Eitem Rhaglen

Diweddariad ar Bresenoldeb yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar gyflwyniad a chwestiynau’r Ombwdsmon ar 17 Hydref, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ymweliad yr Ombwdsmon i Gyngor Sir Ynys Môn ar 17 Hydref 2016, pan fynychodd gyfarfod o Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru. (Y Fforwm).

Cafwyd cyflwyniad gan yr Ombwdsmon ac atebodd gwestiynau gan Aelodau'r Fforwm ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau.

 

Cododd yr Ombwdsmon y materion canlynol yn ystod y drafodaeth: -

 

  Croesewid ymestyn y trefniadau Datrysiad Lleol i Gynghorau Tref / Cymuned.

  Mae nifer y cwynion am Gynghorau Sir wedi gostwng ond mae nifer y cwynion am Gynghorau Cymuned / Tref wedi cynyddu. Mae 3 Chyngor Cymuned yn gyfrifol am un o bob tair o'r holl gwynion am Gynghorau Tref / Cymuned.

  Parheir i ddefnyddio’r prawf dau gam a’i nod yw parhau i gael gwared ag unrhyw gwynion blinderus. Fodd bynnag, mae swyddfa'r Ombwdsmon yn derbyn mwy o gwynion.

  Mae'r rhan fwyaf o gyllideb yr Ombwdsmon wedi ei neilltuo ar gyfer  ymchwiliadau iechyd, ond dywedodd yn glir na fyddai’n goddef bwlio, llygredd neu gamddefnyddio grym, h.y. torri'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig.

  Mae'n credu bod Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru Gogledd o fudd i  awdurdodau Gogledd Cymru, a byddai'n falch o gwrdd â'r Fforwm yn fwy rheolaidd os ystyrir y byddai gwneud hynny’n ddefnyddiol.

 

Codwyd cwestiwn gyda'r Ombwdsmon yn y Fforwm ynghylch a gynigir neu a drefnir hyfforddiant cyfryngu i Aelodau'r Pwyllgor Safonau yng ngoleuni'r gofyniad i wneud mwy trwy’r trefniant datrysiad lleol. Ymatebodd yr Ombwdsmon y byddai hyfforddiant yn fuddiol, yn enwedig felly i gefnogi Cynghorau Cymuned, ond nid oedd adnoddau ar gael i’w ariannu. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n trefnu i'r mater gael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod Un Llais Cymru yn datblygu Protocol Datrysiad Lleol drafft, i'w ddefnyddio gan Gynghorau Tref / Cymuned. Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd Un Llais Cymru yn ymgynghori gyda gwahanol bartïon cyn cwblhau dogfen o'r fath fel y gellid cynnwys unrhyw adborth yn y ddogfen ddrafft.  Nodwyd y rhennir y Protocol gydag Aelodau cyn gynted ag y derbynnir y fersiwn derfynol gan Un Llais Cymru. Fodd bynnag, nodwyd ymhellach y byddai'r Pwyllgor Safonau wedi hoffi i Un Llais Cymru ymgynghori ag ef ar y drafft cyntaf.

 

Unwaith y bydd y Protocol Datrysiad Lleol wedi ei weithredu drwy Un Llais Cymru, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai'r Pwyllgor Safonau gynnig cymorth ar sut i ddefnyddio'r Protocol i’r Cynghorau Tref / Cymuned hynny sydd â phŵer cymhwysedd cyffredinol.

 

 PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

  Dosbarthu copi o Atodiad 2 i Swyddogion Monitro awdurdodau eraill Gogledd Cymru.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ceisio cadarnhad o'r trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn cysylltu ag Un Llais Cymru am eglurder ynghylch gyda phwy yr ymgynghorir ar y Protocol Datrysiad Lleol drafft cyn cwblhau’r ddogfen.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: