Eitem Rhaglen

Newid i'r Cyfansoddiad

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro fel y’i gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Mehefin 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio (Corfforaethol) adroddiad y Pennaeth Adnoddau (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar newid i ran 2.7.2 o Gyfansoddiad y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Corfforaethol) fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017, ar ôl iddo ystyried yr uchod, wedi penderfynu argymell i'r Cyngor llawn ei fod yn awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud a chyhoeddi'r newidiadau canlynol i Gyfansoddiad y Cyngor : -

 

·        Diwygio adran 2.7.2 y Cyfansoddiad i ddarllen fel a ganlyn: -

 

“Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys yr Arweinydd ynghyd ag o leiaf 2, ond dim mwy na 9 Cynghorydd arall, gan gynnwys Dirprwy Arweinydd; a bydd y cyfan yn cael eu penodi i’r Pwyllgor Gwaith gan yr Arweinydd”

 

·           Cytuno bod nifer y swyddi ar y Pwyllgor Gwaith sy’n gymwys i dderbyn uwch gyflog yn codi ar unwaith o 7 i 8.

·           Cytuno mewn egwyddor y dylai’r Cyngor gyflwyno cais i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) am ganiatâd i godi nifer Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gymwys i dderbyn uwch gyflog, o’r cap presennol o 15, hyd at uchafswm o 16.

·           Ar yr amod y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais terfynol ac ar yr amod y ceir caniatâd gan PACGA, rhoi awdurdod i benodi Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith (gan wneud cyfanswm o 9) a fydd yn gymwys i dderbyn uwch gyflog.

·           Cydnabod y bydd penodi dau Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith yn gost niwtral ar y sail y byddant yn cael eu cyllido o arbedion o gyflogau’r Dirprwy Arweinydd ac un Cadeirydd a fydd, ill dau, yn parhau i wrthod yr uwch gyflogau sy’n daladwy ar gyfer eu swyddi.

 

‘Roedd Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid yn anfodlon ac yn bryderus am y bwriad i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith o 7 i 9 Aelod. Dywedodd ei fod dan yr argraff bod y  Pwyllgor Gwaith blaenorol o 7 Aelod wedi gweithio'n dda.  ‘Roedd ganddo bryder hefyd ynghylch bwriad y grŵp rheoli i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith ar adeg pan fydd y Cyngor yn chwilio am arbedion gan bob gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cynnydd yn y pwysau a’r heriau o fewn portffolios rhai o'r Aelodau Portffolio. Cyfeiriodd at y pwysau yn y Gwasanaethau Plant o fewn y Cyngor a'r prosiect Wylfa Newydd.

 

‘Roedd Aelodau Grŵp yr Wrthblaid o’r farn y dylid gohirio’r mater a’i gyfeirio i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaeth a sgriwtini

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad gofynnodd nifer ddigonol o aelodau am bleidlais gofnodedig ar yr argymhellion fel y nodwyd uchod.

 

Roedd y bleidlais gofnodedig fel a ganlyn: -

 

Bod yr eitem yn cael ei chyfeirio i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaeth: -

 

Y Cynghorwyr Glyn Haynes, K P Hughes, Aled M. Jones, Eric Jones, R.Ll. Jones, Bryan Owen, J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Shaun Redmond. Cyfanswm 9

 

Yn erbyn y cynnig: -

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Richard A. Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T. Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn Jones, Gwilym O. Jones, R O Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Dafydd Roberts, Margaret M. Roberts, Dafydd R. Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.       Cyfanswm 18

 

Ymatal pleidlais: - Y Cynghorydd Nicola Roberts

 

PENDERFYNWYD nad oedd y cynnig wedi ei gario.

 

Y cynnig i gymeradwyo'r argymhelliad canlynol: -

 

'Yn unol â 4.1.27.1 yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, bod Rheol 4.1.17.1 yn cael ei hatal ar gyfer ail bwynt bwled yr adroddiad a atodwyd'.

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Richard A. Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T. Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn Jones, Gwilym O. Jones, R O Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Dafydd Roberts, Margaret M. Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.  Cyfanswm 19

 

Yn erbyn y cynnig: -

 

Y Cynghorwyr Glyn Haynes, K P Hughes, Aled M. Jones, Eric Jones, R.Ll. Jones, Bryan Owen, J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Shaun Redmond.        Cyfanswm 9

 

Ymatal pleidlais: - Neb

 

Y cynnig i gymeradwyo'r argymhelliad canlynol: -

 

'Bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn yr adroddiad a atodwyd.'

 

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Richard A. Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T. Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn Jones, Gwilym O. Jones, R O Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Dafydd Roberts, Margaret M. Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.  Cyfanswm 19

  

 Yn erbyn y cynnig: -

 

Y Cynghorwyr Glyn Haynes, K P Hughes, Aled M. Jones, Eric Jones, R.Ll. Jones, Bryan Owen, J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Shaun Redmond.    Cyfanswm 9

 

Ymatal pleidlais: Neb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newid i adran 2.7.2 y Cyfansoddiad fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: