Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod perfformiad yn erbyn y dangosyddion cytunedig yn ail chwarter 2017/18 wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan gyda'r mwyafrif o’r dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, mae yna dri maes yr amlygwyd eu bod yn tanberfformio ac ‘roedd y manylion i’w gweld yn adran 2.3.3 ynghyd â'r mesurau lliniaru arfaethedig gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn Chwarter 3. Mae rhan 2.3.7 yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant gan eu bod yn cysylltu i mewn i’r Dangosyddion Perfformiad ar y Cerdyn Sgorio. O ran Rheoli Pobl, mae'r perfformiad o 4.25 mewn perthynas â chyfraddau absenoldeb salwch ar ddiwedd Chwarter 2 yn dangos gwelliant pellach o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016/17. Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn argymell parhau gyda'r panelau herio salwch rheolaidd gyda phwyslais ar gydymffurfio â disgwyliadau polisi a chynorthwyo’r  gwasanaethau penodol hynny sydd wedi methu eu targedau. Mewn perthynas â Gwasanaethau Cwsmer a’r tanberfformiad o ran ymateb i gwynion, gellir priodoli’r tanberfformiad yn bennaf i’r Gwasanaeth Plant oherwydd nad oedd wedi anfon ymatebion ysgrifenedig amserol er ei fod wedi cynnal trafodaeth gyda'r achwynwyr o fewn yr amserlen yn y rhan fwyaf o achosion. O ran rheolaeth ariannol, gwelwyd gostyngiad o £0.343m yn y gorwariant a ragwelir ar hyn o bryd o gymharu â’r chwarter cyntaf. Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad monitro Chwarter 2 ar y Gyllideb Refeniw.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ar gyfarfod y Pwyllgor hwnnw a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2017 a oedd wedi craffu ar y perfformiad yn Chwarter 2. ‘Roedd y Pwyllgor wedi nodi, er gwaethaf y gwelliant, y rhagwelir y bydd y gyllideb refeniw yn parhau i orwario’n sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn ac mai’r cyllidebau a oedd dan bwysau oedd rhai’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu. Fodd bynnag, ‘roedd y ffigwr perfformiad o ran absenoldeb salwch yn galondid i’r Pwyllgor fel oedd y gostyngiad yn nifer y plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi'n croesawu cyfraniad y Panel Sgriwtini Cyllid sydd wedi gofyn i Benaethiaid y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu ddarparu dadansoddiad o wariant eu gwasanaethau er mwyn cael dadansoddiad manylach o'r rhesymau am y gorwariant ac i lunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag ef. Mater arall sy’n bwysig o ran darparu cymorth parhaus i ofalwyr a sicrhau y gellir cwrdd â’u hanghenion gofal yw gwella  perfformiad yn erbyn Dangosydd Perfformio Ll / 18b - canran y gofalwyr a ofynnodd am asesiad neu adolygiad ac a gafodd asesiad neu adolygiad yn ystod y flwyddyn. Mae’r dangosydd yn dangos yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff wrth y Pwyllgor Gwaith y llwyddwyd i gynnal cyfradd ailgylchu 75% yr Awdurdod o Chwarter 1 i Chwarter 2. Mae hynny’n golygu mai hwn yw’r Awdurdod gorau yng Nghymru o ran cyfraddau ailgylchu ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y’u crynhowyd ym mharagraffau 1.3.1 i 1.3.4 yr adroddiad.

  Derbyn y mesurau lliniaru fel y’u hamlinellwyd.

Dogfennau ategol: