Eitem Rhaglen

Adolygiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar Adolygu Gweithgareddau 2016/17 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor a sgriwtini yn unol â rheoliadau Deddf Llywodraeth leol 2003 a Chynllun Dirprwyaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2016/17.   

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog 151 bod rheoli trysorlys yn cynnwys rheoli llif arian y Cyngor a’i falansau a gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau a benthyca mewn ffordd sy’n cefnogi amcanion corfforaethol y Cyngor. Ymgymerir â gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a gymeradwyir gan y Cyngor Llawn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol ac yna fe’i hadolygir ar ganol y flwyddyn ac ar y diwedd. Mae’r adroddiad yn nodi’n fanwl y gweithgareddau a’r canlyniadau yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17 mewn perthynas â’r meysydd canlynol - 

 

           Gweithgaredd Cyfalaf

           Effaith gweithgaredd cyfalaf ar ddyled waelodol y Cyngor (y Gofyniad Cyllid Cyfalaf)

           Y gwir ddangosyddion ariannol a thrysorlys sy’n diffinio’r ffiniau ar gyfer gweithgareddau rheoli trysorlys yn ystod y flwyddyn y caiff perfformiad ei asesu yn eu herbyn. Cytunir ar y rhain gan y Cyngor Llawn ar ddechrau’r flwyddyn ariannol.

           Sefyllfa gyffredinol y trysorlys yn nodi’r modd y mae’r Cyngor wedi benthyca mewn perthynas â’r ddyled hon a’r effaith ar falansau buddsoddi.

           Gweithgaredd dyled, a

           Gweithgaredd buddsoddi 

 

Yn gyffredinol, roedd y flwyddyn yn eithaf sefydlog gyda’r gweithgaredd mwyaf sylweddol yn fenthyciad o £6.2 miliwn gan PWLB ar gyfer prosiect Ysgolion y 21ain Ganrif. Gwelwyd dychweliadau ar fuddsoddiadau yn disgyn i’r lefel isaf erioed o ganlyniad i doriad yn y gyfradd sylfaenol i 0.25%. Roedd gan y Cyngor falansau arian parod priodol bob amser er y golygodd y cyfraddau llog isel bod dychweliadau yn isel. Fodd bynnag, mae hyn yn gyson â’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17 lle yr oedd yr amcanion allweddol yn rhai risg isel a sicrhau bod arian parod digonol ar gael i dalu credydwyr y Cyngor. Y negeseuon allweddol oedd bod y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu diogelwch dros ddychweliadau o ran ei agwedd tuag at fuddsoddi a’i fod yn benthyca at ddibenion cyfalaf yn unig ac nad oedd y cyfyngiad benthyca statudol (y cyfyngiad awdurdodedig) yn cael ei dorri. Parhaodd y Cyngor i weithredu’r strategaeth fenthyca fewnol fel y gwnaed yn ystod pob un o’r chwe blynedd diwethaf. Ni chafodd unrhyw ddyledion eu hail-drefnu yn ystod y flwyddyn gan fod y gwahaniaeth cyfartaleddog o 1% rhwng graddfeydd benthyca’r PWLB a’r graddfeydd talu’n ôl yn gynnar yn gwneud hynny’n anymarferol. Cydymffurfiodd y Cyngor â’i holl ofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod 2016/17 a gwelwyd yr un amgylchiadau buddsoddi heriol yn ystod y flwyddyn hon â’r blynyddoedd blaenorol, sef dychweliadau isel ar fuddsoddiadau.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol 

 

           Holodd y Pwyllgor, o ganlyniad i’r dychweliadau isel ar fuddsoddiadau a’r tebygolrwydd y bydd y tuedd hwn yn parhau yn y dyfodol, a oedd yn ymarferol i awdurdodau Gogledd Cymru ystyried cyfuno eu hadnoddau at ddibenion cyd-fuddsoddi er mwyn ceisio cael gwell dychweliadau. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ac Adran 151 bod gofynion dydd i ddydd y Cyngor yn ei gwneud hi’n anodd iawn dod o hyd i gynllun buddsoddi a fyddai’n bodloni anghenion y chwe Chyngor wrth sicrhau bod unrhyw ddychweliadau’n cael eu rhannu’n briodol. Gall y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru ystyried anghenion benthyca ei gilydd, ac maent yn gwneud hynny, ond mewn amgylchedd lle mae gan awdurdodau lleol arian wrth gefn sylweddol, y pryder uniongyrchol yw sut gall cynghorau fuddsoddi mewn ffordd sy’n gwneud arian ond lle mae risg isel.

           Nododd y Pwyllgor bod y costau ariannu fel cyfran o’r llif refeniw net mewn perthynas â’r HRA wedi cynyddu o 14.6% yn 2014/15 i 18.56% yn 2016/17 (gwelwyd gostyngiad yn 2015/16) a gofynnwyd am gadarnhad o’r cynnydd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ac Adran 151 y gwelwyd cynnydd yn y gwariant cyfalaf o dan yr HRA yn 2016/17 felly mae’r costau ariannu hefyd wedi cynyddu.  

           Nododd y Pwyllgor fod y balans ar adneuon ar 31 Mawrth, 2016 tua £13.3 miliwn ond ei fod wedi cynyddu i £15.6 miliwn ar 31 Mawrth, 2017. Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad am y cynnydd a gofynnwyd a oedd y ffigwr, yn hanesyddol, wedi amrywio cymaint â hyn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod yr arian sydd gan y Cyngor ar adnau yn gallu amrywio’n sylweddol yn ystod y dydd oherwydd, fel sefydliad, mae’n delio â thrafodion arian parod sylweddol pob dydd ac mae’n derbyn arian gan amrywiaeth o wahanol ffynonellau e.e. mae’r Grant Cymorth Refeniw yn dod i’r Cyngor mewn rhandaliadau misol o rhwng tua £7 miliwn ac £8 miliwn; derbynnir y Dreth Gyngor a threthi busnes fel taliadau debyd uniongyrchol ac ar y llaw arall, mae taliadau cyflogau a thaliadau contractwyr yn mynd allan, felly mae symudiadau llif arian mawr i mewn ac allan ond nid yw’r rhain yn adlewyrchiad o iechyd ariannol cyffredinol y Cyngor, dim ond y sefyllfa ar unrhyw un diwrnod arbennig. 

           Gofynodd y Pwyllgor am gadarnhad pam fod y gyllideb gwariant cyfalaf, o gymharu â gwir wariant, yn amrywio’n sylweddol, ac a oedd amrywiad o’r fath yn digwydd oherwydd tanamcangyfrif neu oramcangyfrif y gyllideb. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 bod nifer o gynlluniau mawr o fewn y rhaglen gyfalaf, rhai ohonynt a oedd yn cael eu hariannu’n allanol e.e. gwelliannau i’r A5025 a oedd yn cael eu hariannu’n gyfan gwbl gan Horizon. Tra bo’r cyllid ar gyfer y cynlluniau wedi’i gynnwys yn y gyllideb, efallai y bydd y gwaith arnynt yn llithro am wahanol resymau, felly mae cyfanswm y gwariant yn llai. Gosodir y gyllideb gyfalaf yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd ond gall ffactorau eraill, yn enwedig mewn perthynas â gweithiau cyfalaf, achosi cynllun i lithro. Nid yw’r cyllid ar gyfer cynlluniau a gefnogir gan grantiau neu lif arian allanol yn cael ei golli ond yn hytrach, mae’n llithro i’r flwyddyn ganlynol.     

           Gofynodd y Pwyllgor ai polisi’r Cyngor oedd peidio â benthyca am gyfnod hirach nag oes ased. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 bod modd benthyca am gyfnod hirach; rhaid i’r Cyngor godi tâl blynyddol ar y cyfrif refeniw er mwyn ad-dalu’r angen benthyca. Y polisi ar hyn o bryd yw codi 4% ar fenthyciadau hŷn ar falans sy’n lleihau ond yn y dyfodol y dull fydd benthyca dros fywyd yr ased.  

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn rhai dros dro tan y bydd y gwaith o archwilio Datganiad Cyfrifon 2016/17 wedi’i gwblhau a’i arwyddo; bydd unrhyw addasiadau o bwys i’r ffigyrau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd yn ôl arnynt fel bo’n briodol. 

           Nodi’r dangosyddion ariannol a thrysorlys dros dro ar gyfer 2016/17 a nodir o fewn yr adroddiad.

           Derbyn yr adroddiad Adolygu Rheolaeth Trysorlys blynyddol ar gyfer 2016/17 a’i basio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylw pellach.

 

DIM CAMAU PELLACH I DDILYN

 

 

Dogfennau ategol: