Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cymunedau Gyntaf

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Cymunedau yn Gyntaf Môn Cyf i'r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Tai ar gyflawniadau Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Môn ar gyfer 2016/17 a chynlluniau i’r dyfodol wedi i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddod i ben.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gan y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf dair thema allweddol: Cymunedau Ffyniannus; Cymunedau Dysgu a Chymunedau Iach. ‘Roedd y prif ffocws yn Ynys Môn o dan y themâu Ffynniannus a Dysgu, gydag ystod o weithgareddau yn canolbwyntio ar wella sgiliau a symud y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur yn ôl i waith.  Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant y byddai'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol erbyn mis Mawrth 2018. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cronfa Dreftadaeth o Ebrill 2018 fel y gall  rhai o brosiectau mwyaf effeithiol y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf barhau.   Nododd fod gan y Cyngor, fel y Bwrdd Cyflawni Arweiniol, gysylltiad agos â'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac y bydd angen monitro’n rheolaidd i sicrhau cymorth ar gyfer y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai y sicrhawyd £662,200 ar gyfer gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf yn 2016/17.  Gwnaed defnydd llawn o’r arian hwn er mwyn darparu'r ystod ganlynol o weithgareddau: -

 

·        Cymorth Craidd ar gyfer Cyflogaeth

·        Cymorth i Fentrau Cymdeithasol

·                            Cymorth i Fentrau

·                            Cynhwysiad ariannol

·                            Cynhwysiad digidol

·                            Darpariaeth Ieuenctid

·                            Darpariaeth Sgiliau Sylfaenol

·                            Academi Alwedigaethol Gymunedol

 

Er y bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol erbyn Mawrth 2018 dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cronfa Etifeddiaeth o £6m y flwyddyn o Ebrill 2018; bydd y gronfa’n gweithredu am gyfnod o 4 blynedd. Ni fydd y cyllid mwyach yn cael ei dargedu tuag at glystyrau daearyddol a bydd hynny’n caniatáu i gymunedau eraill ar Ynys Môn elwa ar y Gwasanaethau Cymorth Cyflogaeth a gynigir gan Cymunedau yn Gyntaf Môn.  Mae Cymunedau yn Gyntaf Môn wedi bod yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd yn sicrhau cyllid allanol ychwanegol fel y dangoswyd yn Atodiad 3 o'r adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tai at ystod o wasanaethau a roddir i ardaloedd difreintiedig Ynys Môn ac yn benodol at y datblygiad allweddol cyntaf, sef Pod Ieuenctid yn Stryd y Farchnad, Caergybi. Sefydlwyd y Pod i helpu pobl ifanc trwy gynnig ystod o gyfleusterau gyda'r nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol ac fe’i defnyddir fel canolfan galw i mewn ar gyfer ymgynghori â'r gymuned a digwyddiadau eraill yn ystod y dydd.

 

Awgrymodd y byddai o fantais i aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymweld â Cymunedau yn Gyntaf Môn yng Nghaergybi i gael cipolwg ar y gweithgareddau a gynigir gan y cwmni.

 

Gan mai’r Cyngor yw’r Bwrdd Cyflawni Arweiniol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach fod raid cyflwyno cynllun manwl ar raglen Cymunedau yn Gyntaf Môn i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mai, 2017. Bydd hefyd yn ofynnol i’r Cyngor nodi modelau amgen ar gyfer cynnal strwythur cynlluniau a ariennir drwy grant oni fydd CG Môn yn gallu parhau yn ei ffurf bresennol.  Os bydd Cymunedau Môn Ymlaen yn gallu denu cyllid allanol o ffynonellau eraill a dangos ei fod yn gynaliadwy i’r dyfodol, bydd y sefydliad mewn sefyllfa dda i barhau i weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor Sir.  Bydd y Pecyn Cymorth Partneriaeth newydd yn berthnasol i’r bartneriaeth, sef y pecyn cymorth a  gymeradwywyd i'w fabwysiadu gan y Pwyllgor hwn.  Awgrymodd fod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn ym mis Hydref i fonitro’r perfformiad 6 mis yn erbyn y targedau ac y dylid hefyd roi copi iddo o’r pecyn adolygu partneriaethau i ddangos cadernid a chynaliadwyedd Cymunedau Môn Ymlaen ar gyfer cyflawni’r ddau grant cyflogadwyedd sy'n weddill, ar ôl mis Mawrth 2018.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr, Mr Jimmy Lee MBE, grynodeb byr o'r ailstrwythuro sydd wedi digwydd o ganlyniad i doriad o 30% yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.  Er mwyn cadw'r brand sydd wedi ei sefydlu, mae Cymunedau yn Gyntaf Môn Cyf wedi newid eu henw masnachu i Cymunedau Môn Ymlaen Cyf. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Personél, Mr. Keith Thomas, fod gan Cymunedau Môn Ymlaen Cyf weledigaeth i barhau â'i wasanaethau er budd pobl yr Ynys. Nododd bod rhaglen wedi ei gosod allan ar gyfer y 4 - 5 mlynedd nesaf a fydd yn ymdrechu i chwilio am waith ac i wella sgiliau ar gyfer pobl ar draws yr Ynys. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·         Gofynnwyd a yw Cymunedau Môn Ymlaen Cyf yn gallu ymdopi â’r toriad o 30% yn y gyllideb fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ymatebodd y Rheolwr Clwstwr fod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud o fewn CG Môn i gwrdd â’r toriad o 30%. Mae CG Môn wedi ymdrechu i gadw cymaint o’r gwasanaethau ag y bo modd. Mae'r cwmni wedi llwyddo i sicrhau arian grant o ffynonellau eraill fel yr amlygwyd yn yr adroddiad.  Ychwanegodd bod yr holl wasanaethau targed a nodwyd yn rhaglen waith Cymunedau'n Gyntaf Môn wedi eu darparu yn 2016/17.

·         Holwyd a yw CG Môn yn darparu gweithgareddau ar gyfer yr henoed.  Ymatebodd y Rheolwr Clwstwr bod rhywfaint o arian ar gael i staff CG Môn fynychu digwyddiadau megis Clybiau Cinio ac i’w holi am eu hanghenion ac i rannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael gan y cwmni i'r gymuned leol.

 

PENDERFYNWYD llongyfarch Cymunedau yn Gyntaf Môn am eu gwaith a’u llwyddiant a bod y Cyngor yn cefnogi Cymunedau Môn Ymlaen Cyf, i ehangu a pharhau ei waith da.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: