Eitem Rhaglen

Perfformiad y Gwasanaethau Plant

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant ar Berfformiad y Gwasanaethau Plant. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn y dangosyddion penodol canlynol -

 

           SCC/025 – Canran yr ymweliadau statudol â phlant sy'n derbyn gofal yr oedd angen eu cynnal yn ystod y flwyddyn ac a gwblhawyd yn unol â’r rheoliadau.

           PM24 - Canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn yr amserlenni statudol (42 diwrnod gwaith).

           PM32 - Canran y plant sy'n derbyn gofal ac sydd wedi newid ysgol o leiaf unwaith mewn cyfnod neu gyfnodau pan oeddent yn derbyn gofal, ac eithrio oherwydd trefniadau trosiannol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth.

           PM33 - Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi gofyn am adroddiad ar berfformiad y Gwasanaethau Plant wedi iddo ystyried y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2016/17. Er iddo dderbyn y mesurau lliniaru a gyflwynwyd ar y pryd, ac na ofynnwyd i Swyddogion roi esboniad am y perfformiad gan yr ystyrid bod Ch1 yn rhy gynnar yn y flwyddyn i wneud hynny, roedd y Pwyllgor wedi adnabod y Gwasanaethau Plant fel maes oedd angen ei fonitro’n ofalus. O’r herwydd roedd y Pwyllgor wedi gwahodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd y cyfnod adrodd ar gyfer Chwarter 2. Fodd bynnag, gohiriwyd yr adroddiad oherwydd yr arolygiad o’r Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd gan AGGCC ym mis Tachwedd 2016.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn pob un o’r pedwar dangosydd gan dynnu sylw at y rhai sy’n cwrdd â’r targedau ar hyn o bryd (PM32 a PM33); y rhai lle rhagwelir na chyrhaeddir y targed (SCC/025 a PM24) ac adroddodd ar y ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad a’r camau sy’n cael eu cymryd i adfer y sefyllfa.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor bod gostyngiad amlwg yn y perfformiad yn erbyn Dangosydd PM24 o 100% yn Ch1 i 81.62% yn Ch3 a gofynnodd am esboniad dros y cwymp. Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant fod materion yn ymwneud â’r gweithlu, yn arbennig trosiant staff uchel, yn ffactorau sy’n dylanwadu ar y tanberfformiad yn erbyn y dangosydd hwn. Ar hyn o bryd mae 5 swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn wag gyda staff asiantaeth yn llenwi’r bwlch. Mae recriwtio staff sydd â phrofiad addas yn parhau i fod yn her. Derbyniodd y gwasanaeth yr hawl i recriwtio staff ychwanegol ar sail dros dro ond collwyd yr aelod staff i swydd barhaol. Mae hyn wedi cael effaith ar berfformiad yn ystod chwater tri. Mae’n annhebygol y bydd yr Awdurdod yn gallu recriwtio staff profiadol ar sail dros dro; mae modd llenwi’r bwlch drwy gyflogi staff asiantaeth neu gomisiynu gwaith penodol ar sail ymgynghoriaeth.

           Nododd y Pwyllgor y byddai wedi disgwyl gweld gwelliant mewn perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion erbyn Chwarter 3, neu o leiaf bod perfformiad yn aros yn gyson ar lefelau Chwarter 1. Nododd y Pwyllgor ei siom nad dyma oedd yr achos a bod y data’n dangos bod y sefyllfa’n gwaethygu mewn perthynas â dau o’r dangosyddion. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â dangosydd SCC/025 fod data Chwarter 4 yn debygol o ddangos tueddiad tuag at i lawr yn y perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn. Esboniodd, mewn rhai achosion, bod yr ymweliad statudol wedi digwydd ond nad yw’r cofnodion ffurfiol wedi eu cwblhau sy’n golygu ei fod yn cael ei gofnodi fel achos hwyr; efallai bod ymgais wedi ei wneud i gynnal ymweliad ond nad yw’r ymweliad wedi ei gynnal yn y modd a gymeradwyir. Mae angen i staff ddeall yn well bod arferion gweithio a’r ffordd mae rhai agweddau o’r gwaith yn cael ei wneud yn cael effaith ar y dangosyddion perfformiad.

           Nododd y Pwyllgor y cafodd materion yn ymwneud â’r gweithlu, ac yn benodol capasiti staff, eu nodi fel rhesymau dros danberfformiad pan heriwyd perfformiad y Gwasanaethau Plant yn erbyn y dangosydd SCC/025 y llynedd. Yn ychwanegol, nododd y Pwyllgor ei fod wedi dangos cydymdeimlad tuag at yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth yn y cyswllt hwn ond ei fod yn awr yn pryderu am y rhagolygon ar gyfer gwella’r dangosydd hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Dangosyddion Perfformiad yn canolbwyntio ar agweddau penodol o berfformiad ac nad ydynt yn adlewyrchu ystod y ddarpariaeth. Nid oes dangosyddion perfformiad ffurfiol ar gyfer rhai agweddau o’r gwasanaeth felly ni adroddir o reidrwydd ar welliannau ac arfer dda o fewn y fframwaith perfformiad ffurfiol. Yn ogystal, prif nod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yw amlygu meysydd sy’n tanberfformio; unwaith mae’r meysydd hynny’n gwella ac yn cyrraedd y targed mae dangosyddion newydd yn cymryd eu lle ar y Cerdyn Sgorio.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r adroddiad.

           Cyfeirio’r mater i’r Panel Plant er mwyn iddo benderfynu’r math o ddata sydd angen ei gyflwyno, gan roi sylw penodol i ansawdd y gwasanaethau a llais y plant a’u teuluoedd.

           Symud ymlaen heb oedi i sefydlu cylch gorchwyl ac amcanion clir ar gyfer y Panel Plant fydd yn weithredol o dan y weinyddiaeth newydd ym mis Mai 2017.

Dogfennau ategol: