Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2017 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o'r cofnodion

 

Eitem 3 - Diweddaru Cofrestrau Ar-lein yr Aelodau

 

  Ni chafwyd ymateb ffurfiol gan Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor ond cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd nad oes unrhyw gymorth  ariannol ar gael i ddiweddaru ffurflen Cofrestru Diddordebau ar-lein y system Modern.Gov er mwyn sicrhau bod yr un nodweddion ar gael yn y system yn y ddwy iaith fel y gall  aelodau weithio’n gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd cais am y gofyniad hwn yn cael ei gynnwys yn y fanyleb pan gaiff y contract ei adnewyddu.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn y ffordd ymlaen a awgrymwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a chadarnhawyd nad ydynt yn argymell cyflwyno cais am y £10k yr amcangyfrifir y byddai ei angen i fedru cynnig y nodwedd hon.

 

Cam Gweithredu: Dim byd pellach i'r Pwyllgor Safonau.

 

Eitem 3 - Cwynion Ymddygiad a gyflynwyd i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Mewn ymateb i gais am ddiweddariad bob tri mis ar gwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan yr Ombwdsmon, adroddodd y Swyddog Monitro fod matrics cwynion wedi ei gylchredg i'r Aelodau ar 11 Gorffennaf 2017, ynghyd â'r diweddariad blynyddol.

 

Cam Gweithredu: Cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau eu bod yn hapus gyda'r trefniant a'r fformat newydd a fabwysiadwyd ac y bydd yn disgwyl adroddiadau pellach bob chwarter.

 

Eitem 4 - Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod copi o'r adroddiad wedi ei gylchredeg i Aelodau'r Cyngor Sir a Chlercod Cynghorau Tref / Cymuned ar 9 Mawrth, 2017.

 

Cam Gweithredu: Wedi'i gwblhau. Dim byd pellach.

 

Eitem 5 - Diweddariad ar Bresenoldeb yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru

 

  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant ar y Protocol Datrysiad Lleol wedi ei gynnwys ar raglen y Fforwm ar 10 Ebrill  2017, yn dilyn cais gan y Pwyllgor Safonau

 

 Roedd Swyddog Monitro Cyngor Sir Ddinbych wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru ar 9  Mawrth 2017 i ofyn am ddiweddariad ar yr ymgynghoriad ar y Protocol Datrysiad Lleol.

 

  Roedd Un Llais Cymru wedi ymateb a dweud bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ac mai dim ond yr Ombwdsmon yr ymgynghorwyd ag ef ynghylch y Protocol.

 

  Cylchredwyd copi o'r ymatebion o gyfarfod diwethaf y Fforwm, lle’r oedd yr Ombwdsmon yn bresennol, at bob Aelod o'r Cyngor Sir ar 28 Mawrth, 2017.

 

  Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf o’r fforwm yn Wrecsam ym mis Tachwedd, 2017. Nid oes dyddiad penodol wedi'i gadarnhau.

 

Cam Gweithredu: Dim

 

Eitem 6 - Diweddariad ar Fabwysiadu'r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y tri Chyngor Cymuned nad oeddent, fe ymddengys,  wedi mabwysiadu'r Côd Ymddygiad statudol diwygiedig, bellach wedi ymateb fel a ganlyn:

 

  Cadarnhaodd Cyngor Cymuned Rhoscolyn ar 18 Ebrill 2017 ei fod wedi mabwysiadu'r Côd, ac anfonodd gopi o'r cofnodion fel y gofynnwyd;

  Mae Cynghorau Cymuned Llangristiolus a Bodorgan wedi cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu'r Côd, ond nid ydynt wedi anfon copi o'r cofnodion ymlaen.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Glercod Cynghorau Cymuned Llangristiolus a Bodorgan yn eu eu hatgoffa o'r cais y mae angen iddynt roi sylw iddo.

 

Eitem 8 - Diweddariad ar Gofrestr Diddordebau Cynghorau Tref / Cymuned

             

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei bod hi wedi ysgrifennu at yr holl Gynghorau Tref / Cymuned yn dilyn adolygiad o'u cofrestrau, gan ddwyn sylw at yr angen i gyhoeddi'r Cofrestrau ar-lein.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at yr holl Gynghorau Tref / Cymuned ym mis Mawrth 2018 i ganfod pa Gynghorau sydd bellach yn cydymffurfio.

 

Eitem - 9 Cynghorau Tref / Cymuned - Gwefannau

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei bod wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru ar 9 Mawrth, 2017 yn gofyn a oes cynllun i gynorthwyo Cynghorau Tref / Cymuned i sefydlu eu gwefannau. Nodwyd na dderbyniwyd ymateb ysgrifenedig hyd yn hyn.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog Monitro yn ceisio cael ateb i’w gohebiaeth.

 

Eitem 11 - Strwythur Rheoli

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y 'Strwythur Rheoli' wedi'i gyhoeddi ar-lein. Nodwyd fod Aelodau'r Pwyllgor Safonau wedi cael copïau o'r ddogfen, a oedd hefyd ar gael i staff ac Aelodau o 24 Mawrth 2017. Nodwyd ymhellach y bydd y ddogfen Strwythur Rheoli yn cael ei hadolygu mewn 12 mis.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog Monitro yn adolygu ym Mawrth 2018.

 

Eitem 12 - Nodyn Briffio i Aelodau Cynghorau Tref / Cymuned ar y Gofynion ar gyfer Datgelu a Chofrestru Diddordebau Personol

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod yr holl gamau a restrwyd mewn perthynas â'r Nodyn Briffio, a’r Côd Ymddygiad diwygiedig, wedi eu cwblhau ar 22 Mawrth, 2017.

 

Cam Gweithredu: Dim

Dogfennau ategol: