Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn wedi cael ei sefydlu yn unol â gofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cytunwyd y byddai’r bwrdd yn cydweithio â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac mae’n bartneriaeth sy’n cynnwys y prif sefydliadau o’r sector cyhoeddus ar draws y ddwy sir. Prif ffocws y gwaith gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd rhwng mis Ebrill 2016 a Mai 2017 oedd cynhyrchu Asesiad Llesiant ar gyfer y ddwy sir. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gynhyrchu Cynllun Llesiant a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mai 2018. Fe wnaed yr ymgynghoriad cyntaf yn yr hydref 2016 ac fe drefnwyd nifer o weithgareddau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd Asesiad Llesiant drafft i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ym mis Ionawr 2017 ac i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth 2017 ac mae gwaith wedi cychwyn nawr i baratoi at gyhoeddi’r Cynllun Llesiant. Trefnwyd gweithdai yn ystod mis Awst 2017 gyda swyddogion o nifer o wahanol sefydliadau ac asiantaethau yn mynychu. Bydd cyfnod ymgynghori statudol am 12 wythnos ar y Cynllun Llesiant drafft a chaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 14 Tachwedd 2017 i’w ystyried. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-

 

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch a oedd tystiolaeth i ddangos bod yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd i gynhyrchu asesiad o lesiant yn lleol ar gyfer ardal Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen gan ddweud bod Is-grŵp Llesiant wedi’i sefydlu i arwain y gwaith o gynhyrchu’r asesiad ac roedd pob aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi sicrhau bod swyddogion o’u sefydliad yn mynychu’r is-grŵp. Bu’r aelodau’n cydweithio ar gasglu’r data angenrheidiol ar gyfer yr asesiad. Nododd fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi rhannu’r rhanbarth yn 14 o ardaloedd llai yn hytrach na defnyddio ardal ranbarthol, gyda 6 o’r ardaloedd hynny ar Ynys Môn ac 8 yng Ngwynedd;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch a oedd y data a gasglwyd yn dangos gwahaniaethau mawr rhwng gwahanol rannau o’r Ynys. Atebodd y Rheolwr Rhaglen na welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ar draws yr ardal dan sylw mewn perthynas â’r cwestiynau a ofynnwyd i’r trigolion. Fodd bynnag, rhoddodd enghraifft gan nodi dros y 30 blynedd diwethaf, fod wardiau Aethwy a Seiriol wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n symud i mewn i’r ardal. Dywedodd yr Aelodau fod Ysgol Gynradd Llandegfan wedi gweld cynnydd yn y disgyblion a dderbynnir i’r ysgol sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf;

·      Holwyd a oedd y trigolion wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r diffyg cyfleusterau toiled ar yr ynys. Atebodd y Rheolwr Rhaglen fod yr ymatebion i weld yn canolbwyntio ar y cyfleusterau sydd ar gael yng nghymunedau’r trigolion a sut ganfyddiad sydd o’u canol trefi;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch y gost a’r manteision o gydweithio â Chyngor Gwynedd trwy gyfrwng y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd y Prif Weithredwr fod nifer o fanteision i gydweithio ar brosiectau rhwng awdurdodau cyfagos ac yn enwedig yng nghyswllt y gofyn am arbenigedd mewn deddfwriaeth statudol benodol sy’n cael ei gorfodi gan Lywodraeth Cymru. Nododd ymhellach fod arbedion effeithlonrwydd rhwng y ddau awdurdod cyfagos yn fantais hefyd gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi gofynion statudol ar bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â chynhyrchu a chyhoeddi’r Asesiad Llesiant Lleol a’r gwaith o baratoi’r Cynllun Llesiant;

·      Derbyn diweddariadau pellach gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus tra bod y Cynllun Llesiant yn cael ei ddatblygu.

 

CAM GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: