Eitem Rhaglen

Diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE

Derbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE (Miss Bethan James) gan gynnwys y Cynllun Gweithredu.

Cofnodion:

1.  Aelodau Newydd CYSAG

 

Cafwyd crynodeb o rôl aelodau CYSAG gan yr Ymgynghorydd Her GwE, a threfnodd fod yr aelodau newydd yn derbyn gwybodaeth am rôl a chyfrifoldebau’r CYSAG. Dywedodd wrth yr aelodau fod y cwricwlwm a chanllawiau Addysg Grefyddol yn cael eu penderfynu’n lleol, a bod pob awdurdod lleol a CYSAG yng Nghymru wedi mabwysiadu'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd i gylchredeg y dogfennau canlynol i aelodau newydd CYSAG:

 

a)  Rôl Aelodau CYSAG;

b)  Maes Llafur Cytûn Ynys Môn a Gwynedd;

c)  Dyfodol Llwyddiannus

 

2.  Cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol Newydd

 

Cafwyd diweddariad gan Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, ar y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol (AC) newydd. Adroddodd fod athrawon AG wedi rhannu adnoddau ar gyfer y cwrs, sy’n cael ei gyflwyno ym mis Medi, a byddant ar gael ar wefan GwE.

 

Codwyd pryderon na fyddai pob ysgol yn dyrannu’r un faint o amser ar gyfer cyflwyno’r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd. Codwyd pryderon hefyd nad yw rhai adnoddau masnachol wedi cael eu cyfieithu.

 

Diolchodd y CYSAG i’r athrawon am eu mewnbwn ac am gydweithio â Gwynedd:-

 

 Llawer o ddiolch i’r penaethiaid am eu cefnogaeth mewn perthynas â’r TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd drwy roi amser i athrawon gyfarfod fel HYB ac i fynychu cyrsiau perthnasol;

  Yn deall fod llawer iawn o waith paratoadol wedi ei wneud yn barod a’i rannu ag athrawon yn ystod y cyfarfod ar 12 Mehefin yng Nghaernarfon;

  Canmol yr athrawon am eu parodrwydd i gydweithio, cefnogi ei gilydd a rhannu adnoddau;

  Gobeithio y bydd athrawon yn derbyn amser digonol i addysgu’r cwrs newydd.”

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd, ar ran y CYSAG, i:-

 

  ysgrifennu at Benaethiaid yn Ynys Môn,

 

   a)  yn diolch iddynt am gefnogi eu hathrawon AG, fel eu bod yn gallu mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd er mwyn eu paratoi ar gyfer y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd;

   b)  llongyfarch eu hathrawon AG am eu gwaith caled, a,

   c)  gofyn fod amser yn cael ei ddyrannu i’r Adran AG, yn unol â chanllawiau CBAC, er mwyn addysgu’r cwrs AC newydd.

 

  Ysgrifennu at Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynegi pryderon y CYSAG fod cyrsiau diwinyddiaeth i israddedigion ac athrawon arfaethedig yn gostwng.

 

  Rhannu cofnodion y cyfarfod hwn gyda’r Pennaeth Dysgu.

 

3.  Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm Newydd

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ar y canlynol:-

 

  fod rhaid i’r cwricwlwm newydd ymateb i’r 4 pwrpas addysg canlynol y cyfeirir atynt yn Adroddiad Donaldson – sef y bydd pob un o’n plant a’n pobl ifanc yn:-

 

     ddysgwyr uchelgeisiol, galluog

     gyfranwyr mentrus, creadigol

     ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n fodolon gweithredu

     unigolion iach a hyderus

 

  Mae AG yn rhan o’r maes dysgu a phrofiad Dyniaethau. Mae’n rhaid i’r maes AG gysylltu â’r 5 maes dysgu a phrofiad arall, a disgwylir iddo gyfrannu at iechyd a llesiant.

  Mae grŵp o ysgolion arloesi yn gyfrifol am ddatblygu pob maes dysgu a phrofiad. Hyd yma, mae’r ysgolion wedi ymchwilio i fodelau cwricwlaidd mewn gwledydd eraill, ac wedi derbyn arweiniad gan arbenigwyr allanol. Mae pob grŵp wedi amlinellu hyd a lled y meysydd dysgu a phrofiad, ac ar hyn o bryd yn ystyried gwerth nodi’rsyniadau mawrmewn AG.

  Nid oes penderfyniad wedi’i wneud hyd yma ynglŷn â chynnwys y cwricwlwm newydd.

  Nid oes penderfyniad wedi’i wneud hyd yma ynglŷn ag asesiad.

  Bydd y sgiliau rhyng-gwricwlaidd yn parhau: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ei bod wedi mynychu cyfarfod o’r grŵp Dyniaethau fel arsyllwr a chynrychiolydd y CCYSAGauC/PYCAG. Adroddodd ymhellach fod Manon Jones, sydd yn hwyluso’r grŵp Dyniaethau, wedi derbyn fersiwn drafft o’r ddogfen ‘Beth yw AG Da?’ a ddatblygwyd gan aelodau PYCAG, ond nad yw’r ddogfen wedi ei dosbarthu i’r athrawon yn yr ysgolion arloesi eto.

 

Cododd Mr Christopher Thomas bryder na fydd Diwinyddiaeth yn cael ei gynnwys o dan yr ambarél Dyniaethau os bydd Astudiaethau Cymdeithasol yn cymryd lle AG yn araf bach. Mewn perthynas ag AG a’r cwricwlwm newydd, ymatebodd yr Ymgynghorydd Her GwE gan ddweud fod angen defnyddio dull newydd er mwyn sicrhau fod yr hyn a gyflwynir yn cyfoethogi ac yn berthnasol i fywydau plant a phobl ifanc.

 

4.  Estyn

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her Gwe fod arolygiadau Estyn wedi nodi fod safonau a darpariaeth AG yn wan mewn rhai ysgolion. Rhoddwyd ‘aide memoire’, a baratowyd gan yr Ymgynghorydd Her, i aelodau’r CYSAG yn nodi 10 ffaith allweddol am AG mewn ysgolion cynradd. Rhoddwyd crynodeb o bob un o’r pwyntiau allweddol i Aelodau’r CYSAG.

 

Nodwyd y bydd Estyn yn cynnal arolygiadau thematig arAddysg Grefyddol CA2 a CA3’ yn ystod 2017-18. Maent yn debygol o ymweld â chroestoriad o 20 o ysgolion ar draws Cymru.

 

5.  Addoli ar y Cyd

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod dau ddisgybl o Ysgol Glan Taf wedi sefydlu deiseb ar wefan Llywodraeth Cymru yn galw am ddileu addoli ar y cyd fel gofyn statudol mewn ysgolion. Dechreuwyd deiseb arall ar y wefan o blaid cynnal yr elfen Gristnogol mewn addoli ar y cyd, ond gan gydnabod yr angen i barchu crefyddau eraill o fewn cymuned yr ysgol.

 

Gwahoddwyd aelodau’r CYSAG i arwyddo’r ddeiseb drwy ddilyn dolen i’r wefan.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd i anfon y ddolen i Aelodau’r CYSAG.

 

6.  E-Fwletin Addysg Grefyddol CA3

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod yr e-gylchgronau cyfrwng Cymraeg canlynol ar gael ar wefan Hwb:- 

 

a)  Rhif 1: Rhoi Organau

b)  Rhif 2: Ffoaduriaid

c)  Rhif 3: Rhyfel a Heddwch

 

Nododd aelodau’r CYSAG gynnwys yr uchod.