Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Refeniw Chwarter 3 2016/17

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 3 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer trydydd chwarter 2016/17 ynghyd â'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir yn Chwarter 3 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £16k a bod hynny’n welliant sylweddol o gymharu â’r sefyllfa a ragwelwyd yn ystod chwarter 2. Fodd bynnag, rhagwelir gorwariant o £756k (0.70%) ar wasanaethau erbyn 31 Mawrth, 2017, gyda’r amrywiadau mwyaf arwyddocaol yn digwydd yng nghyllidebau’r Adran Dysgu Gydol Oes a’r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, lle rhagwelir gorwariant o £700k a £718k yn y drefn honno. Rhagwelir tanwariant ar gyllid cyfalaf o ganlyniad i gostau benthyca is gan fod yr Awdurdod wedi bod yn defnyddio arian dros ben ei hun yn hytrach na benthyca’n allanol ar y rhaglen gyfalaf. Hefyd, mae'r ffordd o rannu’r costau wedi ei diwygio fel bod y Cyfrif Refeniw Tai yn ysgwyddo cyfran uwch o daliadau llog gan leihau'r costau i Gronfa'r Cyngor. Mae’r newid hwn yn ceisio rhannu’r costau’n decach rhwng y Cyfrif Refeniw Tai a Chronfa’r Cyngor; nid yw'n cynyddu’r risg i'r Cynllun Busnes ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai sydd wedi'i baratoi ar y sail diwygiedig. Mae hyn wedi creu arbediad untro sydd wedi cyfrannu tuag at gyflawni  cyllideb gytbwys yn 2016/17 ac fe’i cymerwyd i ystyriaeth wrth osod cyllideb 2017/8. Ni fydd y glustog hon ar gael yn 2017/18 ac felly gallai unrhyw orwariant gan wasanaethau yn ystod 2017/18 fod yn broblem. Er y gallai'r sefyllfa bresennol newid yn Chwarter 4 wrth i bwysau galwadau barhau yn y Gwasanaethau Plant ac yn sgil lleoliadau all-sirol arbenigol yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, oherwydd y bydd cyfnod y gaeaf a'r costau ychwanegol a all ddod yn ei sgil wedi pasio erbyn hynny,  rhagwelir gorwariant bychan erbyn diwedd y flwyddyn a gellir defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i’w gyllido.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor y gorwariant yn y Gwasanaethau Plant, yn arbennig felly mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â’r gorwariant yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â lleoliadau all-sirol arbenigol. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar strategaeth liniaru’r Awdurdod i ddelio â'r pwysau ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig mewn cyd-destun lle mae cyllidebau awdurdodau lleol yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod y pwysau ar y cyllidebau gwasanaeth hyn yn broblem genedlaethol. Mae canlyniadau eraill o fewn y gyllideb gyffredinol wedi bod yn ffafriol ac felly llwyddwyd i leihau effaith gorwariant y gwasanaethau hyn. Fodd bynnag, bydd y pwysau ar y ddau wasanaeth hyn yn parhau a gallai waethygu oni bai y gellir rheoli’r galw. I'r perwyl hwnnw, buddsoddir mwy mewn gwasanaethau ataliol e.e. Tîm Trothwy Gofal yn y Gwasanaethau Plant i ddarparu ymyrraeth gynnar os oes ei angen er mwyn rhwystro achosion rhag gwaethygu a dod i mewn i'r system gofal statudol lawn lle mae'r costau’n uchel. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr  Gwasanaethau Cymdeithasol fod y costau sy'n gysylltiedig â Phlant sy'n Derbyn Gofal wedi sefydlogi dros y 6 i 9 mis diwethaf. Mae’r prif fater yn ymwneud â nifer fach o achosion sy'n cynnwys pobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi bod ar gyrion y system ofal, sef pobl ifanc y gallai cwrdd â’u hanghenion arwain yn hawdd at orwariant ac y gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iddynt pe byddid wedi ymyrryd yn gynt.

           Nododd y Pwyllgor mai dim ond 80.9% o'r arbedion sydd wedi eu cyflawni neu y credir y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn a bod hynny’n awgrymu bod cyfraniad arbedion i sicrhau cyllideb gytbwys wedi'i oramcangyfrif. Holodd y Pwyllgor felly ai rhywbeth ffodus oedd cyflawni cyllideb gytbwys yn 2016/17 oherwydd bod ffactorau eraill wedi gweithio o blaid yr Awdurdod; holodd y Pwyllgor hefyd a oedd cyflawni cyllideb gytbwys yn 2016/17 yn ddangosydd dibynadwy ynddo’i hun o ran pa mor wydn yw cyllideb 2017/18 o gofio’r galw a’r pwysau parhaus ar gyllidebau gwasanaeth, yn enwedig cyllideb y Gwasanaethau Plant a'r gyllideb ar gyfer lleoliadau all-sirol yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod gwasanaethau yn bennaf yn edrych ar y llinell waelod a'i bod yn anodd asesu sut y byddai sgriwtineiddio arbedion penodol yn gallu ychwanegu gwerth os yw gwasanaethau yn llwyddo i gydbwyso eu cyllidebau. Mae rhai ffactorau sydd y tu allan i reolaeth y gwasanaethau, e.e. grŵp o blant sydd angen lleoliadau addysgol all-sirol arbenigol yn dod i mewn i'r system yn Chwarter 3 gan achosi mater na allai'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes fod wedi ei ragweld na chynllunio ar ei gyfer.  O safbwynt y Pwyllgor, dylai fedru cymryd sicrwydd o’r ffaith bod balans y Gronfa Gyffredinol yn cael ei gynnal ar lefel briodol a’i fod yn darparu hyblygrwydd a lliniariad mewn perthynas ag ymateb i bwysau cyllidebol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau)  fod y gwasanaethau hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â'r heriau ariannol parhaus drwy adolygu trothwyon a thrwy edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'u comisiynu a thrwy drawsnewid y ffordd y mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu. Yn achos Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, rhaid edrych ar y rhesymau dros gomisiynu lleoliadau all-sirol cost uchel er mwyn sefydlu a oes modd cwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn  effeithiol ac yn ddiogel mewn ffordd arall sy’n fwy effeithlon.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r perfformiad ariannol ar ddiwedd Chwarter 3 fel y nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: