Eitem Rhaglen

Adroddiad cynnydd Safonau Addysg

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

 

Nododd y Pennaeth Dysgu mai prif ddiben yr adroddiad yw trafod y cynnydd o ran safonau ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16. Disgwylir y bydd Ynys Môn yn 10fed allan o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru o ran y dangosyddion perfformiad a nodir gan Estyn.

 

Rhoddodd Mr. Elfyn V. Jones, - Uwch Ymgynghorydd Her gyda GwE, drosolwg o berfformiad yr awdurdod lleol yn y cyfan o’r cyfnodau allweddol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru.

 

Asesiad Cyfnod Sylfaen

 

Mae’r prif ddangosydd ar gyfer y cyfnod allweddol Sylfaen yn siomedig gan fod Ynys Môn wedi disgyn yn is na’r targed ym mhob categori o gymharu â’r lefelau perfformiad Cenedlaethol; mae hyn yn gosod yr awdurdod lleol yn llawer is na’r disgwyl ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16. Fodd bynnag, nododd na chafodd y lefelau targed hyn eu hamlygu fel pryderon yn ystod Archwiliadau Estyn.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y data a gyflwynwyd i’r Pwyllgor a nododd fod

Ysgolion Môn, yn y cyfnod Sylfaen yn 21ain allan o 22 awdurdod lleol mewn

perthynas â’r Iaith Gymraeg. Mynegodd bryder am ddilysrwydd yr asesiad.

Dywedodd y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod asesiadau diwedd cyfnod sylfaen yn ddilys ac yn ddibynadwy.

 

Asesiad Cyfnod Allweddol 2

 

Mae perfformiadau cyfnod allweddol 2 yn is nac yn 2015 ond mae dal 2.7% yn uwch na’r targedau a osodwyd gydag Ynys Môn yn 9fed o’r holl awdurdodau yng Nghymru.

 

Asesiadau Cyfnod Allweddol 3 a 4

 

Mae perfformiad cyfnod allweddol 3 yn uwch yn Ynys Môn na’r meincnod yng

Nghymru a osodir gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae yna agweddau cadarnhaol o ran perfformiad cyfnod allweddol 4 ar Ynys Môn ond mynegodd yr Uwch Ymgynghorydd Her siom yn gyffredinol gan fod yr ysgolion uwchradd mewn safle ychydig yn is yn y rhan fwyaf o ddangosyddion allweddol gan fod y cynnydd cenedlaethol wedi bod yn uwch.

 

Does dim un o’r 5 ysgol uwchradd yn Ynys Môn wedi cyflawni’r trothwy o 70% uwchben y prif ddangosyddion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag fe gyflawnodd 3 ysgol uwchradd hyn mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.

 

Codwyd y materion canlynol gan yr Aelodau:-

 

Cyfeiriodd y cwestiynau at y ffaith y cafodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016, sicrwydd y byddai prosesau ar gyfer asesu plant mewn ysgolion a safoni data yn cael eu rhoi mewn lle ac y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i athrawon er mwyn codi safonau yn ysgolion yr Ynys. Ymatebodd yr Uwch Ymarferydd Her gan ddweud bod Ymgynghorwyr Her bellach yn gweithio’n wahanol gydag ysgolion er mwyn gwella safonau o fewn y gwahanol gamau allweddol. Mae’r unigolion hyn yn hyfforddi athrawon ar hyn o bryd ac maent wedi eu hawdurdodi i ymweld ag ysgolion yn amlach er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd wedi’u hadnabod. Cynhaliwyd trafodaethau gyda Phenaethiaid o ran y targedau disgwyliedig sydd wedi’u sefydlu eleni ac mae rhaglen heriol fwy cadarn wedi’i sefydlu er mwyn gwella perfformiad yn y lefelau cyfnod allweddol. Nododd y Pennaeth Dysgu hefyd bod gwelliannau yn digwydd yn raddol a bod ysgolion a Phenaethiaid ac Aelodau Etholedig fel rhan o’u rôl fel llywodraethwyr ysgolion hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod safonau’n gwella yn yr ysgolion.

 

Codwyd cwestiynau am faint dosbarthiadau ac a yw athrawon yn cael digon o amser i gynllunio/paratoi ar gyfer gwersi ac a oes diffyg capasiti o fewn timau rheoli ysgolion yr Ynys er mwyn galluogi blaen-gynllunio. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu y gall y llwyth gwaith fod yn fwy heriol i’w reoli ar gyfer Penaethiaid sydd ag ond ychydig neu ddim amser di-gyswllt mewn ysgolion llai a lle hefyd y byddant yn dysgu dau neu dri grŵp blwyddyn yn yr un ystafell ddosbarth. Nododd y Pennaeth Dysgu hefyd bod disgwyliad yn amodau a thelerau gwaith athrawon bod pob athro/athrawes yn derbyn 10% o oriau di-gyswllt ar gyfer Cynllunio, Paratoi ac Asesu ac y dylent dderbyn hyn bob wythnos; nid oedd yn ymwybodol nad oedd hyn yn digwydd mewn unrhyw ysgol ar yr Ynys.

 

Codwyd cwestiynau o ran a yw arferion gorau’n cael eu rhannu rhwng yr ysgolion sy’n perfformio orau ac ysgolion eraill nad ydynt o anghenraid yn cyflawni yn ôl y disgwyl. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod proses yn ei lle er mwyn i staff mewn ysgolion sy’n tanberfformio allu rhannu arferion gorau yr ysgolion sy’n perfformio’n well a hynny o fewn rhaglen hyfforddiant a hyfforddi o dan arweiniad GwE;

 

Codwyd cwestiynau am yr anawsterau a brofwyd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wrth geisio penodi Arweinwyr/Penaethiaid o fewn ysgolion a gofynnwyd sut mae’r Awdurdod hwn yn mynd ati i geisio datrys y broblem. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod trafodaethau wedi eu cynnal â chynrychiolwyr GwE er mwyn adnabod yr unigolion hynny sydd wedi dangos potensial a thalent i allu bod yn arweinwyr ysgolion, pan fydd cyfleoedd yn codi. Mae unigolion sydd â photensial mewn ysgolion eisoes wedi eu hadnabod ac ar hyn o bryd, mae’r awdurdod lleol wrthi’n llunio rhaglen, mewn cydweithrediad â GwE, er mwyn mentora’r unigolion hynny a sicrhau bod ganddynt y sgiliau rheoli ac arwain angenrheidiol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, bod cyfrifoldeb arnynt fel Llywodraethwyr Ysgolion, i sicrhau bod disgyblion yn cael yr addysg gorau bosibl a bod yn rhaid i lywodraethwyr hefyd fod yn barod i herio perfformiad ysgolion. Cwestiynodd sut mae GwE yn delio â’r broblem o wneud ysgolion yn fwy rhagweithiol o ran mynd i’r afael â thanberfformiad. Nododd y Pennaeth Dysgu bod 3 ysgol a oedd yn tanberfformio y llynedd wedi defnyddio 40% o’r adnodd gwella ysgolion GwE yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rhoddodd yr Uwch Ymarferydd Her enghraifft o’r rhaglen waith a sefydlwyd gan GwE ar gyfer 3 ysgol a gafodd eu hadnabod fel rhai categori coch/melyn o system gategoreiddio newydd Llywodraeth Cymru, rhai yr oedd y Pwyllgor Sgriwtini wedi eu harchwilio ym mis Hydref 2016. Mae GwE yn rhoi i Benaethiaid raglenni hyfforddiant a chyflwyniadau, maent yn craffu ar waith ysgolion ac yn gwahodd ysgolion sy’n perfformio’n dda i rannu arferion da drwy hyb Gwynedd a Môn. Nododd fod croeso i unrhyw Aelod Etholedig gysgodi Ymgynghorydd Her mewn ymweliad ag ysgol a oedd angen cefnogaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: