Eitem Rhaglen

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd) - Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Nododd y Rheolwr Datblygiad Economaidd y sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) er mwyn cydlynu’n well y datblygiad economaidd strategol ar sail ranbarthol mewn ymateb i’r pwysau ar arian cyhoeddus. Mae cydlyniant a darpariaeth rhanbarthol o ran cyflogaeth a sgiliau yn un o’r meysydd allweddol ar gyfer yr NWEAB. Mae Llif Gwaith Sgiliau a Chyflogaeth yr NWEAB wedi eu mabwysiadu a’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru fel un o’i dair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ledled Cymru.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Iwan Thomas, Rheolwr Rhaglen RhanbartholSgiliau a Chyflogaeth o’r NWEAB i’r cyfarfod. Rhoddodd Mr Iwan Thomas gyflwyniad i’r cyfarfod ar Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Tynnodd sylw at y ffaith mai nod yr NWEAB yw gwella a diweddaru cronfa sgiliau’r ardal a datblygu cyflogaeth yng Ngogledd Cymru. Gyda’r cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael ar yr Ynys dros y deng mlynedd nesaf, bydd angen i gyflogwyr gael cymorth pellach er mwyn gyrru darpariaeth sgiliau sy’n ymateb i’w hanghenion. Bydd y rhai hynny sy’n chwilio am waith angen y sgiliau er mwyn cael mynediad i gyflogaeth gynaliadwy, tra bydd y rhai hynny sydd mewn gwaith angen cymorth pellach er mwyn gallu datblygu eu potensial i allu cystadlu am gyfleoedd cyflogaeth mewn gwahanol brosiectau mawr a fydd yn cael eu sefydlu ar yr Ynys h.y. y sector ynni ac amgylchedd, uwch weithgynhyrchu, adeiladwaith, sectorau creadigol a digidol, gofal iechyd a chymdeithasol, twristiaeth a lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.

 

Nododd Mr. Thomas yr heriau rhanbarthol canlynol a oedd yn bodoli o ran sgiliau a chyflogaeth:-

 

Cyflogwyr i fynd i’r afael â chynllunio olyniaeth yn ogystal â gweithlu sy’n heneiddio mewn sectorau allweddol;

Cadw pobl ifanc mewn cyflogaeth gynaliadwy o fewn y rhanbarth wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau;

Datblygu model broceriaeth sgiliau rhanbarthol yn seiliedig ar yr hyn a ddarparwyd wrth adeiladu Carchar Gogledd Cymru.

Cynyddu’r niferoedd sy’n astudio pynciau STEM a hyrwyddo’r pynciau hynny a sicrhau bod gan bobl sgiliau sy’n cyd-fynd â gofynion cyflogwyr;

Darparu datrysiadau sgiliau rhanbarthol ar gyfer prosiectau trawsnewid ochr yn ochr â hyrwyddo agosrwydd lleol;

Cefnogi datblygiad cynaliadwy ac arloesedd yn ein sectorau twf er mwyn darparu llwybrau gyrfa deniadol.

 

Cododd yr Aelodau y materion canlynol:-

 

Mae angen annog pobl ifanc sydd wedi gadael Ynys Môn i fynd i Brifysgolion a Cholegau i ddychwelyd ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth posibl a fydd ar gael yng Ngogledd Cymru ac Ynys Môn;

Mae angen cynnwys Cymunedau’n Gyntaf Môn yn y rhestr o bartneriaid allweddol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru;

Mae angen i Ffeiriau Gyrfa mewn ysgolion uwchradd roi cyngor i ddisgyblion am y pynciau sydd angen iddynt eu hastudio er mwyn gallu cystadlu am y cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael yng Ngogledd Cymru;

Tra bod angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod pynciau STEM yn bwysig a gyfer datblygwyr mawr yng Ngogledd Cymru, mae angen tynnu sylw at bynciau busnes hefyd h.y. Adnoddau Dynol, Gweinyddiaeth, Cyfreithiol, Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Twristiaeth a Lletygarwch;

Mae angen gwarchod cwmnïau lleol pan fydd prosiectau mawr posibl yn dod i’r amlwg yng Ngogledd Cymru. Mae’n anorfod y bydd cwmnïau yn colli gweithwyr medrus i gyflogwyr mawr.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Cefnogi’r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ac i gefnogi’r cyflenwad o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer twf economaidd yn Ynys Môn a Gogledd Cymru yn y dyfodol;

Y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini ymhen deuddeg mis yn eu diweddaru ar berfformiad y Cynllun Sgiliau Rhanbarthol o ran y buddion a’r effeithiau ar drigolion Ynys Môn;

Bod angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o bynciau busnes o gymharu â phynciau STEM mewn perthynas â chyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: