Eitem Rhaglen

Trefniadau Dirprwyo fel y gall y Cyngor gymryd rhan yn yr Archwiliad o Geisiadau ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd a Phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru dan Ddeddf Cynllunio 2008

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol – Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i ddirprwyo pwerau penodol i swyddogion hwyluso cyfranogiad y Cyngor yn y prosesau Caniatâd Datblygu sy'n gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd Pŵer Niwclear Horizon a Phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella  Gwasanaethau) nad yw holl swyddogaethau'r Cyngor o dan Ddeddf Cynllunio 2008 wedi'u dirprwyo ar hyn o bryd ac felly maent wedi'u cadw i'r Cyngor Llawn; felly mae'n rhaid sefydlu trefniadau dirprwyo fel y gall y Cyngor gwrdd ag amserlenni heriol mewn cysylltiad â’r broses o archwilio Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd Pŵer Niwclear Horizon a’r Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol .Ystyrir bod y trefniadau dirprwyo y gofynnir amdanynt ac a amlinellir yn yr adroddiad yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau ynghylch yr egwyddorion allweddol a'r penderfyniadau polisi y bydd angen eu gwneud trwy gydol y broses ac yna caniatáu i Swyddogion gymeradwyo'r dogfennau terfynol er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno ymatebion yn unol â'r amserlen. Mae angen trefniadau dirprwyo pellach o’r swyddogion a enwir i Swyddogion eraill hefyd i ganiatáu i swyddogion allu cynrychioli'r Cyngor yn effeithiol yn y broses, e.e. mewn gwrandawiadau llafar.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas ag argymhelliad 2 yn yr adroddiad nad yw caniatáu gwyro oddi wrth y polisi dwyieithrwydd ar gyfer dogfennau, sylwadau a chyflwyniadau fel rhan o'r broses DCO yn cael ei wneud ar chwarae bach ac ni fydd hynny ond yn digwydd yn yr amgylchiadau hynny lle bydd amserlenni tynn / dyddiadau cau yn golygu ei bod yn anodd neu’n amhosib i ddarparu dogfennau dwyieithog erbyn dyddiad penodol. Dylid pwysleisio fodd bynnag y bydd yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r broses DCO ar gael yn yr iaith Gymraeg.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach ei fod yn dymuno i'r dirprwyaethau a gynigir (argymhellion 1 a 3) gael eu gweithredu mewn ymgynghoriad â'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r Cyngor Llawn -

 

Bod y Cyngor:

 

  Yn dirprwyo i’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaeth) mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Arweinydd yr awdurdod i gynnal pob trafodaethau budd-dal cymunedol anstatudol a, lle mae amser (yn ei barn hi) o’r hanfod, i wneud unrhyw benderfyniadau perthnasol i bob un trafodaethau o’r fath mewn cysylltiad â, neu’n deillio o un neu ddau o’r prosiectau dan sylw sef Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru o’r Grid Cenedlaethol a Phrosiect Adeilad Niwclear Wylfa Newydd.

  Ymadael o’r polisi dwyieithog ar gyfer dogfennau, sylwadau a chyflwyniadau a wnaed fel rhan o’r broses Orchymyn Caniatâd Datblygu lle mae’n bwysig neu oherwydd amserlenni, yn amhosibl i swyddogion gydymffurfio â Pholisi Iaith Gymraeg y Cyngor a lle mae’r Prif Weithredwr yn cymeradwyo ymadawiad o’r fath. I nodi fodd bynnag y bydd y cyfan o’r ddogfennaeth ar gael yn yr iaith Gymraeg.

  Dirprwyo i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd y dasg o ymgymryd â holl swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel yr Awdurdod Lleol a’r Awdurdod Cynllunio mewn cysylltiad â, neu’n deillio o un neu ddau o’r prosiectau dan sylw sef Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru y Grid Cenedlaethol a Phrosiect Adeilad Niwclear Wylfa Newydd.

  Yn caniatáu i’r dirprwyaethau a gynigir ym mharagraffau 1 a 3 uchod ac unrhyw gamau gweithredu sydd i’w cymryd oddi tanynt gael eu dirprwyo ymhellach i unrhyw swyddog o’r Cyngor gan y swyddogion y mae’r pwerau wedi eu dirprwyo iddynt.

Dogfennau ategol: