Eitem Rhaglen

AGGCC: Adroddiad Arolwg Gwasanaethau Plant Tachwedd 2016 - Cyngor Sir Ynys Môn

·        Cyflwyno adroddiad arolwg  AGGCC o Wasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn .

 

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro yn ymgorffori Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant.

 

 

Cofnodion:

3.1       Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor, adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar ganlyniadau’r arolygiad o’r gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016.

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Bobbie Jones, Arolygydd Arweiniol ar gyfer yr arolygiad a Mr Marc Roberts, aelod o dîm Arolygu Rhanbarthol AGGCC i’r cyfarfod ac fe’u gwahoddwyd i gyflwyno eu canfyddiadau yn deillio o’r arolygiad o Wasanaethau Plant yn y Cyngor.

 

Adroddodd Ms Bobbie Jones, yr Arolygydd Arweiniol, bod yr arolwg wedi’i gynnal fel rhan o raglen arolygu graidd AGGCC a’i fod yn canolbwyntio ar ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer plant sydd angen cymorth, gofal a chefnogaeth a/neu eu diogelu. Edrychodd y tîm arolygu’n ofalus ar wasanaethau ataliol yn cynnwys trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth; llwybr unigolion at y gwasanaethau gofal a chefnogaeth, ac yn benodol mynediad at y gwasanaethau ataliol a statudol a’r cyswllt rhwng y gwasanaethau hyn ac unrhyw faterion diogelu sy’n codi. Roedd yr arolygwyr hefyd yn gwerthuso sut oedd y Cyngor yn asesu ei berfformiad a pha wahaniaeth yr oedd yn ei wneud i’r unigolion yr oedd yn ceisio eu cynorthwyo, gofalu amdanynt a’u cefnogi a/neu eu diogelu. Edrychwyd hefyd ar sut oedd y Cyngor wedi dechrau gweithredu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Er mai ansawdd y ddarpariaeth oedd prif ffocws yr arolygiad, edrychodd yr arolygwyr hefyd ar elfennau sy’n cefnogi’r ddarpariaeth yn cynnwys trefniadau’r Cyngor ar gyfer arwain, rheoli a llywodraethu’r gwasanaethau Plant.

 

Methodoleg

 

Cynhaliwyd y gwaith maes dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Tachwedd 2016; cynhaliwyd adolygiad achos; cyfweliadau â staff, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau partner, siaradwyd â phlant a’u teuluoedd lle bynnag roedd hynny’n bosib a gydag aelodau etholedig; arsylwyd ar ymarfer, cynhaliwyd arolwg staff, adolygwyd cwynion a chofnodion gwerthuso staff.

 

Canfyddiadau – Mynediad a Diogelu

 

Meysydd oedd yn cael eu gwneud yn dda

 

           Roedd trefniadau mynediad at y gwasanaethau wedi eu sefydlu ac yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Ni welodd yr arolygwyr unrhyw enghreifftiau lle'r oedd mater diogelu brys angen sylw neu lle'r oedd plentyn wedi ei roi mewn perygl.

           Derbyniodd plant a oedd yn amlwg mewn perygl sylw prydlon ac ymatebol

           Gwelwyd rhai enghreifftiau o ymarfer gwaith cymdeithasol da

           Roedd gweithwyr cymdeithasol yn gyson yn eu hymdrechion i wireddu dymuniadau a theimladau’r plant

 

Meysydd ble cafodd gwendidau eu nodi

 

           Nid oedd y gwasanaethau Ataliol a gwybodaeth, cyngor a chymorth wedi datblygu’n ddigonol

           Nodwyd bod nifer fawr o atgyfeiriadau yn ogystal ag atgyfeiriadau a oedd o ansawdd gwael

           Roedd trothwyon mynediad at wasanaethau’n anghyson, ac nid oeddent yn cael eu rhannu’n ddigonol â phartneriaid neu nid oedd ganddynt ddealltwriaeth ddigonol ohonynt

           Roedd diffyg capasiti staff

           Roedd ansawdd a phrydlondeb ymateb i ymholiadau diogelu plant yn anghyson

           Roedd oedi o ran gweithredu trafodaethau strategaeth neu ddiffyg ymwneud gan rai partneriaid

           Nid oedd asesiadau bob amser yn rhoi sylw i ddadansoddi risg

           Roedd amrediad y gwasanaethau a’r adnoddau yn annigonol

           Roedd arolygiaeth y rheolwyr o drefniadau mynediad yn annigonol

 

Canfyddiadau – Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Llywodraethu

 

Meysydd oedd yn cael eu gwneud yn dda

 

           Roedd gweledigaeth glir ar gyfer gwella trefniadau diogelu a hybu gwasanaethau sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd i fod yn wydn ac i fyw bywyd annibynnol

           Roedd y gweithlu’n ymrwymedig i sicrhau canlyniadau da ar gyfer plant a theuluoedd

           Roedd lefel dda o gefnogaeth wleidyddol i Wasanaethau Plant

           Mae mwy o fuddsoddiad yn y Gwasanaethau Plant

           Diwylliant o gefnogaeth a dysgu

           Cydnabyddiaeth glir o’r heriau sy’n wynebu Gwasanaethau Plant

           Ymrwymiad i wella

 

Meysydd ble cafodd gwendidau eu nodi

 

           Nid yw’r cyfeiriad strategol ar gyfer y Gwasanaethau Plant wedi’i drosi i mewn i strategaeth ar gyfer darparu gwasanaethau a oedd wedi’i ddosbarthu i’r gweithlu neu ei rhannu â phartneriaid allweddol

           Nid oedd lleisiau plant a theuluoedd yn cael eu casglu’n ddigonol na’u defnyddio i lywio datblygiad y gwasanaeth

           Roedd dealltwriaeth annigonol o arferion a pherfformiad

           Ni ddefnyddiwyd trefniadau comisiynu yn effeithiol i hyrwyddo’r effaith fwyaf cadarnhaol ar ganlyniadau i blant a theuluoedd

           Roedd cyflymder newid a gwelliant yn araf

           Roedd rhwystrau o ran recriwtio a chadw gweithlu medrus, galluog, cymwys a phrofiadol

           Roedd trefniadau goruchwylio staff yn annigonol ac yn aml o ansawdd wael

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol nad oedd y tîm arolygu wedi cael yr argraff o gwbl bod diffyg ymrwymiad neu frwdfrydedd i wella ar ran y Cyngor; teimlai’r arolygwyr bod eu cyfraniadau’n cael eu croesawu ac roedd hyn yn rhoi gobaith iddynt y bydd y gwelliannau cychwynnol o fewn y Gwasanaethau Plant yn cael eu cynnal yn y tymor hir. Amlinellodd yr Arolygydd Arweiniol y camau gweithredu y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt ar unwaith a’r camau y dylid eu cymryd wedi hynny yn ystod y 12 i 18 mis nesaf. Mae’r blaenoriaethau sydd angen sylw ar unwaith yn cynnwys datblygu fframwaith cadarn ar gyfer gwasanaethau ataliol; cryfhau trefniadau gweithio aml-asiantaethol mewn perthynas â throthwyon a sicrhau ansawdd; sicrhau y rhoddir sylw prydlon i ymholiadau diogelu plant a bod asiantaethau partner yn rhan o’r broses, a datblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu er mwyn rhoi sylw i faterion recriwtio, cadw a goruchwylio staff. Y cam nesaf felly fyddai i’r Awdurdod gyhoeddi ei gynllun gwella mewn ymateb i’r arolygiad. Cadarnhaodd y byddai Mr Marc Roberts yn monitro cynnydd Cynllun Gwella’r Cyngor. Bydd AGGCC yn cynnal arolygiad pellach ymhen 12 i 18 mis.

 

Ystyriodd y Pwyllgor a’r Aelodau eraill a oedd yn bresennol y wybodaeth a gyflwynwyd drwy gyfrwng adroddiad ysgrifenedig AGGCC a’r cyflwyniad a roddwyd gan yr Arolygydd Arweiniol a chodwyd y materion a ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor bod adroddiad yr AGGCC yn cyfeirio at yr angen i sicrhau gwelliant sylweddol o fewn y Gwasanaethau Plant mewn cyfnod byr. Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i AGGCC, gofynnodd y Pwyllgor pa mor gyraeddadwy yw hyn.

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol mai gweithredu’r argymhellion y mae angen rhoi blaenoriaeth iddynt yw’r allwedd i sicrhau gwelliant. Mae rheoli nifer yr atgyfeiriadau a sicrhau capasiti staff i wneud hynny yn hollbwysig. Mae gan y Cyngor yr adnoddau o ran sgiliau, gwybodaeth a brwdfrydedd i wella ac mae’n meddu ar weledigaeth o sut beth yw gwasanaeth da. Mae’r pryderon yn ymwneud â capasiti’r gweithlu i fedru gwneud newidiadau mor gyflym ag sydd eu hangen. Y cyngor fyddai i flaenoriaethu’n glir yr hyn sydd ar hyn o bryd yn Gynllun Gwella sylweddol ac i sicrhau hefyd fod iddo ffocws sy’n edrych allan, sy’n golygu ymgysylltu â sefydliadau partner a’u dal i gyfrif am ddarparu’r hyn y maent yn gyfrifol am ei ddarparu. Pan fydd y Gwasanaethau Plant yn cael eu harolygu eto ymhen 12 i 18 mis, byddai AGGCC yn disgwyl gweld cynnydd digonol i roi sicrwydd bod modd cyflawni gwelliant parhaus.

 

           Nododd y Pwyllgor bod AGGCC yn bwriadu ailymweld â’r Awdurdod ymhen 12 i 18 mis. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn ag a fyddai hynny’n golygu arolwg ac adroddiad llawn ynteu a fyddai’r arolwg yn canolbwyntio ar agweddau penodol o’r gwasanaeth. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad hefyd ynglŷn â sut mae AGGCC yn bwriadu monitro Cynllun Gwella’r Awdurdod.

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol y bydd ffurf yr ailymweliad yn dibynnu ar gyflymder y cynnydd a wneir, a bydd Marc Roberts yn asesu hyn drwy adolygiad perfformiad parhaus, monitro a phroses ymgysylltu. Nid yw’r AGGCC yn bwriadu ailymweld mewn llai na 12 mis oni bai bod Mr Marc Roberts yn adnabod agwedd o ymarfer sydd angen ei harchwilio; yn yr achos hwnnw cynhelir arolwg byr â ffocws pendant iddo, a chyhoeddir adroddiad. Barn yr Arolygwyr yw bod rhaid rhoi amser i’r Cyngor weithredu ei Gynllun Gwella heb darfu ar hynny drwy gynnal arolygiad yn rhy gynnar.

 

           Nododd y Pwyllgor bod adroddiad y Rheoleiddwyr yn cyfeirio at wendidau oddi fewn i sefydliadau partner; mae’r gwendidau hyn yn cael effaith sylweddol ar allu’r Gwasanaeth i berfformio’n well. Gofynnodd y Pwyllgor a yw AGGCC yn bwriadu trafod y gwendidau hyn yn uniongyrchol â’r partneriaid.

 

Cadarnhaodd yr Arolygydd Arweiniol bod y canfyddiadau mewn perthynas ag asiantaethau partner wedi eu trafod, ac y byddant yn cael eu trafod yn uniongyrchol â’r sefydliadau perthnasol. Mae’r gwendidau a nodwyd yn wendidau aml-asiantaethol. Er mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r asiantaeth arweiniol mewn perthynas â darparu gwasanaethau plant, ac yn arbennig trefniadau amddiffyn plant a diogelu, maent serch hynny yn gyfrifoldebau aml-asiantaethol. Mae’n bwysig felly bod yr holl sefydliadau partner eraill yn cyfrannu ac mae angen sicrhau bod pob un ohonynt yn atebol i’w gilydd am eu hymarfer. Mae trefniadau mewn lle drwy’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol i helpu i wella’r trefniadau partneriaeth hynny. Gall y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oll wneud gwelliannau mewn perthynas â darparu gwasanaethau ar gyfer plant yn Ynys Môn.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r Arolygiaeth o’r farn fod y Cynllun Gwella yn rhoi sylw i berthynas â phartneriaid a threfniadau cydweithio, yn arbennig gyda’r Heddlu.

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol ei bod yn annhebygol y bydd nifer yr atgyfeiriadau gan yr Heddlu’n lleihau yn ystod y 12 mis nesaf. Gan nad oes modd rhagweld pa mor gyflym y gellir gwneud gwelliannau aml-asiantaethol, mae angen i’r Cynllun Gwella edrych ar ba fath o drefniant blaenoriaethu y gellir ei sefydlu o fewn y Tîm Mynediad Dyletswydd i reoli nifer yr atgyfeiriadau mewn modd sy’n canolbwyntio ar risg. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor bod trafodaethau cadarnhaol wedi eu cynnal â Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda’r bwriad o gydweithio ar lefel strategol. Mae partneriaid wedi ymrwymo i gydweithio’n agosach er mwyn gwella prosesau ac arferion.

 

           Nododd y Pwyllgor, er bod adroddiad AGGCC yn cyfeirio at lefel dda o gefnogaeth wleidyddol i gyfeiriad strategol y Cyngor ar gyfer y Gwasanaethau Plant ac i waith cadarnhaol panel trawsbleidiol o Aelodau, mae’n argymell hefyd bod angen cryfhau gallu Aelodau Etholedig i herio perfformiad drwy ddarparu gwell gwybodaeth iddynt am ansawdd y gwasanaethau a phrofiad y plant a’r teuluoedd sy’n eu derbyn. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr Arolygiaeth wedi gweld arfer dda mewn awdurdodau eraill mewn perthynas â rheoli perfformiad Gwasanaethau Plant gan Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol y byddai’n fuddiol i Sgriwtini dderbyn gwybodaeth am drefniadau mynediad ac am faterion eraill yn ymwneud â rheoli nifer yr atgyfeiriadau. Byddai trafod gydag awdurdodau eraill sydd mewn sefyllfa debyg yn ddefnyddiol hefyd. Mae Aelodau Etholedig angen gwybod am y stori tu ôl i’r data.

 

           Nododd y Pwyllgor bod yr arolwg wedi gwerthuso beth oedd yr awdurdod lleol yn ei wybod am ei berfformiad ei hun a pha wahaniaeth mae’n wneud i’r unigolion mae’n ceisio eu helpu, gofalu amdanynt a’u cefnogi a/neu eu diogelu. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gan yr Arolygiaeth unrhyw gynlluniau i gynnal arolygiadau pellach o wasanaethau plant yn ystod y 24 mis nesaf.

 

Dywedodd yr Arolygydd Arweiniol bod y fframwaith arolygu presennol yn awgrymu y byddai ffocws gwahanol i’r cylch nesaf o arolygiadau; fodd bynnag mae angen cadarnhau hynny yn dilyn canlyniad adolygiad o’r fframwaith arolygu.

 

           Cadarnhaodd yr Arolygwyr bod Gwasanaeth Plant Ynys Môn wedi eu harolygu ddiwethaf yn 2012 a’u bod yn rhan o adolygiad thematig ehangach yn 2014. Roedd casgliadau’r arolygiad olaf yn fwy cadarnhaol nag arolygiad 2012 ac o’r herwydd lluniwyd cynllun gwella llai sylweddol. Gan nodi’r wybodaeth honno, gofynnodd y Pwyllgor pam fod yr arolygiad diweddaraf yn 2016 mor siomedig.

 

Dywedodd Mr Marc Roberts bod Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn wedi profi cyfnod o welliant a dilynwyd hynny gan gyfnod bregus y cyfeiriwyd ato yn adroddiad Arfarniad Perfformiad 2014/15 yr Arolygiaeth. Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa bresennol.

 

3.2       Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Panel, Adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant yn ymgorffori Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn croesawu’r gwaith a wnaethpwyd gan AGGCC ac yn derbyn canfyddiadau’r Arolygiaeth yn llawn. Adroddodd bod y Gwasanaethau Plant, yn ystod y misoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio ar Gynllun Gwella Gwasanaeth diwygiedig er mwyn ymateb i ofynion adroddiad arolygiad AGGCC. Amlinellir prif flaenoriaethau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn adran 5.2 yr adroddiad; mae’r rhain yn canolbwyntio ar feysydd sydd angen eu gwella’n sylweddol yn ystod y 12 i 18 mis nesaf. Mae AGGCC wedi croesawu’r ymrwymiad i wella a fynegwyd gan Uwch Swyddogion a chynrychiolwyr y Cyngor a’u hagwedd adeiladol tuag at yr arolygiad. Ymgynghorwyd â staff y Gwasanaethau Plant ac maent yn ymwybodol o’r gwaith sydd angen ei wneud. Mae partneriaid allweddol yn cytuno â’r angen i gryfhau cynlluniau gweithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cydlynu’n effeithiol. Mae gwaith wedi dechrau’n barod ar nifer o feysydd allweddol. Bydd Monitro Cynnydd a gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn digwydd drwy’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Aelodau’r Panel a drwy gyfarfodydd rheolaidd â’r AGGCC.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ynghyd â’r Cynllun Gwella a gofynnodd am sicrwydd mewn perthynas â’r materion canlynol -

 

           Nododd y Pwyllgor bod adroddiad AGGCC yn gosod amserlen heriol i gyflawni gwelliannau sylweddol yn y gwasanaethau plant. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y gwasanaeth yn hyderus y byddai’n gallu cyflawni gwelliannau cynaliadwy yn ystod y 12 i 18 mis nesaf.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Rhaglen Wella yn un heriol; fodd bynnag, bydd y camau gweithredu hynny y bernir eu bod yn hanfodol yn cael eu blaenoriaethu. Dywedodd y Swyddog ei bod yn hyderus y byddai’r Gwasanaethau Plant mewn gwell sefyllfa mewn blwyddyn o gymharu â’r sefyllfa ar hyn o bryd. Mae’r Awdurdod yn ymrwymedig i wneud y gwelliannau sydd eu hangen ac wedi rhoi rhaglen glir yn ei lle er mwyn cyflawni ei amcanion. Nod yr Awdurdod yw cyflenwi gwasanaethau da a chadarn ar gyfer plant yn Ynys Môn; hefyd mae’n ceisio gwneud newidiadau sy’n gynaliadwy ac i barhau i wella i’r dyfodol tu, hwnt i’r amserlen a bennwyd yn adroddiad AGGCC.

 

           Nododd y Pwyllgor bod adroddiad arolygiad AGGCC yn amlygu materion capasiti. Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r gwasanaeth yn gallu rhoi sicrwydd y bydd yn gallu cael mynediad at staff ac adnoddau eraill digonol er mwyn gwireddu rhaglen wella sylweddol y Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Strategol (Plant) fod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar 3 neu 4 maes allweddol. Mae’n ceisio datblygu model sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr agenda ataliol; dyma fydd ffocws un o’r swyddi Rheolwr Gwasanaeth a bydd yn derbyn cefnogaeth gan staff fydd yn gyfrifol am ganolbwyntio ar y grŵp hynny o blant y byddai’n rhaid o bosib eu huwchgyfeirio drwy’r system oni bai bod eu hanghenion yn derbyn sylw buan. Mae’n rhaid anelu ymyrraeth gynnar at yr unigolion cywir a gwneud hynny yn gynt. Yn ail, mae angen datblygu strategaeth gweithlu sy’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud â recriwtio, cadw a datblygu staff. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig ailstrwythuro o ran y modd y mae goruchwyliaeth yn cael ei gyflwyno a gwella cymhareb goruchwylwyr a gweithwyr achos; yn y gorffennol mae goruchwylwyr wedi bod yn gyfrifol am ormod o weithwyr achos. O’r herwydd bwriedir symud at fodel o grwpiau ymarfer llai gyda mwy o ffocws ar ymarfer proffesiynol yn hytrach nag ar reoli gweithgaredd. Ymgynghorwyd â staff ynghylch y newidiadau a’r cam nesaf fydd eu gweithredu.

 

           Nododd y Pwyllgor bod angen blaenoriaethu’n briodol unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i ymateb i’r rhaglen wella. Gofynnodd y Pwyllgor i’r Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol sut mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu gwneud hynny, a hefyd sut mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu sicrhau bod gwella gwasanaethau plant yn flaenoriaeth lefel uchel.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Pwyllgor Gwaith wedi llwyddo i ymateb drwy wneud buddsoddiad priodol ac ystyriol bob tro yr oedd y Gwasanaethau Plant angen cyllid ychwanegol er mwyn cwrdd â, ac i reoli, galw ychwanegol. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn parhau i ymateb yn y modd hwn.

 

           Nododd y Pwyllgor fod adroddiad yr AGGCC yn ddogfen arwyddocaol. O’r herwydd gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth fonitro gadarn a rheolaidd i’r Pwyllgor er mwyn ei alluogi i graffu’n effeithiol ar gynnydd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y panel trawsbleidiol o aelodau wedi gweithio’n dda hyd yma. Mae angen ffurfioli’r trefniant hwn yn awr fel bod y panel yn derbyn statws is-banel i’r Pwyllgor Sgriwtini gyda chyfrifoldeb am fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun gwella. Mae angen datblygu a chytuno ar raglen waith ar gyfer yr is-banel sy’n gosod gweithgaredd arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda’r nod o ganolbwyntio ar elfennau penodol o’r gwaith; bydd hyn yn galluogi’r is-banel i archwilio meysydd yn fwy manwl a thrylwyr. Er mai mater i’r Pwyllgor Sgriwitni a’r is-banel fydd penderfynu sut fydd y berthynas rhwng y ddau’n gweithio, ystyrir y dylai’r is-banel gyflwyno adroddiadau cryno ond rheolaidd i’r Pwyllgor Sgriwtini ar y cynnydd a wneir.

 

           Nododd y Pwyllgor bod rhaid iddo dderbyn yr wybodaeth gywir er mwyn cryfhau ei ddealltwriaeth a’i allu i herio perfformiad gwasanaeth. Gofynnodd y Pwyllgor pa drefniadau fyddai Gwasanaethau Plant yn eu cyflwyno i wella ansawdd a dadansoddiad data perfformiad a gwybodaeth berthnasol arall. Yn ogystal gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â sut mae’r gwasanaeth yn bwriadu gwella’r wybodaeth sydd ar gael iddo o ran ansawdd y gwasanaeth a phrofiad yr unigolion sy’n derbyn cefnogaeth.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cyflwyno Fframwaith Perfformiad newydd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar ddata ansoddol. Mae beth fydd hynny’n ei olygu’n cael ei ystyried ar lefel genedlaethol. Mae angen rhoi mwy o sylw i wrando ar lais y defnyddwyr gwasanaeth ac mae Comisiynydd Plant Cymru’n cefnogi hynny. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o’r hyn y mae’r data’n ei ddangos ac i’r pwrpas hwnnw bydd Uned Asesu Ansawdd y Gwasanaeth yn cael ei chryfhau er mwyn canolbwyntio mwy ar adroddiadau thematig ac adnabod y tueddiadau a’r negeseuon tu ôl ystadegau. Mae angen gwneud gwaith i ddatblygu a gwella’r system er mwyn galluogi’r gwasanaeth i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae her hefyd o ran ceisio cael gafael ar farn ac adborth defnyddwyr gwasanaeth nad ydynt bob amser eisiau ymgysylltu â’r Awdurdod.

 

Wedi ystyried yr wybodaeth ysgrifenedig ac ar lafar a gyflwynwyd gan Arolygwyr AGGCC ac ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant, daeth y Pwyllgor i’r canlyniadau canlynol -

 

Penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell –

 

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn ymateb y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant fel sail ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y 12 – 18 mis nesaf.

           Fel rhan o raglen wella Sgriwtini’r Awdurdod, bod rhaglen hyfforddiant a datblygu’n cael sefydlu o fis Mai 2017 i roi cefnogaeth lawn i Aelodau i’w galluogi i fonitro a chraffu ar gynnydd a faint o welliant sydd wedi digwydd. Y cynllun hefyd i gynnwys hyfforddiant ar fonitro perfformiad y Gwasanaethau Plant ac yn arbennig ansawdd y gwasanaethau a phrofiad yr unigolion sy’n derbyn y gefnogaeth a/neu’r gwasanaethau.

           Datblygu ymhellach gylch gorchwyl a rôl y panel trawsbleidiol presennol o aelodau fel is-banel i’r Pwyllgor hwn i fonitro a chraffu ar gynnydd a faint o welliant sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r cynllun gwella gwasanaeth. Y ffrwd waith hon i gynnwys meincnodi yn erbyn safle arfer orau.

           Bod monitro cynnydd y Gwasanaethau Plant yn eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael, fel mater o flaenoriaeth, ar gyfer gweithredu’r rhaglen wella.

Dogfennau ategol: