘Roedd Ynys Môn wedi perfformio'n dda mewn arholiadau TGAU o gymharu â'r 6 awdurdod arall yng Ngogledd Cymru.
Canlyniadau Safon Uwch
• 54 o ymgeiswyr o 4 ysgol yn Ynys Môn;
• Dyfarnwyd gradd A * / A i 13.0% o ymgeiswyr
• Enillodd 74.1% o ymgeiswyr radd A-C.
‘Roedd canlyniadau a pherfformiad Safon Uwch yn Ynys Môn yn debyg i weddill Gogledd Cymru.
Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol
• 11 o ymgeiswyr o 5 ysgol yn Ynys Môn;
• Dyfarnwyd gradd A * / A i 9.1% o ymgeiswyr
• Enillodd 36.4% o ymgeiswyr gymhwyster A-C.
Y ganran o ddisgyblion a enillodd raddau A-E yng Ngogledd Cymru oedd 78.9%, sy'n codi cwestiwn ynghylch a yw disgyblion yn derbyn yr arweiniad cywir cyn dychwelyd i'r ysgol i gymryd y cwrs Uwch Gyfrannol, neu ynghylch eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod Cynnal yn datblygu e-gylchgrawn Addysg Grefyddol ar hyn o bryd ar gyfer plant yng Nghyfnod Allweddol 3 trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r erthyglau’n cael eu paratoi bob tymor gan dri awdur o gefndir AG. Mae Miss Bethan James a Mrs Mary Parry, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yng Nghaerfyrddin, yn ymgynghorwyr allanol. Thema'r rhifyn cyntaf, a lansiwyd yn yr hydref 2016, oedd 'Rhoi Organau', a thema’r ail rifyn yn y gwanwyn fydd 'Ffoaduriaid'.
Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Gydol Oes
Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y Panel Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol (Cymru) (PYCAG) yn gweithio ar ddiffinio 'beth yw Addysg Grefyddol dda?' Lluniwyd cyfres o ddatganiadau fel rhan o'r ddogfen waith ddrafft i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr Athro Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus'. Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfredol yn dod i ben, a bydd yn cael effaith ar y Maes Llafur Cytûn yn Ynys Môn. Adolygir y Maes Llafur bob pum mlynedd, ond ar hyn o bryd, mae'r adolygiad wedi cael ei ohirio hyd nes y ceir gwybodaeth bellach am y 'Cwricwlwm ar gyfer Cymru' newydd. Mae'r PYGAC wedi ceisio llunio cyfres o ddatganiadau a fydd yn glir ac yn hawdd i'w deall i bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y maes Addysg Grefyddol.
Nodwyd bod y datganiadau PYGAC yn ddogfennau gweithio sy’n esblygu ac y gellir eu newid.
Holodd yr Ymgynghorydd Her GwE sut y gall addysg grefyddol gyfrannu at y pedwar diben canlynol o fewn gweithgareddau a gynlluniwyd yn dda ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, sy'n ceisio datblygu:
• Dysgwyr galluog, uchelgeisiol sy'n barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau;
• Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
• Dinasyddion gwybodus, moesegol sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd;
• Unigolion hyderus, iach sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.
Nodwyd y dylai pob ysgol weithio gyda'i gilydd tuag at yr un nod.
Astudiaethau Crefyddol a TGAU / Lefel Uwch
Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE mai Mrs Mefys Edwards yw’r Ymarferydd Rhanbarthol Arweiniol ar gyfer Adrannau AG yng Ngogledd Cymru, ac y bydd yn gweithio gydag athrawon AG eraill yn y sector uwchradd ar draws y rhanbarth i greu adnoddau i gynorthwyo gyda gweithredu’r fanyleb newydd ar gyfer TGAU Addysg Grefyddol. Bydd CBAC yn darparu hyfforddiant i athrawon ar y fanyleb. Mae Mrs Edwards a'i thîm wedi trefnu i gyfarfod ar 29 Mawrth i weithio gyda'i gilydd.
Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn
Gohiriwyd yr eitem hon i gael copi o'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Gweithredu:
Cynnwys Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cytunwyd i nodi'r diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE.