Eitem Rhaglen

Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'r Cyngor gan yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd).

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd) bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru baratoi cynlluniau datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi gweledigaeth ar gyfer newid yn yr ardal yn ystod y cyfnod 2011 - 2026 ac mae’n cynnwys polisïau manwl ac yn dynodi safleoedd ar gyfer eu datblygu ac yn nodi faint o dir sydd ei angen ar gyfer tai newydd, cyflogaeth, siopau ac ati.  Mae hefyd yn dynodi tiroedd a ddiogelir rhag  datblygiadau fel y gellir eu cadw’n fannau agored.   Oherwydd bod angen i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ill dau baratoi Cynllun Datblygu Lleol, penderfynwyd y byddai'r ddau gyngor yn cydweithio i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Nododd hefyd y sefydlwyd Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ac arno aelodau etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i ddelio â materion yn ymwneud â'r gwaith o baratoi'r Cynllun. 

 

Dywedodd fod y gwaith o baratoi'r cynllun wedi dechrau yn 2011 a bod yr holl ddatblygiadau tai a adeiladwyd ers 2011 a’r holl geisiadau cynllunio a gymeradwywyd wedi eu cynnwys yn y ffigwr a nodir yn y Cynllun Datblygu ynghylch nifer y tai y rhagwelir y bydd eu hangen. Mae'r Cynllun yn nodi y bydd angen 3,472 o gartrefi newydd ar Ynys Môn ond mae 783 o anheddau eisoes wedi eu hadeiladu a 1,251 o geisiadau cynllunio wedi eu cymeradwyo.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach yr ymgynghorwyd yn helaeth â'r cyhoedd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac y cwblhawyd fersiwn derfynol gytunedig ym mis Ionawr 2016.  ‘Roedd Lywodraeth Cymru wedi penodi dau Arolygydd i archwilio cadernid y Cynllun a chynhaliwyd cyfarfod cyn-gwrandawiad ym mis Mehefin 2016 a dechreuodd y rownd gyntaf o 16 o Sesiynau Gwrandawiad ar 6 Medi 2016 ac ‘roeddent yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ynghylch pob agwedd ar y Cynllun h.y. Tai a Dosbarthiad, Tai Fforddiadwy, Anghenion Sipsiwn a Theithwyr, yr Economi, yr iaith Gymraeg, Ynni Adnewyddadwy yn ogystal â materion a sylwadau oedd yn ymwneud â safleoedd penodol.   Ar ôl cwblhau rownd gyntaf y Sesiynau Gwrandawiad, cyhoeddodd y Cyngor Restr o Newidiadau Materion yn Codi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (a oedd yn mynd i’r afael â phwyntiau gweithredu a godwyd gan yr Arolygwyr) a cheisiodd sicrhau bod y Cynllun yn cwrdd â gofynion y profion cadernid a’i fod yn ymateb i’r angen i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol a deddfwriaeth sylfaenol. Cynhaliwyd ail rownd o 2 sesiwn gwrandawiad yn Ebrill 2017 i ystyried pynciau ffocws ac, yn dilyn y sesiynau gwrandawiad, cyhoeddodd y ddau Gyngor y Rhestr Derfynol o Newidiadau Materion yn Codi a gyhoeddwyd yn y Llyfrgell Archwilio ac a anfonwyd ymlaen at yr Arolygwyr i'w hystyried wrth lunio eu hadroddiad.   Derbyniodd y Cynghorau Adroddiad Cyfrwymol yr Arolygydd ar 30 Mehefin 2017. Yn unol â rheoliadau statudol, mae'n rhaid i’r ddau Gyngor fabwysiadu'r Cynllun erbyn Awst 2017 cyn pen 8 wythnos i dderbyn y Cynllun. Yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Lleol, pan fo Cyngor yn mabwysiadu ei Gynllun, mae'n ofynnol iddo lunio a chyhoeddi Datganiad Mabwysiadu, sydd hefyd yn cynnwys datganiad yn ymwneud â'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) / Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS).

 

Ar ôl mabwysiadu’r Cynllun, mae gofyn statudol ar y Cynghorau i baratoi a chyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) ar y Cynllun i Lywodraeth Cymru.  Bydd yr AMB hwn yn archwilio a yw polisïau'r Cynllun yn cael eu gweithredu'n briodol, a yw dyraniadau defnydd tir yn cael eu cyflawni, ac a oes angen adolygu unrhyw bolisïau.  Bydd gofyn hefyd i'r Cynghorau gynnal adolygiad llawn o'r Cynllun o leiaf bob 4 blynedd ar ôl ei fabwysiadu. Cynigiodd y dylid mabwysiadu'r Cynllun a’r materion cysylltiedig fel y nodwyd nhw yn yr adroddiad ysgrifenedig ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Llinos M. Huws, Arweinydd y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyngor sylw manwl i’r wybodaeth yn yr adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol -

 

·           Er yn derbyn yr angen i ddatblygu tai, mae'n bwysig sicrhau y darperir cymaint â phosib o dai cymdeithasol ac anheddau fforddiadwy;

·           Mae angen rhoi blaenoriaeth i gadw pobl ifanc ar yr Ynys a bod anheddau newydd yn fforddiadwy i aelwydydd lleol sydd eu hangen;

·           Bydd sicrhau cyflogaeth, yn enwedig swyddi sy'n talu'n dda, ar gyfer pobl ifanc yr Ynys a'r rheini sy'n dymuno dychwelyd, yn ogystal â'r system addysg,  yn cynnal yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn y cymunedau lleol;

·           Mae'r iaith Gymraeg yn dibynnu ar gymunedau trefol a gwledig ffyniannus;

·           Mae mynd i'r afael ag effaith y gweithwyr sydd eu hangen i gyflawni a gweithredu'r prosiect Wylfa Newydd yn hollbwysig;

·           Ystyrir fod safle Lairds ym Miwmares yn dal i fod yn adnodd pwysig ac y dylid hwyluso ailddatblygu’r safle;

·           Mae angen monitro’r Cynllun yn rheolaidd;

·           Mae angen i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgorau perthnasol yn rheolaidd ar yr effaith bosib ar yr iaith Gymraeg ac ar effaith datblygiadau mewn cymunedau lleol.

  

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb ‘roedd y bleidlais fel a ganlyn: -

 

O blaid mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd     Cyfanswm 21

 

Yn erbyn mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Cyfanswm 5

 

Ymatal                                                                                               Cyfanswm 1

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn am y cyfnod 2011 i 2026 fel y diwygiwyd ef gan newidiadau a argymhellwyd gan yr Arolygydd yn yr adroddiad ar yr Archwiliad (dyddiedig 30 Mehefin 2017):

·           cyhoeddi'r Cynllun a fabwysiadwyd, y Datganiad Mabwysiadu, y Gwerthusiad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol terfynol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

·           rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion gywiro unrhyw wallau teipio a gramadegol, ymdrin ag unrhyw fân-faterion cywirdeb neu gamgymeriadau, yn ogystal ag ymgymryd ag unrhyw faterion  angenrheidiol eraill sy’n ymwneud â chyflwyniad, ynghyd â’r newidiadau canlyniadol (sydd eu hangen yn dilyn y newidiadau a argymhellir yn unol a pharagraff 1.10 yn adroddiad yr Arolygydd), cyn cyhoeddi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd terfynol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

·           bod y Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r cynlluniau datblygu cyfredol yn parhau i fod yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, hyd nes eu bod wedi eu disodli gan rai newydd neu wedi eu tynnu’n ôl.

 

Dogfennau ategol: