Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol i Wynedd ac Ynys Môn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a oedd yn rhoi trosolwg o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Ynys Môn a Gwynedd.
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Y Gymuned a Gwella Gwasanaeth fod gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gyflwyno trosolwg o’i gweithgareddau i’r Pwyllgor hwn yn flynyddol. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag Adrannau 19 a 20 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006. Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn sgil Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, i roi sylw i’r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ddelio gyda:-
· Throsedd ac Anhrefn
· Camddefnyddio Sylweddau
· Lleihau aildroseddu
· Cyflawni asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol)
· Rhoi cynlluniau mewn lle i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun nawr yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)
Adroddodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn fod y Bartneriaeth wedi bodoli ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd ers 1998 ond bod Partneriaeth ar y cyd wedi bod yn weithredol am y pum mlynedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth yn gweithio yn unol â Chynllun Blynyddol, sy’n seiliedig ar gynllun tair blynedd rhanbarthol. Mae adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2016/17, Cynllun Blynyddol 2017/18 a chynllun gwariant 2017/18 ynghlwm fel Atodiadau 1, 2 a 3 i’r adroddiad. Bydd y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar y saith blaenoriaeth a ganlyn ar gyfer 2016/17 a 2017/18 :-
· Lleihau troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)
· Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
· Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd
· Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig
· Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol
· Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal
· Lleihau Aildroseddu
Roedd y prif negeseuon a oedd yn deillio o weithgareddau’r Bartneriaeth ar gyfer 2016/17 wedi’u cynnwys ar Dudalen 11 a 12 yr adroddiad.
Roedd y Swyddog yn dymuno diwygio’r adroddiad oedd o flaen y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddarpariaeth grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd tuag at Adolygiadau Dynladdiad Domestig oherwydd roedd yr adroddiad yn nodi bod y cyllid yn dod i ben. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi datgan y bydd y cyllid grant bellach yn parhau tan y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer y prosiect hwn.
Nododd ymhellach fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad o Ddiogelwch Cymunedol trwy Gymru ac yn wyneb canfyddiadau’r adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad manwl pellach ac hefyd wedi sefydlu Bwrdd i arwain ar y gwaith a wneir. Disgwylir canlyniadau’r adolygiad ar ddiwedd y flwyddyn hon a disgwylir y bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gweithredu.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-
· Gofynnwyd am eglurder ynghylch y cynnydd yn nifer y bobl sy’n adrodd am droseddau treisgar domestig a rhywiol a holwyd a oedd y cynnydd hwn oherwydd bod gwell cefnogaeth a gwybodaeth bellach ar gael i gefnogi dioddefwyr. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod Awdurdod yr Heddlu wedi bod yn destun adolygiad archwilio gan Arolygwyr EM a oedd yn ymchwilio i sut mae’r Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn adrodd am ddigwyddiadau o drais domestig a rhywiol. Mae canfyddiadau Arolygwyr EM o’r adolygiad ar Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi bod angen cryfhau’r elfen adrodd am drais domestig a rhywiol ac wedi hynny daeth i’r amlwg fod nifer uwch o droseddau o’r fath wedi cael eu hadrodd yn ddiweddar. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Y Gymuned a Gwella Gwasanaeth) y bydd hyfforddiant ar drais domestig yn statudol i holl aelodau staff y Cyngor trwy’r porth E-ddysgu;
· Cyfeiriwyd at y Diwrnod Rhuban Gwyn Rhyngwladol blynyddol a gaiff ei gynnal ar 25 Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig ymysg y cyhoedd. Cynhaliwyd ymgyrch lwyddiannus yn Ysbyty Gwynedd y llynedd;
· Cyfeiriwyd at ddatganiad yn yr adroddiad bod nifer y digwyddiadau o droseddu gan bobl ifanc o dan 17 mlwydd oed wedi gostwng; holwyd a oedd hyn o ganlyniad i’r ffaith fod yr heddlu ac asiantaethau eraill wedi ymweld ag ysgolion i godi ymwybyddiaeth am droseddu ymysg pobl ifanc. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu asiantaethau perthnasol i fynd i bob ysgol i godi ymwybyddiaeth am wahanol gategorïau o droseddu. Nododd fod trais rywiol tuag at bobl ifanc ar gynnydd ac mae llawer o waith wedi’i dargedu yn y maes hwn gan wahanol asiantaethau. Nodwyd hefyd y gwelwyd cynnydd mewn achosion o blant ifanc sy’n troseddu yn erbyn plant o’r un oedran.
· Holwyd a oedd cyfleusterau mewn lle i amddiffyn pobl hŷn rhag ‘sgams’ naill ai trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu trwy’r post. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod Adran Safonau Masnach y Cyngor Sir ac Age Cymru wedi cynnal ymgyrch yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth am ddeunyddiau twyllodrus posib;
· Cyfeiriwyd at grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru tuag at wella’r adeilad yng Nghaergybi sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol y bydd y grant yn fodd i wella’r eiddo yn William Street, Caergybi sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn y ganolfan;
· Cyfeiriwyd at y posibilrwydd fod troseddwyr yn camfanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a holwyd cwestiynau a oedd modd cael gafael ar unrhyw adnodd i amddiffyn y bobl ifanc hyn rhag pornograffi a chamfanteisio. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod llawer iawn o wybodaeth ac arweiniad ar gael i rieni ond mae’n faes cymhleth i geisio atal pobl ifanc rhag cael mynediad at y fath ddeunydd ar y rhyngrwyd.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r adroddiad a’r dogfennau sydd ynghlwm;
· Cefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y dyfodol.
CAM GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: