Eitem Rhaglen

Cais am Ganiatad Arbennig

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - cais gan y Cynghorydd Carwyn Jones am ganiatâd arbennig mewn perthynas â strategaeth y Cyngor Sir ar gyfer addysg ar yr Ynys yn y tymor canol a’r tymor hir.

 

Rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro grynodeb o gefndir y cais, a dywedodd fod y Cyngor Sir yn llunio ac yn cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ynghylch ei gynigion ar gyfer moderneiddio ysgolion ar Ynys Môn. Un o'r ardaloedd blaenoriaeth a asesir fydd ward Seiriol, sef ardal y mae’r Cynghorydd Jones yn ei chynrychioli gyda dau aelod arall. Fel aelod lleol, byddai disgwyl iddo gymryd rhan lawn ar lefel leol yn y broses ymgynghori a’r broses gwneud  penderfyniadau, hyd at y cyfnod pan roddir y strategaeth ar waith.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Jones wedi datgan tri diddordeb personol. Mae’n   llywodraethwr ysgol a benodwyd gan y Cyngor ac yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Llandegfan, sydd yn un o'r tair ysgol dan ystyriaeth yn ward Seiriol. Mae’r ddau diddordeb personol arall yn ddiddordebau sy’n rhagfarnu hefyd ac maent yn ymwneud ag aelodau o'i deulu, sy'n gyfystyr â chyswllt personol agos fel y diffinnir hynny yn y Côd Ymddygiad. Mae cefnder y Cynghorydd yn cael ei gyflogi yn Ysgol Gynradd Biwmares, sydd hefyd yn cael ei hadolygu yn ward Seiriol. Mae mab ei gefnder hefyd yn mynd i Ysgol Gynradd Llandegfan.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Jones fod y perthnasau a’r cysylltiadau teuluol hyn yn rhai agos, ond mai ei gymhelliad pwysicaf yw budd y ward, a'i fod yn llwyr fwriadu gweithredu er budd ehangach y cyhoedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Jones annerch y Panel a rhoddodd ei farn a’i resymau manwl dros ei gais am ganiatâd arbennig.

 

I grynhoi, amlygodd y Cynghorydd Jones bwysigrwydd materion addysg i'r etholwyr yn y ward, a dywedodd ei fod yn teimlo bod dyletswydd arno fel aelod lleol i gymryd rhan yn y broses o ysgrifennu, casglu a rhannu gwybodaeth ynghylch unrhyw gynigion i’r dyfodol ar gyfer addysg yn y ardal. Os rhoddir caniatâd iddo, dywedodd y byddai'n mynychu ac yn siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned / Tref ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus, a hynny er mwyn mesur ac adlewyrchu’r farn leol, a byddai unrhyw benderfyniadau a wneir yn cael effaith ar addysg y cenedlaethau i ddod.  Byddai hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gasglu a rhannu gwybodaeth. Dywedodd na fyddai'n ceisio pwerau pleidleisio, ac os bydd y Panel yn credu ei fod yn briodol, byddai'n gadael cyfarfodydd yn ystod y pleidleisio. Dywedodd ymhellach ei fod yn dymuno gweithredu fel dolen  rhwng ei gymuned a'r Cyngor Sir i sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed ac yn cael sylw priodol yn y broses / penderfyniadau a wneir drwy gydol y cyfnodau ymgynghori / gweithredu ac ati.

 

Nodwyd nad oedd y Cynghorydd Jones wedi mynegi ei farn / safbwyntiau  hyd yma mewn perthynas â’r cynigion, ond mae wedi mynychu cyfarfodydd yn ysgolion Llangoed, Biwmares a Llandegfan a chyfarfodydd Cyngor Cymuned i wrando ar farn pobl leol. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi hwyluso a rhannu gwybodaeth, ac wedi annog pobl i fynegi eu barn yn ystod y cam hwn yn y broses ymgynghori, sy'n ymgynghoriad anstatudol a fydd yn dod i ben mewn pythefnos. Mae'r gymuned leol yn bryderus iawn am ddyfodol y tair ysgol gynradd, y goblygiadau ar gyfer y plant, a'r effaith ehangach ar y gymuned yn ei chyfanrwydd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Jones fod y tri Chynghorydd lleol yn credu bod diffyg cynllun strategol ar gyfer ward Seiriol yn ei chyfanrwydd, gan fod pobl ifanc yn gadael yr ardal oherwydd diffyg cyfleoedd cyflogaeth, gan arwain at leoedd gwag yn yr ysgolion a phoblogaeth sy'n heneiddio. ‘Roedd y Cynghorydd Jones yn argymell ar ran y gymuned mai’r opsiwn y mae ef yn ei ffafrio yw bod y tair ysgol yn y ward yn aros ar agor fel rhan o strategaeth gymunedol ehangach ar gyfer yr ardal a fyddai hefyd yn rhoi cyfle i’r tair ysgol ffynnu. Maent yn haeddu cyfle i roi cynnig arni o leiaf.

Nodwyd bod y Cynghorwyr ar gyfer ward Seiriol yn credu ei bod yn gynamserol i gynnal gwerthusiad i gau ysgolion ar hyn o bryd, a’u bod yn  teimlo na fyddent mewn sefyllfa i gymeradwyo unrhyw un o'r opsiynau ar hyn o bryd. Maent yn credu y dylid gweithredu cynllun i adnewyddu'r ward drwy greu cyfleoedd am waith, tai fforddiadwy / cymdeithasol a moderneiddio'r tair ysgol fel rhan o'r pecyn ehangach hwnnw.

 

Am y rhesymau a nodwyd yn y cais, mae’r Cynghorydd Jones wedi gofyn i'r Panel Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig, a fyddai'n goresgyn y ddau ddiddordeb sy’n rhagfarnu, gan ganiatáu iddo gymryd rhan ar lefel leol ac ar lefel y Cyngor mewn perthynas â thrafod a llunio ymateb y Cyngor i'r ymgynghoriad a'r prosesau statudol ac anstatudol.

 

Ymneilltuodd Aelodau'r Panel i sesiwn breifat ar gyfer trafodaeth. Yn dilyn trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig i'r Cynghorydd Carwyn Jones mewn perthynas â'r diddordeb / diddordebau y cyfeirir atynt yn y Cais, yn unol â pharagraffau (d), (f) ac (i) yn Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 fel y diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygiad) 2016.

 

Daw’r caniatâd arbennig i ben ar 8 Mai, 2022, a than hynny mae’n caniatáu i'r Cynghorydd : -

 

  Ysgrifennu at swyddogion [a/neu'r Pwyllgor Gwaith / Pwyllgor / y Cyngor ac ati] am y mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor am y mater;

  siarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith / Pwyllgor / y Cyngor (ar yr amod bod y Cadeirydd wedi rhoi caniatâd) ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth ar y mater a chymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth (pan yn aelod o'r corff);

  pleidleisio mewn cyfarfodydd o'r fath;

  arall - ymgymryd â rôl lawn yn cynrychioli'r gymuned mewn cyfarfodydd y tu allan i'r Cyngor Sir, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol o Gynghorau Tref a Chymuned ac ati.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: