Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 - Chwarter 2

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2017/18 (1 Ebrill, 2017 i 30 Medi, 2017) ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ym mis Chwefror, 2017, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2017/18 gyda gwariant net o £126.647m gan y gwasanaethau. Roedd y gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cynnwys yr arbedion o £2.44m yr oedd yn rhaid eu gwneud. Yn seiliedig ar ffigyrau Chwarter 2, y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2017/18, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a'r gronfa Treth Gyngor, yw gorwariant o £1.924m neu 1.53% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Mae hynny ychydig bach yn well na’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1. Mae'r rhan fwyaf o'r gorwariant oherwydd costau Rhiantu Corfforaethol a rhagwelir gorwariant o  £1.89m yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd. Mae'r sefyllfa yn cael ei hadolygu a gobeithir y bydd y camau a gymerir yn y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys ailstrwythuro’r gwasanaeth er mwyn canolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth ddwys, yn helpu'r gwasanaeth i reoli gwariant. Mae rhai gwasanaethau eraill yn gorwario hefyd, gan gynnwys Addysg Ganolog o ganlyniad i'r costau addysgol sy'n gysylltiedig â 5 lleoliad all-sirol newydd a chostau cludiant i'r ysgol, ynghyd â’r Gwasanaeth Priffyrdd a'r Gwasanaeth Trawsnewid sy’n gorwario’n bennaf  oherwydd costau TG. Fodd bynnag , mae nifer o wasanaethau wedi tanwario ac ymhelaethir ar y rheini yn yr adroddiad. Gweithredwyd rhaglen buddsoddi i arbed yn 2016/17 gyda £983k wedi ei neilltuo ar gyfer prosiectau unigol. Hyd yn hyn, mae £217k wedi'i wario neu wedi'i ymrwymo o'r dyraniad hwn yn ystod 2017/18 ac mae'r prosiectau wedi datblygu i wahanol raddau a rhai yn agosach i gael eu cwblhau nag eraill fel yr amlinellwyd yn Atodiad CH i'r adroddiad. Mae'r dyraniad yn cynnwys £87k ar gyfer y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes i foderneiddio prosesau busnes a pherfformiad. Gan mai dim ond £67k y disgwylir y bydd y prosiect hwn ei angen, cynigir bod y £20k sy'n weddill yn cael ei ddargyfeirio i ariannu datblygu siop ar-lein a gwefan i Oriel Ynys Môn sydd hefyd yn brosiect buddsoddi i arbed a ddylai greu incwm ychwanegol.

 

Er bod y sefyllfa wedi gwella o gymharu â’r sefyllfa yr adroddwyd arni ar ddiwedd Chwarter 1, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa gyffredinol a ragwelir yn parhau i fod yn un o orwariant sylweddol; bydd gwaith yn cael ei wneud gyda'r holl wasanaethau yn ail hanner y flwyddyn ariannol i geisio sicrhau bod gwariant yn unol â’r cyllidebau. Pe bai'r sefyllfa bresennol yn bodoli ar ddiwedd y flwyddyn, yna bydd unrhyw orwariant ar yr adeg honno yn cael roi yn erbyn balansau cyffredinol y Cyngor; mae'r balansau hynny’n iach ar hyn o bryd a dylent helpu'r Cyngor i ariannu'r gorwariant. Fodd bynnag, nid yw'r ffigyrau a gyflwynwyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw bwysau ychwanegol a all godi o ganlyniad i dywydd garw yn y gaeaf; mae yna risg felly y gallai'r gorwariant fod yn uwch na'r £1.924m a ragwelir ar hyn o bryd. Daw'r sicrwydd o wybod bod cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn ddigon i gwrdd â’r lefel hon o orwariant.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa a nododd hefyd fod y Panel Sgriwtini Cyllid yn awr yn cadw golwg ar y gyllideb gyda'r bwriad o ddwyn sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at unrhyw bryderon.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi’r sefyllfa sydd wedi’i nodi yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer 2017/18.

  Nodi’r crynodeb o gyllidebau Digwyddiadau Annisgwyl ar gyfer 2017/18 fel y manylir yn Atodiad C yr adroddiad.

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH gan gymeradwyo newid arfaethedig, sef bod £20k o ddyraniad £87k y Gwasanaeth Dysgu o dan y rhaglen Buddsoddi i Arbed i weithredu system rheoli gwybodaeth “ONE” yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiect Buddsoddi i Arbed arall gan y Gwasanaeth Dysgu, sef datblygu gwefan a siop ar-lein ar gyfer Oriel Ynys Môn.

  Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2017/18 yn Atodiad D yr adroddiad.

  Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2017/18 yn Atodiadau DD ac E yr adroddiad.

  Cymeradwyo cyfalafu costau Cyflog Cyfartal o hyd at £2.566m yn unol â Chyfarwyddyd Cyfalafu Llywodraeth Cymru sy’n effeithiol tan 31 Mawrth, 2018.

 

Dogfennau ategol: